Matthew a Ffion, dau wirfoddolwr yn Rheilffordd Talyllyn

Gwirfoddolwyr ifanc yn arwain y ffordd yn Rheilffordd Talyllyn

Cyhoeddwyd : 03/06/25 | Categorïau: Gwirfoddoli | Newyddion |

Mae gwirfoddolwyr ifanc yn Rheilffordd Talyllyn wedi dod ag hanes yn fyw drachefn gan ennill sgiliau, hyder ac ymdeimlad cryf o gymuned ar yr un pryd drwy brosiect treftadaeth dan arweiniad ieuenctid.

Rhwydwaith cymorth yw Grŵp Aelodau Ifanc (YMG) Rheilffordd Talyllyn i holl wirfoddolwyr ac aelodau ifanc rhwng 14 a 25 oed Cymdeithas Gadwraeth Rheilffordd Talyllyn. Mae’r YMG yn creu amgylchedd llawn hwyl i unrhyw un â diddordeb mewn gwirfoddoli ar y rheilffordd neu’r rheini sydd eisoes yn gwneud hynny.

Derbyniodd YMG Rheilffordd Talyllyn £5,000 gan Grant Gwirfoddoli Ieuenctid Gwynedd a weinyddir gan fudiad Mantell Gwynedd. Mae’r grant yn rhan o’r Grantiau dan arweiniad Ieuenctid a gyllidir gan Lywodraeth Cymru, sef menter sy’n cefnogi prosiectau gwirfoddoli sy’n cael eu dylunio a’u cyflawni gan bobl ifanc. Bob blwyddyn, mae paneli lleol o bobl ifanc rhwng 14 a 25 oed ledled Cymru yn dyfarnu cyllid i syniadau dan arweiniad ieuenctid sy’n gwneud gwahaniaeth yn eu cymunedau.

ADFYWIO’R FAN POWDWR GWN

Defnyddiodd YMG Rheilffordd Talyllyn y cyllid i greu atgynhyrchiad o Fan Powdwr Gwn, y wagen olaf o’i math a fu unwaith yn cludo ffrwydron ar hyd y rheilffordd ac a gafodd ei hanghofio, yn anffodus, gyda threigl amser.  Cynigiodd y grŵp atgynhyrchu’r cerbyd unigryw hwn gan ddefnyddio technegau adeiladu treftadaeth lle y bo’n bosibl, a’i ddefnyddio i adrodd hanes y Chwarel Lechi ym Mryneglwys y bu’r Rheilffordd yn ei gwasanaethu ers talwm.

Dywedodd Matthew, un o’r prif adeiladwyr a rhan o’r pwyllgor a ddatblygodd y syniad, eu bod eisiau rhedeg prosiect y gallai pawb gymryd rhan ynddo a chael rôl mewn ail-greu darn coll o dreftadaeth, rhywbeth a oedd yn bwysig iawn iddo.

‘Rwyf wedi gallu cysylltu â gwirfoddolwyr eraill ar lefel ddyfnach, ac wedi gwneud ffrindiau triw, sydd wedi helpu fy iechyd meddwl’, meddai Matthew. ‘Mae gwirfoddoli wedi rhoi ymdeimlad o falchder a chyflawniad i mi yn yr hyn rwyf wedi’i gwblhau.’

IEUENCTID WRTH Y LLYW

Gwnaeth Ffion hefyd ymgymryd â rôl arwain yn y prosiect. ‘Mae gweithio ar y wagen powdwr gwn wedi datblygu fy sgiliau gwaith coed a gwaith metel. Rwyf hefyd wedi dysgu mwy am y diwydiant llechi sy’n lleol i mi drwy wneud gwaith ymchwil arno.’ Wrth i’r prosiect fynd yn ei flaen, bu Ffion hefyd yn addysgu rhai geiriau Cymraeg a oedd yn ymwneud â’r wagen powdwr i’w chyd-wirfoddolwyr ac roeddent yn mwynhau hyn yn fawr.

I Luke, mae gwirfoddoli yn Rheilffordd Talyllyn wedi bod yn ddrws i gyfeillgarwch newydd a phrofiad ymarferol mewn gweithrediadau’r rheilffordd. Mae’n gwirfoddoli yn yr adran Loco fel glanhawr injan, yn eu helpu i danio a gweithredu’r locomotifau neu eu glanhau cyn teithiau. Mae hefyd yn gwirfoddoli yn yr adran draffig fel blocmon a gwyliwr.

Dywedodd Luke: ‘Mae wedi gwneud byd o wahaniaeth i mi, rwy’n llawer mwy cymdeithasol a hyderus yn fy hun ers i fi ddechrau ac rwyf wedi gwneud llawer o ffrindiau o’r un anian.’

GOFOD GWIRFODDOLI CYNHWYSOL

Dechreuodd Keira wirfoddoli yn Rheilffordd Talyllyn yn 2019, wedi iddi gael ei hannog gan ffrindiau a oedd eisoes yn gysylltiedig. Wedi’i denu gan yr amgylchedd croesawgar a chynhwysol a oedd yn gefnogol iawn o bobl niwroamrywiol ac LHDTC+, cafodd deimlad cryf ei bod yn perthyn. Mae Keira yn gwirfoddoli yn y siop baent yn bennaf, ac yn mwynhau creu arwyddion traddodiadol, ac mae hefyd wedi cymryd rhan mewn gwaith coed a gwaith metel yn ystod y prosiect.

‘Mae wedi fy helpu i ddod o hyd i bobl fel fi, a thrwy hynny, rwyf wedi gwneud rhai o’m ffrindiau gorau ac wedi cwrdd â’m mhartner yno hefyd. Rydyn ni i gyd wedi helpu ein gilydd gyda’r pethau sy’n anodd i ni ac mae gennym ni rwydwaith cymorth hyfryd.’

Fel y Fan Powdwr Gwn ei hun, d’oes dim byd tebyg i’r prosiect hwn. Mae’n ffordd unigryw a bywiog i wirfoddolwyr ymgysylltu â hanes lleol, gan adeiladu a chyfrannu at gymuned ehangach eu hunain.

WYTHNOS GWIRFODDOLWYR 2025

Os yw’r prosiect hwn wedi eich ysbrydoli i ganu clodydd gwirfoddoli a gwirfoddolwyr, manteisiwch ar y cyfle i gymryd rhan yn Wythnos Gwirfoddolwyr 2025.

Mae’r Wythnos Gwirfoddolwyr yn ymgyrch flynyddol ledled y DU a gynhelir o’r dydd Llun cyntaf ym Mehefin i ddathlu a chydnabod cyfraniadau gwirfoddolwyr, a cheir rhagor o wybodaeth ar eu gwefan.

Newyddion cysylltiedig

Cyhoeddwyd: 05/06/25
Categorïau: Gwirfoddoli, Newyddion

Gwirfoddoli: Curiad calon iechyd a gofal yng Nghymru

Darllen mwy

Cyhoeddwyd: 05/06/25
Categorïau: Gwirfoddoli, Newyddion

Tyfu trwy wirfoddoli

Darllen mwy

Cyhoeddwyd: 02/06/25
Categorïau: Gwirfoddoli, Newyddion

Mae Wythnos Gwirfoddolwyr 2025 yma!

Darllen mwy