Heddiw, fe wnaeth y Dirprwy Weinidog a’r Prif Chwip, Jane Hutt ddiolch i’r bobl wych a charedig o bob cefndir ac ym mhob cwr o Gymru sy’n gwirfoddoli i helpu cymunedau i wynebu’r coronavfeirws gyda’i gilydd.
Mae gan Gymru draddodiad cryf o bobl yn helpu ei gilydd ac rydym wedi gweld hyn ar waith dros yr wythnosau diwethaf.
Os ydych chi’n meddwl am wirfoddoli yn ystod y coronafeirws, dyma bum awgrym i chi ddechrau 👇https://t.co/lye9bgaAQ8 pic.twitter.com/NS3pY4WiIk
— Llywodraeth Cymru Cymunedau (@LlC_Cymunedau) March 26, 2020
‘Mae gan Gymru draddodiad cadarn o weld pobl yn helpu ei gilydd, ac rydyn ni wedi gweld hyn ar waith dros yr ychydig wythnosau diwethaf. O godi’r ffôn i siopa dros bobl sy’n hunanynysu, neu helpu ein gwasanaethau cyhoeddus, mae llawer o bethau y gellir eu gwneud.
‘Rwy’ am ddweud diolch – rydych chi’n anhygoel.
‘Os ydych chi am wirfoddoli, mae’n bwysig gofalu eich bod yn ddiogel eich hun. Dilynwch y cyngor isod, a byddwch yn ofalus.’
- Er mwyn gwirfoddoli rhaid i chi fod yn iach, heb unrhyw symptomau fel peswch neu dymheredd uchel, a rhaid i hynny hefyd fod yn wir ar gyfer pawb ar eich aelwyd. Ni ddylid rhoi unrhyw un dan bwysau i wirfoddoli, ac ni ddylech wirfoddoli os ydych dros 70 oed, yn feichiog, neu os oes gennych gyflwr iechyd eisoes.
- Gallwch helpu pobl o’ch cartref eich hun, dros y ffôn neu drwy’r cyfryngau cymdeithasol. Gall ‘helo’ neu sgwrs sydyn dros y ffôn fod yn werthfawr iawn, ond gwnewch yn siŵr eich bod yn ddiogel ar y cyfryngau cymdeithasol.
- Gallwch gydweithio gyda’ch cymdogion i helpu pobl agored i niwed ar eich stryd neu yn eich ardal leol, neu sefydlu grŵp cymunedol newydd sy’n ymateb i Covid-19. Gwnewch yn siŵr bod systemau a phrosesau yn eu lle i’ch diogelu rhag camdriniaeth a niwed.
- Gallwch ymuno â sefydliad gwirfoddoli lleol – edrychwch am gyfleoedd ar Gwirfoddoli Cymru.
- Mae canllawiau gan CGGC ar Ymateb cymunedol i COVID-19 – galluogi ymarfer diogel ac effeithiol.
Dywedodd Ruth Marks, Prif Weithredwr CGGC: ‘Rydyn ni wedi gweld cynnydd enfawr yn nifer y bobl sy’n cynnig rhoi eu hamser. Gan ystyried yr amgylchiadau anodd sy’n wynebu pob un ohonom ni, dylid cymeradwyo hyn, ac mae’r gydnabyddiaeth hon gan Lywodraeth Cymru yn cael ei gwerthfawrogi’n fawr iawn.’
Ceir rhagor o gymorth a chyngor ar http://llyw.cymru/iachadiogel
Mwy ar gwirfoddoli a Covid-19
- Galluogi ymarfer diogel ac effeithiol wrth drefnu ymateb cymunedol i’r coronafirws
- Gallwch nawr ddod o hyd i neu cofrestru cyfleoedd gwirfoddoli ar gyfer cefnogaeth i ddelio gyda coronafeirws ar Gwirfoddoli Cymru.
- Edrych ar ôl ein Gilydd – ymgyrch newydd am sut i helpu pobl sy’n aros adref oherwydd y coronafeirws.
- Dylai unigolion sydd eisiau gwirfoddoli yng Nghymru gofrestru trwy gwirfoddolicymru.net
- Dylai sefydliadau sydd angen cefnogaeth gwirfoddolwyr bostio cyfleoedd ar gwirfoddolicymru.net
- Os oes angen cefnogaeth arnoch gan wirfoddolwyr, dylech gysylltu â’ch cyngor lleol os gwelwch yn dda
- Mae’r swyddi gwirfoddol presennol mewn cymunedau ledled Cymru yn helpu i dynnu pwysau oddi ar y GIG
- Mae trafodaethau ar swyddi gwirfoddoli i helpu’r GIG yn uniongyrchol yng Nghymru yn parhau