Mae Dave, gwirfoddolwr gyda’r Gwasanaeth Gwirfoddol Brenhinol, wedi derbyn cydnabyddiaeth frenhinol fel rhan o’r dathliadau coroni swyddogol.
Mae Dave yn gwirfoddoli gyda phrosiect ‘Memory Lane’ y Gwasanaeth Gwirfoddol Brenhinol yng Nghasnewydd, sy’n gweithio gydag aelodau o’r gymuned leol sy’n byw â gwahanol raddau o ddementia.
Ef oedd un o’r 500 o bobl a dderbyniodd Wobrau Hyrwyddwyr y Coroni am ei ymdrechion gwirfoddoli rhagorol.
Fel gwirfoddolwr Trafnidiaeth Gymunedol, mae Dave yn gyfrifol am yrru pobl sy’n byw â dementia a’u gofalwyr i’r clwb dair gwaith yr wythnos fel y gallant gael cymorth hanfodol a chymdeithasu â phobl eraill. Mae rhai wedi’u hynysu’n ofnadwy – heb Dave i’w cludo i’r clwb dementia bob wythnos, ni fyddent yn gadael y tŷ.
GWNEUD GWAHANIAETH
Dywedodd Dave: ‘Ar ôl ymddeol, roedd gennyf fwy o amser rhydd ac roeddwn i eisiau helpu pobl eraill. Siaradais â’m gwraig, sydd wedi ymadael â ni bellach yn anffodus, amdano a phenderfynu gwirfoddoli. Mae wedi bod yn brofiad gwych ac rwyf mor falch fy mod wedi penderfynu ei wneud.’
Yn dilyn y cyfnodau clo hir a’r ynysu yn ystod y pandemig, roedd llawer o gleientiaid y gwasanaeth yn ei chael hi’n anodd dychwelyd i’r gymuned ac yn dioddef o ddiffyg hyder. Gwnaeth Dave chwarae rhan hanfodol mewn cael cleientiaid i ailgysylltu â’u cymuned. Yn ogystal â chynnig teithiau diogel a chysurus iddyn nhw pan oedden nhw wedi penderfynu dychwelyd i’r grŵp, gwnaeth hefyd chwarae rhan allweddol mewn sicrhau eu bod yn parhau i fod â chysylltiad cymdeithasol. Galluogodd llawer o bobl i deimlo’n hyderus i adael eu cartrefi eto.
Mae Dave yn cael ei werthfawrogi’n fawr gan gleientiaid a gofalwyr, sydd i gyd yn cytuno ei fod yn wirfoddolwr rhyfeddol. Mae Dave yn adnabyddus am fod yn dosturiol ac yn ofalgar, mae bob amser yn fodlon cymryd rhan ac estyn help llaw. Mae ei barodrwydd i ddweud ‘ie’ wedi achub y dydd fwy nag unwaith.
YN BAROD I WEITHREDU’N GYFLYM
Ar un achlysur anffodus pan gafodd gleient strôc, gweithredodd Dave yn gyflym, gan flaenoriaethu iechyd y cleient a mynd ag ef i’r ysbyty er mwyn sicrhau ei fod yn derbyn gofal meddygol.
Ac eto’r llynedd, pan gafodd Reolwr Gwasanaeth Cymru ‘Memory Lane’ ei tharo’n wael ar ddiwrnod y Parti Nadolig, a’r holl fwyd parti yn ei chartref, gweithredodd Dave yn gyflym, gan wirfoddoli’n ddi-oed i gludo’r bwyd i’r clwb. Hebddo ef, ni fyddai’r grŵp wedi gallu mwynhau eu pryd bwyd Nadolig.
HANES HIR O WIRFODDOLI
Aeth Dave ati i wirfoddoli i ddechrau gyda gwasanaeth cyfeillio yng Nghaerffili sy’n mynd i’r afael ag unigrwydd ac ynysu. Yn ddiweddarach, ymunodd â Gwasanaeth Camau Cadarn, sef cydweithrediad rhwng y Groes Goch Brydeinig a’r Gwasanaeth Gwirfoddol Brenhinol i gefnogi pobl dros 50 oed sy’n teimlo’n unig, wedi bod drwy argyfwng personol, neu’n syml, eisiau cefnogaeth ychwanegol yn eu cymuned.
Mae wedi bod yn gwirfoddoli gyda’r Gwasanaeth Gwirfoddol Brenhinol am fwy na chwe blynedd a chaiff ei adnabod a’i garu am ei dosturi, ei fentergarwch a’i barodrwydd i helpu eraill mewn unrhyw ffordd bosibl.
Dywedodd Dave, ‘Rwy’n mwynhau gwirfoddoli, mae’n ffordd hawdd o roi rhywbeth yn ôl i bobl eraill. Mae pawb mor ddiolchgar a charedig bob amser, sy’n gwneud y gwaith yn werth chweil.’
YNGLŶN Â HELPLU CYMRU
Mae Helplu Cymru yn gweithio gyda rhwydwaith Cefnogi Trydydd Sector Cymru (CGGC a’r 19 o Gynghorau Gwirfoddol Sirol), Llywodraeth Cymru a phartneriaid eraill i ddatblygu potensial gwirfoddoli i gefnogi gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru.
Ewch i dudalen we Helplu Cymru, neu i dderbyn y newyddion diweddaraf ar e-bost, cofrestrwch yma a dewis yr opsiwn ‘gwirfoddoli iechyd a gofal’.
Rydyn ni’n ddiolchgar i’r Gwasanaeth Gwirfoddol Brenhinol am eu caniatâd i gyhoeddi stori Dave.