Gwirfoddolwch fel llywodraethwr a chefnogi eich cymuned

Gwirfoddolwch fel llywodraethwr a chefnogi eich cymuned

Cyhoeddwyd : 21/06/21 | Categorïau: Gwirfoddoli |

‘Governors for Schools’ yw un o’r prif elusennau addysg sy’n dod o hyd i wirfoddolwyr medrus ac yn eu gosod a’u cefnogi fel llywodraethwyr ar fyrddau ysgol.

Ym mis Tachwedd 2020, ehangodd ‘Governors for Schools’ ei gwasanaeth lleoli llywodraethwyr i Gymru. Nod yr elusen yw cynorthwyo ysgolion ledled y wlad i redeg yn effeithiol drwy ddod o hyd i lywodraethwyr o ansawdd uchel i rannu eu sgiliau a’u harbenigedd. Gan mai hwn yw’r unig wasanaeth o’i fath yng Nghymru, a bod mwy na 1,000 o swyddi llywodraethwyr gwag ledled y wlad, mae cwmpas enfawr am effaith.

Ynghyd â’r budd y mae ysgolion yn ei gael o’r amrywiaeth eang o sgiliau a phrofiadau y mae llywodraethwyr yn eu cyflwyno i’r bwrdd, mae hefyd yn fuddiol i’r rheini sy’n gwirfoddoli.  Mae’r llywodraethwyr yn cael cyfle i ddwysau eu cysylltiadau â’r gymuned a chwarae rhan ystyrlon mewn addysg, yn ogystal â chael profiad lefel bwrdd a datblygu sgiliau proffesiynol.

BETH YW LLYWODRAETHWR YSGOL?

Mae gan lywodraethwyr ysgol rôl amrywiol a phwysig mewn helpu’r ysgol i redeg yn effeithiol.

Mae ganddyn nhw dair swyddogaeth graidd:

  • Cynllunio cyfeiriad strategol yr ysgol
  • Goruchwylio perfformiad ariannol yr ysgol a sicrhau bod arian yn cael ei wario’n ddoeth
  • Dwyn y pennaeth neu arweinwyr yr ysgol i gyfrif

Mae rôl y llywodraethwr yn fwy strategol na gweithredol. Nid yw llywodraethwyr yn ymwneud â’r gwaith beunyddiol o redeg ysgol, yn hytrach, maen nhw’n cefnogi ac yn herio tîm arweinyddiaeth yr ysgol er mwyn hybu gwelliannau yn yr ysgol.

Gwneud cais i fod yn Llywodraethwr yng Nghymru.

PWY ALL FOD YN LLYWODRAETHWR YSGOL?

Nid oes angen i chi fod yn weithiwr proffesiynol profiadol – mae’n ymwneud ag agwedd yn ogystal ag arbenigedd.

Mae byrddau llywodraethu ysgolion angen pobl fedrus i’w helpu i redeg yn effeithiol, ond mae angen sgiliau caled a meddal o amgylch y bwrdd. Waeth a ydych wedi treulio 20 mlynedd fel cyfrifydd neu ar ddechrau eich gyrfa, mae ysgolion angen sgiliau meddal fel datrys problemau neu negodi cymaint ag arbenigedd penodol.

PA HYFFORDDIANT A CHYMORTH SYDD AR GAEL?

Mae llawer o wirfoddolwyr yn llywodraethwyr am y tro cyntaf – ond yn mynd ymlaen i gael effaith fawr ar yr ysgolion y maen nhw’n eu gwasanaethu.

Mae gan ‘Governors for Schools’ amrywiaeth o fodiwlau e-ddysgu sydd yno i helpu gwirfoddolwyr i ddod yn gyfarwydd â rôl y llywodraethwr a deall y pethau sylfaenol am lywodraethu. Mae’r elusen hefyd yn cynnal gweminarau rheolaidd ar bynciau amrywiol fel y gallwch barhau i ddysgu a datblygu yn y rôl. Ewch yma i ganfod mwy.

Mae pob llywodraethwr yng Nghymru hefyd yn cwblhau hyfforddiant gorfodol drwy’r awdurdod lleol.

DYSGWCH FWY AM WIRFODDOLI FEL LLYWODRAETHWR YSGOL YNG NGHYMRU

Mae ‘Governors for Schools’ yn cynnal gweminarau rheolaidd am ddim i’r rheini sydd â diddordeb mewn dysgu mwy am lywodraethiant ysgolion. Bydd y weminar nesaf yn cael ei chynnal ddydd Iau 24 Mehefin am 12pm. Bydd y tîm wrth law i siarad mwy am yr hyn y mae llywodraethu’n ei olygu, sut i ymgeisio ac i ateb unrhyw gwestiynau gan ddarpar wirfoddolwyr. Cofrestrwch i gael lle.

Fel arall, cysylltwch â loren.nadin@governorsforschools.org.uk am ragor o wybodaeth.

Newyddion cysylltiedig

Cyhoeddwyd: 11/05/23 | Categorïau: Gwirfoddoli | Hyfforddiant a digwyddiadau |

Hyfforddiant am ddim i wirfoddolwyr ddatblygu eu sgiliau

Darllen mwy

Cyhoeddwyd: 11/05/23 | Categorïau: Dylanwadu | Gwirfoddoli | Newyddion |

Gwobrau Elusennau Cymru 2023 ar agor ar gyfer enwebiadau!

Darllen mwy

Cyhoeddwyd: 29/03/23 | Categorïau: Gwirfoddoli | Newyddion |

Lansio Wythnos Gwirfoddolwyr 2023 yng Nghymru

Darllen mwy