IONAWR
Dydd Santes Dwynwen
25 Ionawr
Santes Dwynwen yw Nawddsant cariadon Cymru, fersiwn Cymru o Sant Ffolant. Ar Dydd Santes Dwynwen a Dydd Sant Ffolant bydd y rheini sy’n #carugwirfoddoli yn rhannu eu straeon ar gyfryngau cymdeithasol.
- Hashnodau: #lovevolunteering #carugwirfoddoli #cariad #santesdwynwen #dyddsantesdwynwen
CHWEFROR
Dydd Sant Ffolant
14 Chwefror
Ymunwch â ni i ddathlu cariad … at wirfoddolwyr. Ar Ddydd Sant Ffolant bydd y rheini sy’n dwli ar wirfoddoli yn defnyddio’r hashnod i rannu eu straeon nhw neu straeon gwirfoddolwyr ysbrydoledig.
- Hashnodau: #lovevolunteering #carugwirfoddoli
Wythnos Gwirfoddoli’r Myfyrwyr
8-14 Chwefror
Mae Wythnos Gwirfoddoli’r Myfyrwyr, a redir gan y Rhwydwaith Gwirfoddoli Myfyrwyr, yn amlygu gwirfoddoli a gweithredu cymdeithasol myfyrwyr a’r buddion i fyfyrwyr a’r prosiectau y maen nhw’n eu rhedeg.
EBRILL
Diwrnod Microwirfoddoli
15 Ebrill
Cymerwch ran mewn ‘gweithrediadau blasu, ar gais, heb ymrwymiad sy’n fuddiol i achos gwerth chweil’ – neu ficrowirfoddoli. Mae’r Diwrnod Microwirfoddoli yn gyfle i blatfformau, mudiadau ac unigolion microwirfoddoli ddangos pŵer microwirfoddoli.
MEHEFIN
Wythnos Gwirfoddolwyr
1-7 Mehefin
Yr wythnos hon yw un o’r rhai pwysicaf yn ein calendr bob blwyddyn. Mae’r Wythnos Gwirfoddolwyr yn ddathliad blynyddol o’r cyfraniad y mae miliynau o bobl ledled y DU yn ei wneud drwy wirfoddoli.
- Hashnodau: #volunteers #volunteersweek #ThankYouVolunteers #volunteer #community #charity #wythnosgwirfoddolwyr #gwirfoddolwyr #GwirfoddolwyrDiolch #gwirfoddolwr #cymuned #elusen
- Dolenni: volunteersweek.org, facebook.com/VolunteersWeek
Wythnos Elusennau Bach
14-19 Mehefin
Mae’r Wythnos Elusennau Bach yn dathlu ac yn codi ymwybyddiaeth o waith hanfodol sector elusennau bach y DU a phopeth y mae elusennau bach yn eu gwneud i newid bywydau pobl o bob cwr o’r byd.
AWST
Eisteddfod Genedlaethol
Mae’r Eisteddfod Genedlaethol, a gynhelir yn ystod wythnos gyntaf mis Awst bob blwyddyn, yn ddathliad o ddiwylliant ac iaith Cymru.
TACHWEDD
Diwrnod Rhyngwladol Rheolwyr Gwirfoddolwyr
5 Tachwedd
Diwrnod i ddathlu’r proffesiwn arweinyddiaeth gwirfoddolwyr. Mae Rheolwyr Gwirfoddolwyr yn newid bywydau, bywydau’r gwirfoddolwyr eu hunain a’r rheini sy’n cael eu gwasanaethu gan wirfoddolwyr a arweinir yn dda.
Wythnos Ymddiriedolwyr
1-5 Tachwedd
Mae’r Wythnos Ymddiriedolwyr yn ddigwyddiad blynyddol i amlygu gwaith gwych ymddiriedolwyr a thynnu sylw at y cyfleoedd i bobl o bob lliw a llun i ymuno a gwneud gwahaniaeth
Wythnos #byddaf
22-26 Tachwedd
Mae wythnos #byddaf yn gyfle gwych i hyrwyddo’r rolau y gall pobl ifanc eu chwarae i ddod â chymunedau ynghyd i ddatrys heriau cyffredin. Cefnogir yr ymgyrch #byddaf gan fwy na 1,000 o fudiadau ledled y DU a’r nod yw gwneud cyfranogi mewn gweithredu cymdeithasol fel gwirfoddoli, codi arian, mentora ac ymgyrchu yn beth arferol i bobl ifanc rhwng 10 a 20 oed.
- Twitter: @iwill_campaign
- Hashnodau: #iwill #byddaf #PowerOfYouth #PŵerIeuenctid
RHAGFYR
Diwrnod Rhyngwladol Gwirfoddolwyr
5 Rhagfyr
Gwnaeth y Cenhedloedd Unedig greu’r Diwrnod Rhyngwladol Gwirfoddolwyr ym 1985 i ddathlu ‘pŵer a photensial gwirfoddoliaeth’. Mae’r diwrnod yn codi ymwybyddiaeth o’r cyfraniad y mae gwirfoddolwyr yn ei wneud i’w cymunedau.