Rydyn ni’n clywed bron bob dydd am y pwysau ar y gweithlu iechyd a gofal cymdeithasol. Ar yr un pryd, y maes iechyd a gofal sy’n parhau i fod yn un o’r meysydd mwyaf poblogaidd ar gyfer gwirfoddoli, gyda llawer o wirfoddolwyr yn meddwl am gyfleoedd gyrfaol yn y dyfodol.
Dyma ddwy ffordd y gallwn ni annog gwirfoddolwyr ar daith o’r fath: yn gyntaf, drwy weithio gyda Helplu ar brosiect peilot ‘gwirfoddoli i yrfa’ o fewn amgylchedd clinigol y GIG; yn ail, drwy gyfeirio gwirfoddolwyr at gyfleoedd i fanteisio ar y prentisiaethau a’r hyfforddiant amrywiol sydd ar gael ar gyfer cyflogaeth ym maes gofal cymdeithasol.
1. GWIRFODDOLI I YRFA -CYFLE PEILOT
Mae Comisiwn Bevan a Helplu Cymru (CGGC) yn cydweithio gyda Helplu’r DU ar raglen o’r enw ‘Gwirfoddoli i Yrfa’. Nod hon yw effeithio ar anghenion gweithlu’r GIG ar lefel leol drwy ddylunio a datblygu mentrau gwirfoddoli i yrfa.
Yn ogystal ag ymateb i flaenoriaethau’r gweithlu lleol, mae potensial gan brosiectau i fynd i’r afael â’r anghyfartaledd mewn cyfleoedd drwy dargedu grwpiau sydd heb gynrychiolaeth ddigonol.
GALWAD AM BARTNERIAID PROSIECT
Rydyn ni’n chwilio am ddatganiadau o ddiddordeb gan arweinwyr mewn amrediad o broffesiynau sy’n ymwneud ag iechyd sydd:
- Eisiau datblygu llwybr gwirfoddoli i yrfa o fewn eu mudiadau a’u meysydd clinigol
- Yn gallu arwain menter ‘gwirfoddoli i yrfa’ yn unol â nod strategol y rhaglen, gan weithio gyda chydweithwyr mewnol (e.e. adnoddau dynol, gwasanaethau gwirfoddoli) a chyda hyfforddiant a chymorth allanol
- Yn barod i weithio gyda Helplu i gytuno ar fesurau casglu data ac adrodd ar ddata priodol er mwyn gwerthuso effaith a mewnwelediad
- Yn gallu ymrwymo i gyflenwi prosiect rhwng Ionawr 2022 ac Ionawr 2023
HUNANASESIAD
Y dyddiad cau ar gyfer mynegi diddordeb yw diwedd mis Tachwedd. Erbyn hynny, dylai ymgeiswyr gwblhau hunanasesiad llinell sylfaen sy’n asesu sut mae’r mudiad yn cyflawni ar hyn o bryd yn erbyn agenda gwirfoddoli i yrfa. Mae’n nodi’r meysydd datblygu posibl o ran blaenoriaethau strategol a gweithredol allweddol, arweinyddiaeth glinigol, partneriaethau cymunedol, yr amgylchedd a diwylliant, llwybrau gwirfoddoli i yrfaoedd a chynllunio’r gweithlu.
Mae’r hunanasesiad yn ymwneud â chasglu gwybodaeth gan gydweithwyr a gwirfoddolwyr cyfredol, ac argymhellir caniatáu ychydig o wythnosau i gwblhau hwn.
CYMORTH PROSIECT
Os byddwch chi’n cael eich dewis i ymuno â’r rhaglen, byddwch chi’n elwa ar:
- Gymorth i ddylunio, datblygu, gwerthuso a ‘phecynnu’ amrywiaeth o fentrau llwyddiannus
- Dysgu a rennir a chymorth gan gymheiriaid drwy rwydwaith o brosiectau peilot ledled y DU
- Mynediad at amrediad eang o hyfforddiant a dysgu gan gymheiriaid drwy Gomisiwn Bevan
- Arbenigedd Helpu mewn effaith a dealltwriaeth, gan gefnogi prosiectau unigol a’r rhaglen yn gyffredinol
- Cyfle i gyflwyno i gynulleidfa ehangach yng Nghymru mewn digwyddiad arddangos gan Gomisiwn Bevan, Rhagfyr 2022
- Efallai y bydd ychydig o gyllid ar gael i dalu am fân gostau datblygu fel cael staff ar ddiwrnodau hyfforddiant
SUT I GYMRYD RHAN
Y cam cyntaf i unrhyw un â diddordeb fyddai i gysylltu â Fiona Liddell, Rheolwr Helplu Cymru (fliddell@wva.cymru) i gael rhagor o wybodaeth.
2. PRENTISIAETHAU GOFAL CYMDEITHASOL
Mae prentisiaethau yn cynnig ffordd o gael hyfforddiant, datblygu sgiliau newydd a chael cymwysterau wrth i chi weithio ac ennill. Gall y rhain fod yn gam nesaf delfrydol i wirfoddolwyr sydd eisiau datblygu gyrfa mewn Gofal Cymdeithasol.
Gellir dod o hyd i wybodaeth am y prentisiaethau sydd ar gael a sut i ddechrau arni ar wefan Gofal Cymdeithasol Cymru.
Mae porth Gofalwn.Cymru yn amlygu’r amrediad eang o gyfleoedd sydd ar gael ym meysydd gofal cymdeithasol, y blynyddoedd cynnar a gofal plant, gan gynnwys gwybodaeth am gwrs hyfforddi rhagarweiniol pedwar diwrnod o hyd ar-lein sydd wedi’i gyllido’n llawn, Cyflwyniad i Ofal Cymdeithasol.
SAFONAU AR GYFER GWIRFODDOLWYR
Datblygwyd safonau gwirfoddolwyr ar gyfer sefydlu a hyfforddi gwirfoddolwyr ym maes iechyd a gofal cymdeithasol gan Helplu. Mae adnoddau dysgu ar gael i gefnogi’r safonau hyn, gan gynnwys modiwlau gorfodol ar gyfer y rhai sy’n gwirfoddoli yn y GIG, adnoddau gan Gofal Cymdeithasol Cymru, a gan Gefnogi Trydydd Sector Cymru.
Bydd yr wybodaeth hon yn cael ei chyhoeddi cyn hir, fel taflen wybodaeth ar Hwb Gwybodaeth TSSW.