Mae Age Cymru wedi lansio gwasanaeth Ffrind Mewn Angen i helpu i fynd i’r afael ag unigedd ac arwahanrwydd ymhlith y boblogaeth dros 70 oed o ganlyniad i bellhau cymdeithasol, hunan-ynysu neu warchod.
Bydd pobl hŷn yn gallu cysylltu gyda gwirfoddolwr o Age Cymru, sydd wedi ei hyfforddi a’i archwilio, drwy alwad cyfeillgarwch wythnosol am ddim. Mae’r gwasanaeth yn lansio yn ystod Wythnos Gwirfoddolwyr, wedi ei ariannu gan Lywodraeth Cymru, a gyda chefnogaeth CLILC, Llywodraeth Cymru a Gwirfoddoli Cymru. Anogir gwirfoddolwyr i gofrestru eu diddordeb mewn bod yn rhan o’r cynllun newydd.
Mae’r fenter yn rhan o ymrwymiad Llywodraeth Cymru i wneud Cymru’n genedl dosturiol, a bydd yn cefnogi ffrindiau neu gymdogion sy’n darparu cymorth anffurfiol i helpu pobl hŷn ac eraill sy’n pellhau’n gymdeithasol, hunan-ynysu neu warchod gyda gweithgareddau megis siopa neu gasglu presgripsiynau, i gael mynediad at amrywiaeth o adnoddau ar-lein i’w cefnogi nhw, a byddant yn gallu cofrestru ar gyfer diweddariadau a gwybodaeth ychwanegol.
Ers i’r cyfyngiadau ddod i rym, mae’r elusen wedi gwneud mwy na 10,000 o alwadau i bobl hŷn sy’n ynysig ac unig oherwydd y mesurau, ac wedi delio gyda mwy na 3,000 o ymholiadau dros eu llinell gymorth, felly mae’n gwbl ymwybodol o’r prif heriau ac ofnau sy’n wynebu’r bobl sydd dros 70 oed ar hyn o bryd.
Dywedodd Prif Weithredwr Age Cymru, Victoria Lloyd; ‘Mae nifer o bobl hŷn yn byw o fewn ein cymunedau sy’n teimlo’n unig neu ynysig bob dydd. Mae rhoi cyfle i bobl gysylltu, rhannu eu pryderon, sgwrsio a chwerthin gyda pherson arall yn rhoi cysur enfawr i iddynt.’
Ychwanegodd ‘Nid oes llawer o bobl dros 75 oed yn defnyddio’r we, felly mae gwasanaeth dros y ffôn yn bwysig er mwyn cysylltu â nhw a gwneud iddynt deimlo’n llai ynysig
Dywedodd Julie Morgan, y Dirprwy Weinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: ‘Mae’n gyfnod heriol i bawb, yn enwedig i’r bobl hŷn sydd yn byw ar eu pen eu hunain. Mae’r dymuniad i gysylltu ag eraill yn deimlad naturiol; gallwn deimlo’n unig ac wedi pellhau hebddo.
‘Rwy’n falch fod Llywodraeth Cymru wedi gallu darparu cyllid ar gyfer y gwasanaeth hanfodol hwn. Rwy’n sicr y bydd yn gwneud gwahaniaeth mawr i fywydau’r rhai sy’n ei ddefnyddio.’
Os hoffech wirfoddoli fel cyfaill gwirfoddol dros y ffôn ar gyfer y gwasanaeth Ffrind mewn Angen, gallech ddod o hyd i fwy o fanylion ac yn cofrestru ar Wirfoddoli Cymru.
Cynhelir cyfweliadau gyda’r gwirfoddolwyr dros y ffôn, ac yna gofynnir iddynt gyflwyno dau eirda ac anfon gwiriad DBS ymlaen os oes un ganddynt. Bydd Age Cymru yn darparu hyfforddiant ar-lein, ac yna’n paru gwirfoddolwr gyda pherson hŷn ar gyfer sgwrs wythnosol dros y ffôn am 30 munud. Bydd yr elusen yn darparu cymorth parhaus i’r gwirfoddolwr.
Pe byddech chi neu rywun yr ydych chi’n ei adnabod yn elwa o’r gwasanaeth Ffrind mewn Angen, cysylltwch ag Age Cymru am ragor o wybodaeth ar 08000 223 444 neu ewch i www.agecymru.org.uk/friend-in-need.