Grŵp o wirfoddolwyr yn gwenu ac yn codi eu breichiau

Gwirfoddoli: Curiad calon iechyd a gofal yng Nghymru

Cyhoeddwyd : 05/06/25 | Categorïau: Gwirfoddoli | Newyddion |

Gadewch i ni ddathlu’r Wythnos Gwirfoddolwyr eleni drwy roi diolch enfawr i bawb sydd wedi camu ymlaen i gynnig achubiaeth hanfodol i’n cymunedau bob dydd.

Wrth i ni ddathlu’r Wythnos Gwirfoddolwyr Cenedlaethol, dylem, wrth gwrs, ddweud diolch i wirfoddolwyr ledled Cymru a’r rheini sy’n cefnogi gwirfoddoli.

Mae’r diddordeb mewn gwirfoddoli, yr ymwybyddiaeth a’r gwerthfawrogiad ohono yn parhau i dyfu, sy’n gwneud hon yn adeg wych i sicrhau bod eich mudiad yn weladwy i ddarpar wirfoddolwyr. Ond yn fwy na hynny, mae angen i ni ofyn, ydyn ni’n gwneud digon i gefnogi a chynnal gwirfoddoli?

GWERTH UNIGRYW GWIRFODDOLWYR

Nawr, fwy nag erioed, gallwn ni i gyd werthfawrogi’r cyfraniad unigryw y mae gwirfoddolwyr yn ei wneud i fywydau pobl eraill. Mae gwirfoddolwyr yn ateb galw sy’n unigryw iddyn nhw; nid ydynt yn disodli nac yn dyblygu gwaith staff a gweithwyr proffesiynol, yn hytrach, maen nhw’n gwirfoddoli eu hamser ac yn llenwi bwlch unigryw na ellir ei ddyblygu.

O ysbytai i gartrefi, o gymorth iechyd meddwl i help gyda phrydau bwyd, byddai’n anodd ar wasanaethau ledled Cymru. Nid llenwi’r bylchau mae gwirfoddolwyr yn ei wneud – maen nhw’n cyfoethogi’r gofal, yn lleihau pwysau ar staff ac yn dod ag elfen ddynol na all yr un system unigol ei gopïo.

GWIRFODDOLI YNG NGHYMRU: GRYM HANFODOL AR GYFER IECHYD A LLES

Wrth i ni ddathlu’r Wythnos Gwirfoddolwyr Genedlaethol, mae goleuni’n cael ei daflu ar y rôl hanfodol y mae gwirfoddolwyr yn ei chwarae mewn cynorthwyo system iechyd a gofal Cymru – nid dim ond heddiw, ond ymhell i mewn i’r dyfodol.

Gall gwirfoddoli helpu Cymru i ymateb i rai o’i heriau mwyaf, poblogaeth sy’n heneiddio, prinder staff mewn gweithluoedd, anhwylderau meddyliol a chorfforol ac ynysigrwydd cymdeithasol sydd ar gynnydd.

Gwyddys bod gwirfoddoli rheolaidd yn fuddiol i’r derbynyddion a’r gwirfoddolwyr eu hunain – yn magu hyder, lleihau unigrwydd ac yn gwella llesiant. Ond er mwyn datgloi ei botensial go iawn, mae angen i ni ailfeddwl a moderneiddio sut rydym yn ymgysylltu, yn cefnogi ac yn strwythuro gwirfoddoli ledled ein cymunedau.

Disgwylir i Gymru weld cynnydd sylweddol mewn gwirfoddolwyr hŷn erbyn 2040. Gyda’r symudiad hwn yn y demograffig, daw cyfle mawr – ond hefyd angen i ail-ddylunio rolau er mwyn diwallu anghenion a galluoedd newidiol. Ar yr un pryd, rhaid i ni wneud mwy i gyrraedd grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol, yn enwedig y rheini a fyddai’n elwa fwyaf ar y cysylltiadau a’r hyder y gall gwirfoddoli ei gyflwyno.

Os ydym eisiau Cymru decach a mwy gwydn, rhaid i wirfoddoli fod yn flaenllaw mewn sut rydym yn dylunio ein dyfodol. Mae hynny’n golygu polisïau cynhwysol, partneriaethau cryfach a buddsoddiad parhaol.

NID RHYWBETH BRAF EI GAEL MO GWIRFODDOLI, MAE’N HANFODOL

Mae miloedd o bobl ledled Cymru yn rhoi o’u hamser i helpu pobl eraill, gan gynnig cysur, cysylltiad a gofal pan mae eu hangen mwyaf. Ac eto’n amlach na heb, mae gwirfoddoli yn parhau i fod yn ased cudd. Nid yw’n cael ei werthfawrogi, ei gyllido na’i ddefnyddio digon.

Mae papur Comisiwn Bevan ‘Gwerthoedd a Gwerth y Trydydd Sector’ yn galw am strategaeth genedlaethol i ymwreiddio gwirfoddoli i mewn i ddyfodol iechyd a gofal yng Nghymru – drwy ddatblygu rolau hyblyg, ystyrlon a chryfhau partneriaethau rhwng gwasanaethau statudol a’r sector gwirfoddol.

BOD YN STRATEGOL AM WIRFODDOLI

Mae gan holl arweinwyr y maes iechyd a gofal cymdeithasol ran mewn hybu gwirfoddoli fel cydran graidd o’n gwasanaethau. Ni ddylai fod yn rhywbeth y meddylir amdano’n ddiweddarach ond yn hytrach yn agwedd hanfodol o’n gwaith cynllunio a’n gweledigaeth. Trwy fuddsoddi yn y gwaith o gydlynu gwirfoddolwyr, mesur eu heffaith a sicrhau bod gwirfoddolwyr yn cael eu hintegreiddio i mewn i’r tîm, gallwn gryfhau gwead ein cymunedau.

Dewch i ni fanteisio ar y cyfle hwn yn ystod yr Wythnos Gwirfoddolwyr i nid yn unig dathlu ein gwirfoddolwyr, ond i hefyd ymrwymo i greu amgylchedd cefnogol sy’n cydnabod ac yn meithrin eu cyfraniadau amhrisiadwy. Gyda’n gilydd, gallwn sicrhau bod gwirfoddoli yn parhau i fod yn guriad calon iechyd a gofal yng Nghymru.

RHAGOR O WYBODAETH 

Am ragor o wybodaeth, edrychwch ar y fframwaith ar gyfer gwirfoddoli neu i chwilio am gyfleoedd gwirfoddoli cyfredol yn eich ardal, ewch i wefan Gwirfoddoli Cymru.

Newyddion cysylltiedig

Cyhoeddwyd: 05/06/25
Categorïau: Gwirfoddoli, Newyddion

Tyfu trwy wirfoddoli

Darllen mwy

Cyhoeddwyd: 03/06/25
Categorïau: Gwirfoddoli, Newyddion

Gwirfoddolwyr ifanc yn arwain y ffordd yn Rheilffordd Talyllyn

Darllen mwy

Cyhoeddwyd: 02/06/25
Categorïau: Gwirfoddoli, Newyddion

Mae Wythnos Gwirfoddolwyr 2025 yma!

Darllen mwy