Mae Richard Green yn Llysgennad Safle yng Nghronfeydd Dŵr Llys-faen a Llanisien, Caerdydd. Mae gwirfoddoli yn rhoi’r cyswllt cymdeithasol a gollodd ar ôl i’w wraig farw.
BUM MLYNEDD YN ÔL
Bum mlynedd yn ôl, bu farw gwraig Richard ac roedd ar ei ben ei hun am y tro cyntaf yn ei fywyd. Roedd yn cadw’i hunan yn brysur drwy goginio, glanhau, garddio a chario ymlaen â’r pethau roedden nhw’n arfer eu gwneud gyda’i gilydd, er enghraifft cerdded, teithio a gwersylla.
‘Ond’ meddai Richard, ‘fe ddes i i sylweddoli, ar ôl tua chwe mis o ailhyfforddi fy hunan, mai gweithgareddau ar fy mhen fy hunan oedd rhain a bod angen mwy o gwmni arna i. Fel cwpl roedden ni’n hapus gyda’n cwmni ein hunain, felly doedd gen i ddim rhwydwaith cymdeithasol mawr i’w fwynhau.
‘Roedd angen i fi ganolbwyntio ar beth ro’n i’n dal i allu ei wneud, yn hytrach na phoeni am beth nad o’n i’n gallu ei wneud. Felly fe wnes i gais i fod yn wirfoddolwr. Fe wnaeth fy nheulu fy annog i. Fe wnes i ddewis dilyn fy niddordeb, sef yr amgylchedd, a dod o hyd i rywbeth y byddwn yn ei fwynhau ac roedd gen i ryw fath o wybodaeth amdano.’
Bellach mae Richard yn wirfoddolwr yng Nghronfeydd Dŵr Llys-faen a Llanisien. Yn ei siaced lachar, mae’n cerdded drwy safle’r gronfa ddŵr am ychydig oriau bob wythnos. Mae’n helpu ymwelwyr i fwynhau a defnyddio’r safle.
GWIRFODDOLI
Meddai Richard: ‘Mae gen i drefn. Dw i’n cyfarch pobl ac yn cychwyn sgwrs fel y galla i rannu ychydig o hanes y safle, y cyfleusterau a’r cyfleoedd hamdden ac, yn arbennig, statws arbennig y safle.
‘Mae ganddo ddau Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig. Un ar gyfer y ffyngau yn y glaswelltiroedd o amgylch Cronfa Ddŵr Llanisien ac un ar gyfer adar y dŵr sy’n gaeafu ar Gronfa Ddŵr Llys-faen.
‘Dw i’n cael cefnogaeth gan Dŵr Cymru a Chyfeillion Cronfeydd Dŵr Caerdydd gyda pharcio am ddim pan dw i ar ddyletswydd, a dw i’n cael te am ddim o gaban y Ceidwaid. Dw i’n gallu datblygu fy ngwybodaeth yn barhaus drwy fynychu cyflwyniadau am agweddau o’r safle.’
Mae gwirfoddoli yn helpu Richard i barhau i fod yn iach yn gorfforol, yn feddyliol ac yn gymdeithasol.
SGYRSIAU CYHOEDDUS HENEIDDIO’N DDA
Cafodd Richard ei gyfweld mewn sgwrs gyhoeddus ddiweddar ar gyfer y Brifysgol Agored fel rhan o sesiwn ‘Archwilio gwahanol ffyrdd o gadw’n heini wrth heneiddio’.
EISIAU GWIRFODDOLI
Os oes gennych ddiddordeb mewn gwirfoddoli, edrychwch ar wefan Gwirfoddoli Cymru i weld pa gyfleoedd gwirfoddoli sydd ar gael yn eich ardal chi ar hyn o bryd.