Gwnaeth sesiwn yn gofod3 eleni ddisgrifio datblygiad fframwaith ar gyfer gwella cydweithio rhwng y sector cyhoeddus, y sector preifat a’r sector gwirfoddol, fel y gellir defnyddio gwirfoddolwyr yn fwy effeithiol mewn argyfyngau yn y dyfodol.
Mae gwirfoddoli wedi hen ddiffinio ymatebion cymunedau i argyfwng. Mae graddfa ac amlder yr argyfyngau rydyn ni wedi’u hwynebu’n ddiweddar wedi taflu sbotolau ar weithredu gwirfoddol – ei bwysigrwydd, effaith a’i gynaliadwyedd.
Gwnaeth yr ymateb cymunedol gwerthfawr i bandemig Covid-19 ac argyfyngau mawr eraill amlygu’r angen i gydlynu gwirfoddolwyr yn effeithiol.
Gyda chymorth Grŵp Gwydnwch Cymru, gwnaeth y Groes Goch Brydeinig, gyda chyllid gan Grant Strategol Gwirfoddoli Cymru, gydlynu gwaith ymchwil ac ymgynghoriad er mwyn gwella’r gwaith o gydlynu gwirfoddolwyr yng Nghymru wrth ymateb i argyfyngau, drwy edrych ar bartneriaethau o fewn a rhwng y trydydd sector, y sector preifat a’r sector cyhoeddus.
Cafodd y gwaith hwn ei arwain gan y Groes Goch a’i gyllido gan grant Strategol Gwirfoddoli Cymru.
Mae’r fframwaith yn ystyried y camau gwahanol mewn argyfwng:
Weithiau (ond nid bob amser), mae yna gam cynllunio, a ddilynir gan anterth yr argyfwng a chyfnod adfer. Mae gan dri math o wirfoddolwyr ran i’w chwarae:
- gwirfoddolwyr sy’n canolbwyntio ar argyfyngau, sydd wedi’u hyfforddi a’u paratoi i ymateb 24/7, fel timau achub. Yn ystod Covid-19, profiad llawer o wirfoddolwyr o’r fath oedd na chawsant eu defnyddio digon.
- gwirfoddolwyr, sydd â sgiliau trosglwyddadwy, mynediad at gyfarpar a gwybodaeth leol werthfawr. Mae’r rhain ar gael mewn niferoedd mawr drwy’r mudiadau y maen nhw fel arfer yn gwirfoddoli â nhw.
- Gwirfoddolwyr digymell, gan gynnwys pobl sy’n mynd heibio a chymdogion sydd eisiau helpu. Po fwyaf yw’r argyfwng, mwya’n byd y mae angen rheoli’r ymateb hwn yn ofalus, am resymau effeithlonrwydd a diogelu.
Bydd adroddiad ar gael cyn hir, gydag argymhellion ar gyfer fframwaith cydlynu a fydd yn mynd at Fforwm Gwydnwch Llywodraeth Cymru i fwrw ymlaen ag ef.
Er mwyn mynd â’r gwaith hwn ymlaen, bydd angen ymgysylltu â rhanddeiliaid mewn fforymau gwydnwch cenedlaethol a lleol a chasglu data ar fudiadau lleol a’u gallu, er mwyn llywio cynlluniau argyfwng lleol.
Os hoffech gael gwybod pan fydd yr adroddiad ar gael, ebostiwch fliddell@wcva.cymru