Mae ein prosiect Helplu Cymru yn cynnig cymorth arbenigol am ddim i fudiadau yng Nghymru i fesur a dangos effaith eu rhaglen wirfoddoli, gwnewch gais nawr!
Ydych chi’n rhedeg rhaglen wirfoddoli yng Nghymru sy’n cefnogi canlyniadau iechyd, lles neu ofal cymdeithasol?
Mae Gwerthusiad Canlyniadau Gwirfoddoli Helplu Cymru yn gyfle peilot newydd i fudiadau’r sector gwirfoddol a’r sector cyhoeddus yng Nghymru.
Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn derbyn chwe mis o gymorth arbenigol am ddim gan Helplu er mwyn deall, mesur a dangos y gwahaniaeth y mae eu gwirfoddolwyr yn ei wneud yn well.
PAM CYMRYD RHAN?
Erbyn diwedd y rhaglen, bydd gan ymgeiswyr llwyddiannus:
- Ddealltwriaeth fwy eglur o’r gwahaniaeth y mae gwirfoddolwyr yn ei wneud
- Tystiolaeth gadarn o’r effaith i’w rhannu gyda chyllidwyr, partneriaid a rhanddeiliaid
- Mewnwelediadau i helpu i gryfhau a datblygu eu rhaglen wirfoddoli
BETH SYDD WEDI’I GYNNWYS?
Dros chwe mis, bydd Helplu yn gweithio ochr yn ochr â chi i helpu i ddeall, dangos a chryfhau effaith eich rhaglen wirfoddoli.
Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn derbyn:
- Cymorth arbenigol am ddim gan arbenigwyr gwerthuso
- Adnoddau ymarferol i gasglu tystiolaeth ac adborth
- Dadansoddiad a mewnwelediadau i effaith gwirfoddolwyr
- Adroddiad sy’n crynhoi canfyddiadau’r gwerthusiad ac astudiaeth achos
- Tystiolaeth i gefnogi cynllunio, datblygiad gwasanaethau a cheisiadau am gyllid yn y dyfodol
- Cyfleoedd i ddysgu arferion da a’u rhannu
PWY ALL WNEUD CAIS?
Mae’r cyfle hwn yn agored i fudiadau’r sector cyhoeddus a’r sector gwirfoddol yng Nghymru y mae eu rhaglen wirfoddoli:
- Wedi bod yn gweithredu ers o leiaf 12 mis
- Yn cefnogi pobl 18 oed a hŷn
- Yn canolbwyntio ar wella canlyniadau iechyd, lles a/neu ofal cymdeithasol
- Yn dangos ymrwymiad i ddysgu a defnyddio tystiolaeth
- Fel arfer yn cynnwys o leiaf 20 o wirfoddolwyr gweithredol*
SESIYNAU GWYBODAETH
Bydd sesiynau gwybodaeth ar-lein yn cael eu cynnal ym mis Hydref. Am ragor o wybodaeth ewch i’n tudalen gwerthuso canlyniadau gwirfoddoli 2026.
RHAGOR O WYBODAETH A GWNEUD CAIS
Am ragor o wybodaeth a chanllawiau ar ymgeisio, ewch i’n tudalen gwerthuso canlyniadau gwirfoddoli 2026.
Mae ceisiadau’n agor ar 28 Medi 2026 ac yn cau ar 19 Hydref 2026.