Mae Helplu Cymru yn cynnig cymorth arbenigol am ddim i fudiadau yng Nghymru i fesur a dangos effaith eu rhaglen wirfoddoli, gwnewch gais nawr!

Ydych chi’n rhedeg rhaglen wirfoddoli yng Nghymru sy’n cefnogi canlyniadau iechyd, lles neu ofal cymdeithasol?

Mae Gwerthusiad Canlyniadau Gwirfoddoli Helplu Cymru yn gyfle peilot newydd i fudiadau yn y sector gwirfoddol a’r sector cyhoeddus yng Nghymru.

Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn derbyn chwe mis o gymorth arbenigol am ddim gan Helplu er mwyn deall, mesur a dangos y gwahaniaeth y mae eu gwirfoddolwyr yn ei wneud yn well.

Mae ceisiadau’n agor ar 28 Medi 2026 ac yn cau ar 19 Hydref 2026.

Byddwn yn cynnal sesiwn gwybodaeth am ddim ym mis Hydref lle gallwch ddarganfod mwy.

PWY ALL WNEUD CAIS?

Mae’r cyfle hwn yn agored i fudiadau’r sector cyhoeddus a’r sector gwirfoddol yng Nghymru y mae eu rhaglen wirfoddoli:

  • Wedi bod yn gweithredu ers o leiaf 12 mis
  • Yn cefnogi pobl 18 oed a hŷn
  • Yn canolbwyntio ar wella canlyniadau iechyd, lles a/neu ofal cymdeithasol
  • Yn dangos ymrwymiad i ddysgu a defnyddio tystiolaeth
  • Fel arfer yn cynnwys o leiaf 20 o wirfoddolwyr gweithredol*

Gwnewch yn siŵr eich bod yn darllen y canllawiau i weld y meini prawf cymhwysedd llawn.

* Bwriad y gofyniad am wirfoddolwyr gweithredol yw sicrhau bod digon o weithgarwch i gynnal gwerthusiad ystyrlon. Gellir ystyried rhaglenni gydag ychydig yn llai o wirfoddolwyr gweithredol o hyd lle mae potensial cryf ar gyfer gwerthuso effaith. Anogir darpar ymgeiswyr yn gryf i fynychu sesiwn wybodaeth neu gysylltu â ni gydag unrhyw gwestiynau. Darllenwch y canllawiau ymgeisio i weld y meini prawf cymhwysedd llawn cyn gwneud cais.

PAM CYMRYD RHAN?

Erbyn diwedd y rhaglen, bydd gennych chi:

  • Ddealltwriaeth fwy eglur o’r gwahaniaeth y mae gwirfoddolwyr yn ei wneud
  • Tystiolaeth gadarn o’r effaith i’w rhannu gyda chyllidwyr, partneriaid a rhanddeiliaid
  • Mewnwelediadau i helpu i gryfhau a datblygu eu rhaglen wirfoddoli

BETH SYDD WEDI’I GYNNWYS?

Dros chwe mis, bydd Helplu yn gweithio ochr yn ochr â chi i helpu i ddeall, dangos a chryfhau effaith eich rhaglen wirfoddoli.

Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn derbyn:

  • Cymorth arbenigol am ddim gan arbenigwyr gwerthuso
  • Adnoddau ymarferol i gasglu tystiolaeth ac adborth
  • Dadansoddiad a mewnwelediadau i effaith gwirfoddolwyr
  • Adroddiad sy’n crynhoi canfyddiadau’r gwerthusiad ac astudiaeth achos
  • Tystiolaeth i gefnogi cynllunio, datblygiad gwasanaethau a cheisiadau am gyllid yn y dyfodol
  • Cyfleoedd i ddysgu arferion da a’u rhannu

SESIYNAU GWYBODAETH

Bydd sesiynau gwybodaeth ar-lein yn cael eu cynnal ym mis Hydref. I archebu lle mewn sesiwn wybodaeth, defnyddiwch y ddolen archebu neu cysylltwch ag iechydagofal@wcva.cymru os oes gennych unrhyw gwestiynau.

DOGFENNAU CAIS

  • Canllawiau ymgeisio
  • Ffurflen gais ar-lein – ceisiadau yn agor ar 28 Medi 2026 ac yn cau 19 Hydref 2026. Bydd y ddolen i’r ffurflen gais yn cael ei chyhoeddi ar y dudalen we hon pan fydd ceisiadau ar agor.

Am ragor o wybodaeth, cysylltwch ag iechydagofal@wcva.cymru.

Disgwylir i’r rhaglen redeg o fis Ionawr i fis Mehefin 2027.