Bydd papur a ysgrifennwyd ar gyfer Comisiwn Bevan ac a gyhoeddwyd ganddo, yn cael ei lansio ym mis Tachwedd. Dyma’r crynodeb o’r canfyddiadau.
Mae gwirfoddolwyr bob amser wedi gwneud cyfraniad hanfodol i faes iechyd a gofal yng Nghymru, ond mae profiad pandemig COVID-19 wedi gwneud pŵer a photensial gwirfoddoli yn fwy gweladwy. Mae’r pwysau ar ein system iechyd a gofal a’i gweithlu a delir yn mynnu ein bod yn edrych yn fwy difrifol ar sut gallwn fwyafu potensial ein holl adnoddau, gan gynnwys gwirfoddoli.
DEALL Y DIRWEDD
Mae gwirfoddolwyr yn weithredol mewn cymunedau ac o fewn lleoliadau iechyd a gofal, yn cyfrannu at yr agenda atal, yn cefnogi gofal rheng flaen neu’n ei roi ar waith ac yn galluogi adferiad mewn llawer o ffyrdd. Mae angen i ni ddeall natur amrywiol gwirfoddoli, sy’n cwmpasu amrediad cyfan o weithgarwch, o rolau anffurfiol i rolau strwythuredig ac arbenigol mwy ffurfiol.
Er y nodweddir gweithgarwch anffurfiol gan ei hunanlywodraeth a’i annibyniaeth o’r wlad, gall cyfleoedd gwirfoddoli ffurfiol gael eu cyd-gynhyrchu, eu hadnoddi a’u datblygu i fynd i’r afael â chanlyniadau iechyd cenedlaethol blaenoriaethol. Bydd hyn yn fwyaf effeithiol ochr yn ochr â gweithgareddau statudol a phroffesiynol fel rhan o system ranbarthol integredig.
EFFEITHIAU CADARNHAOL GWIRFODDOLI
Mae fwyfwy o dystiolaeth i gefnogi effeithiau cadarnhaol gwirfoddoli ar iechyd a lles cleifion, gofalwyr a defnyddwyr gwasanaeth, ar staff, ar systemau iechyd ac ar wirfoddolwyr eu hunain.
Gall helpu i liniaru rhai o’r problemau enbyd sy’n wynebu ein system iechyd a gofal heddiw trwy, er enghraifft, gynnig amser ar gyfer sgyrsiau, cymorth ymarferol neu wybodaeth sy’n canolbwyntio ar y claf, trwy alluogi gwasanaethau i gael eu hymestyn yn ehangach ac yn agosach at adref a thrwy dynnu galwadau oddi ar ysgwyddau gwasanaethau aciwt.
FFRAMWAITH IECHYD A GOFAL CYMDEITHASOL
Mae fframwaith ar gyfer gwirfoddoli ym maes iechyd a gofal cymdeithasol wedi’i ddatblygu i ddarparu sylfaen gyffredin ar gyfer datblygu gwirfoddoli ar lefel ranbarthol sy’n integredig, yn gynaliadwy ac wedi’i adnoddi.
Mae angen i ni ddatblygu’r hyn sy’n gweithio’n dda a’i rannu’n ehangach er mwyn cyflawni newid diwylliannol o fewn cyrff statudol ac amlsector a fydd yn galluogi lle i wirfoddoli ffynnu a chael cymaint â phosibl o effaith. Nid yw gofal iechyd darbodus yn haeddu llai.
DARGANFOD MWY
Gallwch ddarllen y papur llawn yma. Am fwy o wybodaeth am wirfoddoli ym maes iechyd a gofal cymdeithasol ewch i’n tudalen we Helplu Cymru.