Mae CGGC yn eich gwahodd i ddod i grŵp ffocws a dweud eich dweud ar rôl y trydydd sector yn y maes iechyd a gofal cymdeithasol.
Mae Richard Newton Consulting yn partneru gydag CGGC a Chomisiwn Bevan ar bapur i’w gyhoeddi yng Ngwanwyn 2023 sy’n edrych ar werthoedd a gwerth y sector gwirfoddol i’r maes iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru.
Mae hwn yn brosiect pwysig, rhan o ddarn o waith ehangach dros nifer o flynyddoedd, sy’n anelu at ddefnyddio cydberthnasau, gwirfoddoli a chymorth yn effeithiol ar draws y system iechyd a gofal i fynd i’r afael â heriau blaenoriaethol a sicrhau bod mudiadau gwirfoddol a gwirfoddolwyr yn cyfrannu i’r eithaf at ganlyniadau iechyd a gofal.
ARGYMHELLION AR GYFER CYDWEITHIO
Gan ystyried y pwysau ar y sector iechyd a gofal cymdeithasol mae hwn yn brosiect blaenoriaethol i CGGC, a gefnogir gan Lywodraeth Cymru fel rhan o brosiect Seilwaith y Trydydd Sector ar gyfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol.
Bydd y papur terfynol yn cyflwyno argymhellion ynghylch rôl y sector gwirfoddol yn y maes iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru, ei bwynt gwerthu unigryw (USP) yn y maes hwn a’r camau gweithredu y gellir eu cymryd i fwyafu ei botensial.
CYMERWCH RAN
Mae’n bwysig bod cymaint â phosibl o fudiadau yn cael eu llais a’u profiadau wedi’u clywed er mwyn hysbysu’r darn hwn o waith, yn cynnwys mudiadau darparu’r sector gwirfoddol, mudiadau seilwaith ac aelodaeth, a darparwyr o’r sector cyhoeddus.
Gan hynny, hoffem eich gwahodd i grŵp ffocws 90 munud o hyd, a gynhelir yn ddigidol (Saesneg yn unig). Cofrestrwch ar ddyddiad ac amser sy’n gyfleus i chi o’r dolenni isod (Peidiwch â phoeni am enw’r grwpiau ffocws. Y rhain a ddefnyddiwyd yn wreiddiol er mwyn sicrhau bod Richard Newton Consulting yn cyrraedd cymaint â phosibl o fudiadau).
Nodwch – dim ond un sesiwn sydd angen i chi gofrestru arni.
- Grŵp ffocws terfynu – CGGC 1 – Dydd Mawrth 7 Chwefror 2023 – 10 am – 11.30 am: https://www.eventbrite.co.uk/e/516748908897
- Grŵp ffocws terfynu – CGGC 2 – Dydd Mawrth 7 Chwefror 2023 – 2 pm – 3.30 pm: https://www.eventbrite.co.uk/e/516753131527
Os hoffech chi ddod ond na allwch chi ar y dyddiadau / amserau uchod, cysylltwch â ni. Efallai y byddwn ni’n gallu cynnig opsiynau pellach i chi gyda grwpiau eraill.
CYNNWYS ERAILL
Mae croeso i chi ddod â defnyddiwr gwasanaeth a/neu wirfoddolwr sydd â phrofiad o iechyd neu ofal cymdeithasol a ddarparwyd gan y sector gwirfoddol gyda chi. Cofiwch gofrestru pob mynychwr ar wahân.
Os na allwch chi ddod i unrhyw un o’r diwrnodau hyn, neu i gael rhagor o wybodaeth am y prosiect, cysylltwch ag admin@richard-newton.co.uk.