Rydym yn chwilio am fudiadau gwirfoddol i ddweud wrthym sut y gall eu gwaith arbed arian trwy leihau’r baich ar y system iechyd a gofal.
Mae Prosiect Iechyd a Gofal CGGC yn gweithio gyda Phrifysgol De Cymru ar brosiect ymchwil a fydd yn edrych ar gyfraniad economaidd y sector gwirfoddol at atal pobl rhag defnyddio’r system iechyd a gofal yng Nghymru.
Rydym yn awyddus i glywed gan y sector gwirfoddol am unrhyw waith ymchwil neu werthusiadau y mae wedi’i wneud neu ei gomisiynu a allai gyfrannu at bapur a fydd yn crynhoi’r dystiolaeth bresennol.
YR AMCANION
Amcanion y papur hwn yw:
- Nodi pa feysydd cymorth a ddarperir gan y sector gwirfoddol sy’n addas ar gyfer ymchwilio i effaith a/neu werth economaidd ei gyfraniad at atal pobl rhag defnyddio’r system iechyd a gofal.
- Nodi methodolegau ymchwil economaidd, partneriaid ymchwil a chyrff cyllido addas.
YR ARGYMHELLION
Mae’r gwaith ymchwil hwn wedi’i gomisiynu’n rhannol i edrych ar yr argymhellion ym mhapurau ymchwil diweddar CGGC, Gwerthoedd a gwerth y trydydd sector, gwerth a gwerthoedd gwirfoddoli, a Pam mae’r trydydd sector yn bwysig i iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru. Mae’r argymhellion hyn yn cynnwys:
- ‘Mae angen i bob sector, a’r cyhoedd, ddeall y buddion a gyflwynir gan y trydydd sector yn llwyr’. I wneud hyn, mae angen i ni ‘ddatblygu, deall a chyfathrebu gwerth y trydydd sector o ran canlyniadau iechyd a gofal cymdeithasol’.
- Mae gwirfoddolwyr yn hanfodol i gefnogi darpariaeth mudiadau’r sector gwirfoddol. Mae angen i ni, felly, sicrhau bod arweinwyr iechyd a gofal cymdeithasol yn ‘deall natur a gwir werth gwirfoddoli’.
Fel rhan o’r gwaith ymchwil hwn, mae’r Prosiect yn awyddus i wybod am unrhyw waith ymchwil perthnasol y gallai eich mudiad fod wedi’i gyhoeddi ers Ionawr 2015.
CYSYLLTWCH Â NI
Os oes gennych unrhyw adroddiadau neu wybodaeth y credwch y gallai helpu’r papur i fodloni ei amcanion, anfonwch nhw ar e-bost at David Cook, Swyddog Prosiect Iechyd a Gofal Cymdeithasol CGGC yn dcook@wcva.cymru erbyn dydd Gwener 20 Mai 2025.
Croesawir PDFs, dogfennau Word a dolenni uniongyrchol.
Bydd yr holl waith ymchwil a ddefnyddir yn cael ei gyfeirio ato’n briodol yn y papur terfynol.