Gwnewch yn siŵr fod eich tîm yn gweithio mewn harmoni ar eich adferiad drwy ymuno â’r weminar hon gan yr arbenigwyr cyfathrebu, ‘Housebrands’.
Ceisio ymlwybro drwy anawsterau’r cyfyngiadau symud er mwyn sicrhau bod eich mudiad yn parhau i lwyddo, nawr ac yn y dyfodol?
Mae un peth yn sicr, os ydych chi eisiau i’ch mudiadau fod yn wydn ac adfer yn gyflym, bydd arnoch angen tîm unedig a hollol ymrwymedig.
Mae angen hyn gan fod gwaith tîm da yn hanfodol ar gyfer perfformiad uchel mewn unrhyw fusnes neu fudiad nid-er-elw. Yn syml, mae mudiadau unedig yn gwerthu mwy ac yn codi mwy o arian.
Sut allwn ni uno ein mudiad a hybu morâl staff?
Gan ystyried yr ansicrwydd presennol, d’oes ryfedd fod morâl staff yn isel. Sut allwch chi ennyn brwdfrydedd eich holl staff pan maen nhw dan gymaint o bwysau?
Ymunwch â’r arbenigwyr brand a chyfathrebu, ‘Housebrands’, ar gyfer y weminar 45 munud hon am ddim i edrych ar y rôl y gall diwylliant corfforaethol ei chwarae mewn sicrhau bod eich tîm yn uchel eu cymhelliant.
Gan gymryd y safbwynt bod mwy nag arian ar feddwl cyflogeion brwdfrydig, byddwch chi’n edrych ar rai o’r problemau sy’n wynebu staff heddiw a sut mae brandiau poblogaidd yn datblygu diwylliannau y gall eu pobl wirioneddol uniaethu â nhw.
Mae’r weminar yn defnyddio profiad ‘Housebrands’ o weithio gyda brandiau poblogaidd i greu diwylliannau llwyddiannus.
Bydd digonedd o amser i ofyn cwestiynau a thrafod – ond mae croeso i chi ymlacio gyda diod o’ch dewis a dim ond gwrando os oes well gennych chi.
Cofrestrwch ar gyfer y weminar ar Eventbrite: https://www.eventbrite.co.uk/e/are-you-walking-the-walk-tickets-122055393969
Ynglŷn â’r trefnwyr:
Mae ‘Housebrands’ yn asiantaeth frand a chyfathrebu sydd wedi hen ennill ei blwyf . Mae ganddi brofiad sy’n cwmpasu prosiectau brand o fusnesau newydd a busnesau bach a chanolig, i gwmnïau nid-er-elw, cwmnïau o’r radd flaenaf a gwledydd.
Gan weithio ar draws amrediad eang o sectorau ledled y DU ac yn rhyngwladol, mae eu bryd ar wneud arbenigedd brand yn hygyrch i bawb. Dyma pam eu bod wedi lansio eu rhaglen datblygu brand eu hunain yn ddiweddar er mwyn grymuso mudiadau o bob lliw a llun i greu’r brand cryfaf posibl eu hunain, am ffracsiwn o’r gost arferol, gan wneud ymaith â’r angen i gyflogi ymgynghorwyr allanol.