Rhowch reswm i’ch staff neidio allan o’r gwely hyd yn oed ar fore diflas mewn cyfnod clo.
Mae’n anodd cynnal brwdfrydedd pobl yn yr hinsawdd sydd ohoni. Ond gyda Covid yn para’n hirach na wnaethon ni erioed feddwl, mae’n bwysicach fyth fod eich staff yn frwdfrydig, yn ymrwymedig ac yn gynhyrchiol.
Staff sy’n gwneud mudiadau llwyddiannus. Gall y mudiadau hynny â gweithlu ffyddlon ac ymroddgar ddod drwy’r gwaethaf yn well am eu bod yn ymhél mwy â’u cynulleidfa darged. Yn syml, maen nhw’n gwneud neu’n codi mwy o arian.
Beth yw’r gyfrinach?
Mae’n ymwneud â’r diwylliant – diwylliant cadarnhaol lle mae pawb yn deall pwysigrwydd eu rôl, pam eu bod yn ‘mynd i’r gwaith’ hyd yn oed ar Ddydd Llun diflas.
Ymunwch â ni i ddarganfod sut i greu diwylliant o hyrwyddwyr brand yn ein gweminar am ddim, Dydd Llun 9 Tachwedd am 4pm.
Mewn dim ond 45 munud, byddwn ni’n edrych ar y problemau sy’n wynebu staff heddiw a sut i danio’u brwdfrydedd heb dorri’r banc.
Os ydych chi’n awyddus i drafod, bydd digon o amser am gwestiynau a thrafodaeth, ond os byddai’n well gennych roi’ch traed i fyny gyda phaned o goffi a dim ond gwrando, mae hynny’n iawn hefyd.
Dydd Llun 9 Tachwedd 4.00-4.45 pm
I gadw lle, anfonwch e-bost at:
webinars@housebrands.co.uk
Neu ewch i:
https://www.eventbrite.com/e/monday-blues-tickets-127286799243
Ynglŷn â’r trefnwyr:
Mae ‘Housebrands’ yn asiantaeth frand a chyfathrebu sydd wedi hen ennill ei blwyf . Mae ganddi brofiad sy’n cwmpasu prosiectau brand o fusnesau newydd a busnesau bach a chanolig, i gwmnïau nid-er-elw, cwmnïau o’r radd flaenaf a gwledydd.
Gan weithio ar draws amrediad eang o sectorau ledled y DU ac yn rhyngwladol, mae eu bryd ar wneud arbenigedd brand yn hygyrch i bawb. Dyma pam eu bod wedi lansio eu rhaglen datblygu brand eu hunain yn ddiweddar er mwyn grymuso mudiadau o bob lliw a llun i greu’r brand cryfaf posibl eu hunain, am ffracsiwn o’r gost arferol, gan wneud ymaith â’r angen i gyflogi ymgynghorwyr allanol.