Gwirfoddolwyr yn helpu i gyflwyno un o’r 17 digwyddiad ‘gwyrdd glan yr afon’ a gynhelir gan Ganolfan Datblygu Cymunedol De Glan yr Afon

‘Gweithredu ysbrydoledig dan arweiniad y gymuned ar yr amgylchedd…’

Cyhoeddwyd : 31/10/22 | Categorïau: Cyllid | Newyddion |

Mae adroddiad Cynllun Cymunedau y Dreth Gwarediadau Tirlenwi 2021/22 yn tynnu sylw at gyflawniadau anhygoel grwpiau cymunedol ledled Cymru sydd wedi bod yn gweithio i wella’r amgylchedd yn eu cymunedau.

Dyma’r bedwerydd flwyddyn weithredol ar gyfer y Cynllun Cymunedau y Dreth Gwarediadau Tirlenwi Cymru gyfan, ac eleni dyfarnwyd cyllid i 33 prosiect lleol. Mae’r prosiectau lleol yn ceisio gweithredu ar yr amgylchedd mewn ardaloedd o fewn pum milltir i safle tirlenwi neu orsaf trosglwyddo gwastraff sylweddol.

Mae’r adroddiad yn pwysleisio sut mae’r cynllun yn cyflawni yn erbyn blaenoriaethau deddfwriaeth allweddol gan gynnwys Maniffesto’r Prif Weinidog, Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol a Strategaeth Economi Gylchol.

PWYSIGRWYDD EIN HAMGYLCHEDD NATURIOL

Dywedodd Lindsay Cordery-Bruce, Cadeirydd y Cynllun Cymunedau Trethi Tirlenwi:

‘Eleni, gwelwyd rhywfaint o weithredu ysbrydoledig dan arweiniad y gymuned ar yr amgylchedd gan brosiectau a ariennir gan Gynllun Cymunedau y Dreth Gwarediadau Tirlenwi (LDTCS). Ar ôl y tarfu a achoswyd gan gyfyngiadau symud cenedlaethol a’r pandemig COVID-19, mae’r cadernid a’r dyfeisgarwch a ddangoswyd gan grwpiau i gyflawni prosiectau sy’n ymateb i’r heriau sy’n wynebu cymunedau wedi creu argraff arnaf.

Mae gwerth gweithredu dan arweiniad gwirfoddolwyr yn thema cyson yn yr adroddiad hwn, sy’n dangos pwysigrwydd cynnwys holl aelodau cymunedau i weithio ochr yn ochr â’n hamgylchedd naturiol.

Rwyf yn falch o weld cymaint o weithgarwch yn cael ei alluogi ledled Cymru a’r manteision gwych parhaus a gyflawnir gan y cynllun.’

EIN PROSIECTAU

Mae’r adroddiad yn cynnwys astudiaethau achos o brosiectau llwyddiannus blaenorol sydd wedi cyflawni prosiectau anhygoel yn eu cymunedau. Er enghraifft:

  • Caffi Trwsio Cymru, gan ddangos sut mae’r mudiad caffi atgyweirio wedi tyfu o grant bach i ailddefnyddio a thrwsio hybiau sy’n cael eu cynnwys yn y rhaglen lywodraethu newydd.
  • Overton Growers sydd wedi gweithio gyda phobl o’r gymuned o amgylch Owrtyn i gymryd rhan mewn gwirfoddoli bywyd gwyllt gan greu dôl flodau gwyllt, clirio rhywogaethau goresgynnol, a darparu blychau cynefinoedd ar gyfer bywyd gwyllt.
  • FRAME Sir Benfro sydd wedi datblygu calendr blynyddol o ddigwyddiadau ailddefnyddio ac wedi agor Meddygfa Dodrefn FRAME.
  • Cyngor Sir y Fflint a draddododd brosiect cynefin Bagillt, a weithiodd i wella a diogelu cynefin amffibiad prinnaf Cymru, y llyffant natterjack.
  • Foothold Cymru a gyflwynodd y prosiect Wise Up to Waste yn codi ymwybyddiaeth am sut i leihau gwastraff bwyd a chefnogi pobl i newid ymddygiad.
  • Climate Action Caerffili Gweithredu Hinsawdd sydd wedi creu Coedwig Fechan, a fydd yn cymryd 30 gwaith yn fwy o garbon, yn lleihau’r risg o lifogydd, yn lleihau llygredd sŵn ac aer ac yn cynyddu bioamrywiaeth.
  • Canolfan Datblygu Cymunedol South Riverside, a gyflwynodd brosiect arloesol, â ffocws cymunedol yn ardal Glan yr Afon, Caerdydd i helpu aelodau lleol o’r gymuned i wella bioamrywiaeth yn yr ardal.
  • Radiate Arts CIC a wnaeth greu canolfan greadigol Clywedog i gynnig lle diogel a chynhwysol ar gyfer lles personol a grŵp, gan greu ffyrdd i helpu eraill i gyflawni rhagolwg meddyliol cadarnhaol.

Darllenwch yr adroddiad llawn yma.

CYLLID DAL AR GAEL

Os ydych chi’n teimlo eich bod wedi’ch ysbrydoli i feddwl am ffyrdd o wella’r amgylchedd yn eich ardal chi, mae’r Cynllun Cymunedau y Dreth Gwarediadau Tirlenwi (LDTCS) bellach ar agor i geisiadau. Ar gyfer prif grantiau rhwng £5,000 – £49,000 a phrosiectau o arwyddocâd cenedlaethol hyd at £250,000.

Y terfyn amser ar gyfer ceisiadau yw 8 Ionawr 2023, fydd prosiectau llwyddiannus yn cychwyn yn Mawrth 2023.

Os oes gennych chi syniad prosiect a fyddai o fudd i’ch cymuned, edrychwch i weld os ydych chi’n gymwys trwy ymweld a’n gwefan a defnyddio y map i weld lle mae’r lleoliadau cymwys. Bydd Cynllun Cymunedau y Dreth Gwarediadau Tirlenwi yn ariannu prosiectau sy’n canolbwyntio ar Fioamrywiaeth, Lleihau Gwastraff a Dargyfeirio Gwastraff o Safleoedd Tirlenwi a Gwelliannau Amgylcheddol Ehangach.

HELP I WNEUD CAIS

Rydym yn cael llawer iawn o geisiadau sy’n gwneud y broses ariannu’n un gystadleuol iawn. Os hoffech gymorth ac arweiniad i ddatblygu prosiect gallwch gysylltu â’ch Cyngor Gwirfoddol Sirol lleol.

Er mwyn cyflwyno cais am gyllid, bydd angen i chi gofrestru gyda Phorth Cais Amlbwrpas (MAP) CGGC. Os ydych wedi cofrestru gyda MAP o’r blaen, gallwch fewngofnodi trwy nodi’ch enw defnyddiwr a’ch cyfrinair ar y sgrin gartref. Gall sefydliadau gofrestru trwy ymweld â’r wefan https://map.wcva.cymru.

Os oes angen help arnoch i gofrestru ar MAP dilynwch y fideo yma.

Os oes gennych gwestiwn am Gynllun Cymunedau y Dreth Gwarediadau Tirlenwi cysylltwch â Thîm Cronfeydd Grant WCVA drwy ebostio ldtgrants@wcva.cymru.

Newyddion cysylltiedig

Cyhoeddwyd: 23/08/24 | Categorïau: Cyllid | Gwybodaeth a chymorth | Newyddion |

Yr ymgyrch ‘ewyllysgaredd’ sy’n ennill tir

Darllen mwy

Cyhoeddwyd: 11/07/24 | Categorïau: Cyllid | Newyddion |

Mae’r Bwrsari i arweinwyr yng Nghymru yn ôl

Darllen mwy

Cyhoeddwyd: 25/05/24 | Categorïau: Cyllid |

Cryfhau’r bartneriaeth rhwng Cymru ac Affrica

Darllen mwy