Dwy fenyw drawst yn gwisgo crysau-t sy'n darllen WCVA CGGC

Gweithio yn CGGC

Cyhoeddwyd : 03/02/20 | Categorïau: Newyddion |

Yn CGGC rydym yn cynnig ystod eang o fuddion a chyflogaeth hyblyg sy’n gwneud gwahaniaeth.

PAM GWEITHIO YN CGGC?

Fel cyflogwr, mae Gyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru (CGGC) yn cynnig nifer o fuddion megis cynllun gweithio hyblyg, pensiwn o 9% o’ch cyflog, a mynediad i raglen cymorth i weithwyr. Mae CGGC yn buddsoddi yn eu gweithwyr a’u datblygiad. Yn ogystal â bod yn Gyflogwr Cyflog Byw, wedi ymrwymo i dalu cyflog byw go iawn i staff, mae CGGC wedi eu gwbrwyo gyda’r achrediad Buddsoddi Mewn Pobl.

RÔLAU 

Rheolwr Partneriaethau Natur Lleol (LNP) Cymru

Cyflog: £31,093 yn codi i £32,811 y flwyddyn yn dilyn cyflawni cyfnod prawf o chwe mis yn llwyddiannus.

Lleoliad: Caerdydd, Rhyl

Disgrifiad: Bydd deiliad y swydd yn datblygu ac yn darparu ymrwymiad CGGC i’r prosiect cenedlaethol Natur Lleol Cymru i adeiladu rhwydwaith effeithiol a bywiog o bartneriaethau natur lleol ar draws holl awdurdodau lleol ac awdurdodau parc cenedlaethol Cymru, er mwyn gwneud gwahaniaeth cynaliadwy, hir-dymor i adferiad natur.

Diwrnod cau: 17 Chwefror 2020

Ymgeisiwch ar recriwt3

Swyddog Cymorth Partneriaethau Natur Lleol (LNP) Cymru 

Cyflog: £22,182 yn codi i £23,632 y flwyddyn yn dilyn cyflawni cyfnod prawf o chwe mis yn llwyddiannus.

Lleoliad: Caerdydd, Rhyl

Disgrifiad: Fel Swyddog Cymorth LNP Cymru, darparu cymorth i dîm staff LNP Cymru i sicrhau bod y prosiect yn cael ei weithredu, ei weinyddu a’i fonitro’n effeithiol a bod adroddiadau effeithiol yn cael eu cynhyrchu arno. Rydym yn chwilio am bobl sydd am weithio mewn tîm prysur ac sy’n gallu addasu wrth i flaenoriaethau a dyddiadau cau newid.

Diwrnod cau: 17 Chwefror 2020

Ymgeisiwch ar recriwt3

Swyddog Cymorth Grantiau 

Cyflog: £22,182 yn codi i £23,632 y flwyddyn yn dilyn cyfnod prawf llwyddiannus o 6 mis (pro-rata)

Lleoliad: Caerdydd, Rhyl

Disgrifiad: Dyma gyfle i weithio ar gynlluniau grant amrywiol sy’n hwyluso gweithgarwch cymunedol yng Nghymru a’r tu hwnt. Cefnogi gweithgarwch CGGC yn rheoli grantiau nad ydynt yn rhai Ewropeaidd i sicrhau bod y cronfeydd a reolir yn cael eu gweithredu, eu gweinyddu, eu hasesu, eu monitro a’u hadrodd yn effeithiol.

Diwrnod cau: 10 Chwefror 2020

Ymgeisiwch ar recriwt3

I gael mwy o fanylion a ffurflen ymgeisio ffoniwch 029 2043 1741, neu anfonwch e-bost at HR@wcva.cymru

Croesawir ceisiadau yn y Gymraeg ac ni fyddant yn cael eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau yn Saesneg.

Newyddion cysylltiedig

Cyhoeddwyd: 10/10/24 | Categorïau: Gwybodaeth a chymorth | Newyddion |

Gwobrau Elusennau Cymru 2024 – Cyhoeddi’r teilyngwyr

Darllen mwy

Cyhoeddwyd: 04/10/24 | Categorïau: Gwybodaeth a chymorth | Newyddion |

Sut i gymryd rhan yn Wythnos Elusennau Cymru

Darllen mwy

Cyhoeddwyd: 04/10/24 | Categorïau: Dylanwadu | Newyddion |

Llythyr agored i’r cabinet newydd

Darllen mwy