Grŵp o fenywod yn swyddfa yn eistedd wrth ddesg

Gweithio i CGGC – rydym yn recriwtio Rheolwr Gwirfoddoli

Cyhoeddwyd : 21/04/26 | Categorïau: Newyddion |

Rydyn ni’n chwilio am unigolyn brwdfrydig ag ysgogedig i arwain a rheoli’r gwaith o ddarparu gwasanaeth cymorth gwirfoddoli CGGC dros Gymru gyfan.

Yn dilyn lansiad y Dull Newydd o Wirfoddoli, bydd y deiliad swydd yn gyfrifol am sicrhau bod y gwasanaeth gwirfoddoli yn cael ei ailwampio i gyd-fynd yn llwyr â’r Dull Newydd.

RHEOLWR GWIRFODDOLI

Categori Cymraeg: Dymunol

Llawn amser, 35 awr yr wythnos yn hyblyg 

£40,517 yn codi i £41,733 y flwyddyn

Cyfnod penodol tan 31 Mawrth 2028

Mae CGGC yn cyfrannu 9% o’ch cyflog blynyddol i’w gynllun pensiwn cymeradwy.

Lleoliad ac hyblygrwydd: Yn CGGC, rydym yn croesawu gweithio hybrid a hyblyg. Mae ein staff yn gweithio’n hyblyg ar hyd a lled Cymru a bydd gennych chi’r opsiwn i weithio o bell (gan gynnwys gartref) neu yn ein canolfannau swyddfa yn Aberystwyth a Chaerdydd, a ledled Gogledd Cymru yn llogi mannau cymunedol bach i ddod â staff ynghyd. Nid oes unrhyw ddiwrnodau swyddfa gorfodol y tu hwnt i gyfarfodydd allweddol a gofynion penodol y tîm.

PAM GWEITHIO YN CGGC?

Mae ein buddion staff yn cynnwys 25 diwrnod o wyliau â thâl ynghyd ag wyth gŵyl banc a phum diwrnod disgresiwn, Cynllun Pensiwn Personol, Rhaglen Cymorth i Weithwyr, cynllun tâl salwch uwch, gweithio hyblyg a chynllun arian gofal iechyd.

Rydym yn fudiad sy’n croesawu amrywiaeth. Mae gennym bolisïau rhagorol er mwyn cael cydbwysedd rhwng bywyd a gwaith, caiff gweithio hyblyg ei hybu, a’n diwylliant yw meithrin staff drwy arweinyddiaeth effeithiol a gwaith tîm rhagorol.

Mae CGGC yn buddsoddi yn ei gyflogeion a’u datblygiad. Yn ogystal â bod yn Gyflogwr Cyflog Byw sy’n ymrwymedig i dalu’r cyflog byw gwirioneddol i staff, mae CGGC wedi derbyn achrediad Buddsoddwyr mewn Pobl.

Rhagor o wybodaeth am weithio i CGGC.

YNGLŶN Â’R RÔL

Bydd y deiliad swydd yn pontio’r bwlch rhwng gweledigaeth strategol ac effaith y sector, gan arwain y gwaith o gyflwyno dulliau gweithredu ac adnoddau a fydd yn galluogi gwirfoddoli amrywiol, cynhwysol a chynaliadwy. Trwy feithrin cydberthnasau lefel uchel â rhanddeiliaid a defnyddio prosesau gwerthuso cadarn, bydd y deiliad swydd yn sicrhau bod cynnig gwirfoddoli CGGC yn cael ei arwain gan dystiolaeth, yn wydn ac o ansawdd uchel.

BYDD RHAI O’CH PRIF DDYLETSWYDDAU YN CYNNWYS

  • Creu a chynnal cydberthnasau a rhwydweithiau â thimau mewnol
  • Arwain cyflwyniad a datblygiad parhaus gwybodaeth, cyngor, canllawiau a hyfforddiant gwirfoddoli CGGC yn unol â’r Dull Newydd o Wirfoddoli a strategaeth CGGC.
  • Gweithredu fel arweinydd gweithredol CGGC ar gyfer gwirfoddoli a’r prif bwynt cyswllt ar gyfer gwirfoddoli yng Nghymru.

Mae rhestr fanylach o gyfrifoldebau i’w gweld yn y disgrifiad swydd.

SUT I WNEUD CAIS

Dyddiad cau: 11 Mai 2026

Dyddiad cyfweliad: 20 & 21 Mai 2026

Darllenwch y swydd-ddisgrifiad swydd llawn a gwneud cais yma.

Croesawir ceisiadau Cymraeg ac ni fyddant yn cael eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau Saesneg.

 

Newyddion cysylltiedig

Cyhoeddwyd: 12/05/26
Categorïau: Newyddion

Datganiadau o Ddiddordeb – Comisiynu o ansawdd trwy ymagweddau cydweithredol

Darllen mwy

Cyhoeddwyd: 11/05/26
Categorïau: Newyddion

Ymunwch â’n Pwyllgor Cyllid a Risg

Darllen mwy

Cyhoeddwyd: 06/05/26
Categorïau: Newyddion

Mae CGGC yn cyflogi – Swyddog Prosiect Digidol

Darllen mwy