Mae cynllun grant Cymru ac Affrica wedi galluogi mudiadau fel Teams4U a Chwmni Cydweithredol Menywod Chomuzangari i gynnal prosiectau sy’n gwella urddas mislif i ferched ifanc.
Fel rhan o’n hymrwymiad i’r Cynllun Gweithredu Strategol ar gyfer Urddas Mislif a gyhoeddwyd yn ddiweddar gan Lywodraeth Cymru, mae CGGC wedi bod yn gweithio mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru drwy Gynllun grant Cymru ac Affrica.
Mae’r cynllun wedi cynorthwyo mudiadau i redeg prosiectau yn Affrica Is-Sahara i helpu i wella urddas mislif. Daliwch ati i ddarllen i weld beth rydyn ni wedi’i gyllido a sut i gysylltu os hoffech chi drafod prosiect Cymru Affrica gyda’n Tîm Grantiau yma yn CGGC.
Mae cyllid ar gael nawr drwy’r cynllun, ac mae’r cylch presennol ar agor am geisiadau tan 21 Gorffennaf 2023.
‘MAEN NHW’N BYW AG URDDAS’
Yn 2021, gwnaeth y mudiad Teams4U o Wrecsam redeg prosiect yn Uganda a oedd yn canolbwyntio ar roi mynediad at ddŵr a gosod toiledau, cawodydd a chyfleusterau newid mewn 23 ysgol yn ardal Kumi. Gwnaeth hyn ganiatáu i ferched barhau â’u haddysg pan oedden nhw ar eu mislif. Cafodd ddisgyblion hefyd gynnyrch mislif y gellid eu hailddefnyddio a gwybodaeth am hylendid mislif, er mwyn chwalu’r mythau a’r tabŵs ynghylch mislifoedd.
Cyn y prosiect, roedd 29% o ferched yn colli diwrnodau o’r ysgol am achosion a oedd yn ymwneud â’r mislif, ond ar ôl y prosiect, gostyngodd y ffigur hwn i ddim ond 5% o ferched. Drwy ddarparu eitemau ar gyfer y mislif y gellid eu golchi i ferched, bu modd i deuluoedd yn Kumi arbed cryn dipyn o arian, oherwydd gall un pecyn o badiau untro fod yn gyfwerth â diwrnod o gyflog.
Dywedodd Sam Malinga, Prif Swyddog Gweithredol Sanitation Africa Cyf: ‘Mae merched wyddoch chi, pan maen nhw’n cael eu mislif, yn colli pum diwrnod y mis o ysgol. Felly bydd yr ystafelloedd newid hyn yn annog mwy o ferched i aros yn yr ysgol. Ac maen nhw hefyd yn gwneud eu bywydau nhw ychydig yn fwy cyfleus, ac maen nhw’n byw ag urddas.’
DARPARU SGILIAU AC ADNODDAU YN ZIMBABWE
Mudiad yng Nghymru yw Cwmni Cydweithredol Menywod Chomuzangari sy’n cael ei arwain gan fenywod o Affrica ar wasgar. Yn 2022, cynhaliodd y grŵp brosiect a addysgodd ddisgyblion yn Zimbabwe ar sut i wneud eu heitemau mislif amldro eu hunain. Gwnaeth hwn nid yn unig roi’r cyflenwadau angenrheidiol iddyn nhw, ond gwnaeth hefyd eu helpu i ddatblygu sgiliau gwnïo.
Cafodd y padiau a oedd ar ôl eu dosbarthu wedyn ymhlith teuluoedd pentref Chomuzangari, fel bod modd i bawb o’r gymuned elwa ar yr arbedion cost a’r gwelliannau hylendid. Gwnaeth Ysgol Uwchradd Muzondo arolygu presenoldeb disgyblion yn yr ysgol cyn y prosiect a chanfod bod merched yn colli pum diwrnod y mis o ysgol ar gyfartaledd. Unwaith y cafodd y merched yr eitemau mislif yr oedd arnyn nhw eu hangen, canfu’r ysgol bod y merched yn gallu mynychu bob dydd.
YNGLŶN Â GRANTIAU CYMRU AC AFFRICA
Mae Cynllun grant Cymru ac Affrica yn cynorthwyo mudiadau a gwirfoddolwyr o Gymru i gysylltu â chymunedau yn Affrica Is-Sahara, codi ymwybyddiaeth ohonynt yng Nghymru, a chyflwyno prosiectau ystyrlon sy’n gwneud gwahaniaeth go iawn i fywydau pobl. Mae hyn yn helpu i feithrin cysylltiadau parhaus ar draws gwledydd ac yn ffurfio rhan o’n hymrwymiad i fod yn ‘Gymru sy’n gyfrifol ar lefel fyd-eang’ o dan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol.
Rydyn ni’n croesawu ceisiadau gan fudiadau yng Nghymru sy’n gweithio gyda phartneriaid yn Affrica ar brosiectau sy’n cyfrannu at ein prif themâu, sef iechyd, dysgu gydol oes, y newid yn yr hinsawdd a’r amgylchedd, a bywoliaethau cynaliadwy. Os hoffech chi wneud cais am gyllid drwy gynllun grant Cymru ac Affrica, ewch i’n gwefan am ragor o wybodaeth neu ffoniwch y tîm ar 0300 111 0124, gan ddewis opsiwn 3 i gyrraedd y Tîm Grantiau.