Mae grŵp o bobl amrywiol yn sefyll o gwmpas bwrdd mewn ystafell gyfarfod

Gweithio i ni – dwy rôl newydd yn CGGC

Cyhoeddwyd : 13/06/24 | Categorïau: Newyddion |

Rydym yn recriwtio ar gyfer swyddi ‘Rheolwr Datblygu Busnes a Chydberthnasau’ a ‘Swyddog Amrywiaeth Chwaraeon Cenedlaethol’

PAM GWEITHIO YN CGGC?

Yma yn CGGC, rydyn ni’n cynnig amrywiaeth eang o fuddion a chyflogaeth hyblyg sy’n gwneud gwahaniaeth.

Fel cyflogwr, gall CGGC (Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru) gynnig nifer o fuddion fel gweithio’n hyblyg neu mewn modd hybrid, pensiwn ar 9% o’ch cyflog, a mynediad at raglen cymorth i gyflogeion.

Mae CGGC yn buddsoddi yn ei gyflogeion a’u datblygiad. Yn ogystal â bod yn Gyflogwr Cyflog Byw, sy’n ymrwymedig i dalu cyflog byw gwirioneddol i’w staff, mae CGGC wedi ennill achrediad Buddsoddwyr mewn Pobl.

Rhagor o wybodaeth am weithio i CGGC.

RHEOLWR DATBLYGU BUSNES A CHYDBERTHNASAU

Oriau: 35 awr yr wythnos, yn hyblyg

Lleoliad: Mae gan CGGC bolisi gweithio’n hyblyg ar waith, sy’n golygu y gall ein pobl weithio cyfran o’u hamser yn ein swyddfeydd neu o bell (gan gynnwys gartref). Rydyn ni’n fudiad Cymru gyfan gyda chanolfannau swyddfa yn Aberystwyth, Caerdydd a’r Rhyl. Bydd angen mynychu rhai digwyddiadau staff a galwadau gwaith penodol yn ein swyddfeydd

Cyflog: £36,652 yn cynyddu i £38,606 y flwyddyn ar ôl cwblhau cyfnod prawf o chwech mis yn llwyddiannus

Ynglyn â’r rôl: Yma yn CGGC rydym yn bwriadu amrywio a chydlynu ein gweithgareddau cynhyrchu incwm yn well. Os ydych chi’n mwynhau meithrin perthnasoedd gwaith rhagorol ac eisiau cyfle i weithio ar draws sefydliad deinamig a gwneud gwahaniaeth gwirioneddol drwy’r hyn a gyflawnwch, byddem wrth ein bodd yn clywed gennych.

Dyddiad cau: 1 Gorffennaf 10am

SWYDDOG AMRYWIAETH CHWARAEON CENEDLAETHOL

Oriau: 17.5 awr yr wythnos, yn hyblyg

Lleoliad: Mae gan CGGC bolisi gweithio’n hyblyg ar waith, sy’n golygu y gall ein pobl weithio cyfran o’u hamser yn ein swyddfeydd neu o bell (gan gynnwys gartref). Rydyn ni’n fudiad Cymru gyfan gyda chanolfannau swyddfa yn Aberystwyth, Caerdydd a’r Rhyl. Bydd angen mynychu rhai digwyddiadau staff a galwadau gwaith penodol yn ein swyddfeydd

Cyflog: £32,372 yn cynyddu i £34,308 pro rata’r flwyddyn ar ôl cwblhau cyfnod prawf o chwe mis yn llwyddiannus.

Ynglyn â’r rôl: Rydym yn chwilio am unigolyn brwdfrydig a fydd yn defnyddio ei brofiad bywyd a’i ddoniau creadigol i gydlynu cyfleoedd i gymunedau amrywiol gymryd rhan mewn chwaraeon. Bydd yn datblygu cysylltiadau â chlybiau ‘prif ffrwd’ a chyrff llywodraethu ac yn gweithio fel rhan o bartneriaeth strategol i ffurfio’r chwaraeon a fydd yn cael eu darparu i gymunedau amrywiol ledled Cymru. Mae hwn yn gyfle delfrydol i unrhyw un sy’n frwd am wneud gwahaniaeth i’r dirwedd chwaraeon a gwneud mannau chwaraeon yn fwy cynhwysol.

Dyddiad cau: 25 Mehefin 10am

Darllenwch y disgrifiadau swydd llawn ar Recriwt3

Croesawir ceisiadau Cymraeg ac ni fyddant yn cael eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau Saesneg.

Newyddion cysylltiedig

Cyhoeddwyd: 04/10/24 | Categorïau: Gwybodaeth a chymorth | Newyddion |

Sut i gymryd rhan yn Wythnos Elusennau Cymru

Darllen mwy

Cyhoeddwyd: 04/10/24 | Categorïau: Dylanwadu | Newyddion |

Llythyr agored i’r cabinet newydd

Darllen mwy

Cyhoeddwyd: 03/10/24 | Categorïau: Gwybodaeth a chymorth | Newyddion |

Swyddi Wag – Ymunwch â thîm cyllid CGGC

Darllen mwy