Mae sawl rheswm gwych ichi ymuno â thîm CGGC. Fel nifer o elusennau, rydym yn cynnig ystod eang o fuddion a chyflogaeth hyblyg sy’n gwneud gwahaniaeth.

Fodd bynnag, yma yn CGGC, rydym yn cadw at ein haddewid. Mae ein staff yn dweud wrthym ein bod gwneud llawer mwy na chynnig mentrau gwych yn unig, megis cynnig cynllun gwirfoddoli i staff, ac rydym yn gwneud pob ymdrech i sicrhau y gallwn gymryd mantais llawn ohonynt.

Beth y gall CGGC ei gynnig i chi fel aelod o staff

Cyfleoedd gwych i ddatblygu eich gyrfa.

Drwy ein rhaglen hyfforddi staff, rydym yn sicrhau eich bod yn llwyddo yn eich rôl ac yn dysgu’r sgiliau i’ch helpu i ddatblygu a symud ymlaen yn eich gyrfa.

Teimlo’n rhan o rywbeth.

CGGC yw y lle i ddechrau gyrfa yn y sector elusennau yng Nghymru. Rydym yn cynnig cyfle ichi ddysgu’n uniongyrchol am y gwaith arbennig a wneir gan fudiadau gwirfoddol ledled y wlad, a’r cyfle i’w galluogi i wneud mwy o wahaniaeth gyda’n gilydd.

WCVA staff sorting clothing at the Tenovus Cancer Care warehouse as part of our Employer Supported Volunteering scheme

Staff CGGC yn cael trefn ar ddillad yng Nghanolfan Ofal Tenovusfel rhan o’n cynllun Gwirfoddolia Gefnogirgan Gyflogwr

A allai gweithio i ni weithio i chi?

Trefniadau gweithio hyblyg i bawb

Rydyn ni’n gweithredu cynllun ‘flexi’ i’ch helpu chi i ffitio eich gyrfa o amgylch eich ymrwymiadau personol, yn ogystal â 25 diwrnod o wyliau blynyddol, â gwyliau banc ar ben hynny, a phum diwrnod arall drwy disgresiwn (a gaiff eu defnyddio fel arfer pan fo’r swyddfa wedi cau dros y Nadolig). Rydym hefyd yn cynnig cyfraniadau pensiwn hael.

Swyddi gwag

Nid oes gennym swyddi ar gael ar hyn o bryd. Beth am danysgrifio i’n rhestr e-bost i gael clywed am gyfleoedd yn y dyfodol?

Peidiwch â cholli’r cyfle

Os hoffech chi gael gwybod rhagor am gyfleoedd yn CGGC yn y dyfodol, anfonwch neges e-bost at people@wcva.cymru i danysgrifio i’n rhestr e-bost.

Swyddi eraill yn y sector

Logo with the words recriwt 3

Chwilio am swydd lle gallwch chi wneud gwahaniaeth? Mae recriwt3 yn wefan benodol ar gyfer canfod pobl fedrus, uchelgeisiol i weithio yn y sector gwirfoddol.

Ymweld a recriwt3

Logo with the words Cyflogwr Cyflog Byq ydym niLogo with the words Marc Elusen Ddibynadwy, Lefel 1, and Trusted Charity Mark Level 1. There is an NCVO logo in the bottom corner

Logo with the words disability confident and the word committed belowLogo with words Investors in People