Rydym yn chwilio am unigolyn rhagweithiol ac ymrwymedig i ymuno â thîm Buddsoddiad Cymdeithasol Cymru fel Rheolwr Buddsoddi mewn Ynni Glân.
Mae hwn yn gyfle cyffrous i lywio dyfodol buddsoddiad ynni glân ledled gogledd Cymru. Os ydych chi’n frwd am gynaliadwyedd, gyda sgiliau meithrin cydberthnasau cryf ac yn mwynhau gweithio gyda mentrau cymdeithasol, gallai hon fod y rôl i chi.
RHEOLWR BUDDSODDI MEWN YNNI GLÂN
Categori Cymraeg: Dymunol
Oriau i’w cytuno – croesawir ceisiadau gan bobl sy’n chwilio am lai na’r 35 awr yr wythnos safonol (cyhyd â’i fod yn o leiaf 21 awr); mae’r oriau gwaith yn hyblyg.
£39,337 yn codi i £44,274 y flwyddyn. Y cyflog cychwynnol fydd £39,337 a byddwch yn symud drwy’r amrediad cyflog yn unol â chwblhau’r cyfnod prawf a’n proses adolygu perfformiad yn llwyddiannus. Pro rata os nad yw’n amser llawn.Bydd cyfraniad o 9% o gyflog blynyddol y swydd yn cael ei roi yng nghynllun pensiwn cymeradwy CGGC.
Lleoliad: Hyblyg. Bydd y rôl yn gofyn i chi deithio’n rheolaidd ledled Gogledd Cymru felly bydd angen i’r deiliad swydd weithio’n lleol. Mae gennym ganolfannau swyddfa yn Aberystwyth, Caerdydd a’r Rhyl y gall staff eu defnyddio.
YNGLYN Â’R RÔL
Buddsoddiad Cymdeithasol Cymru (SIC) yw buddsoddwr cymdeithasol mwyaf blaenllaw Cymru, ac mae wedi llwyddo i ennill contract rheoli cyllid yn ddiweddar ar gyfer elfen sector gwirfoddol Cronfa Ynni Glân Uchelgais Gogledd Cymru. Chi fydd â’r prif gyfrifoldeb dros gyflwyno’r prosiect hwn yn llwyddiannus.
Byddwch, felly, yn rhagweithiol iawn mewn datblygu cyfres o geisiadau cyllido, gan feithrin cydberthnasau cryf ledled chwe sir gogledd Cymru. Bydd y rôl yn cynnwys cwestiynu cynlluniau busnes a gweithio gydag ymgeiswyr i lunio cynigion benthyca o ansawdd uchel i’w cyflwyno i banel gymeradwyo.
Ar ôl cael cymeradwyaeth, byddwch yn llywio’r cyllid drwy’r broses nes ei dynnu i lawr. Wedi hynny, byddwch yn parhau i fod yn ‘rheolwr cydberthnasau’ y mudiad, yn monitro’r perfformiad yn unol â’r amodau cyllido. Byddwch yn dod yn seinfwrdd dibynadwy ac yn ffynhonnell o wybodaeth ar faterion perthnasol o fewn y sector, o fewn CGGC ac yn allanol.
Byddwch yn arwain unrhyw gyllid ynni glân a ddatblygir gan SIC yn y dyfodol a lle y bo angen, yn cefnogi gweddill y tîm gyda chynigion cyllido eraill.
Mae gan y swydd hon gontract cyflenwi sydd wedi’i gyllido am bum mlynedd.
PAM GWEITHIO YN CGGC
Buddion: Mae’r rhain yn cynnwys 25 diwrnod o wyliau â thâl ynghyd ag 8 gŵyl banc a 5 diwrnod ychwanegol drwy ddisgresiwn, Cynllun Pensiwn Personol, Rhaglen Cynorthwyo Cyflogeion, Cynllun Cyflog Salwch uwch, gweithio hyblyg a chynllun arian gofal iechyd.
Rydym yn fudiad sy’n cofleidio amrywiaeth; mae gennym bolisïau cydbwyso bywyd a gwaith ardderchog, lle y caiff gweithio hyblyg ei hybu, a’n diwylliant yw meithrin staff drwy arweinyddiaeth effeithiol a gwaith tîm ardderchog.
Rydym yn buddsoddi yn ein cyflogeion a’u datblygiad. Yn ogystal â bod yn Gyflogwr Cyflog Byw, sy’n ymrwymedig i dalu’r cyflog byw gwirioneddol i’w staff, mae CGGC wedi ennill achrediad Buddsoddwyr mewn Pobl.
Rhagor o wybodaeth am weithio i CGGC.
Darllenwch y disgrifiad swydd llawn
SUT I WNEUD CAIS
I wneud cais, lawrlwythwch y pecyn ymgeisio isod:
Dyddiad cau: Dydd Llun 23 Mehefin 2025 – 10am
Dyddiad y cyfweliad: 30 Mehefin a 7 Gorffennaf 2025
Croesawir ceisiadau Cymraeg ac ni fyddant yn cael eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau Saesneg.