Rydym yn llogi ar gyfer swyddi ‘Rheolwr Iechyd a Gofal Cymdeithasol Cenedlaethol y Trydydd Sector’ ac ar ôl derbyn adborth rydym wedi codi gradd y rôl.
Ydych chi’n frwdfrydig ynghylch y gwahaniaeth y mae elusennau a gwirfoddolwyr yn ei wneud i iechyd a lles yng Nghymru? Ymunwch â ni i gefnogi’r sector, ac arwain gwaith dylanwadu CGGC ar iechyd a gofal cymdeithasol.
PAM GWEITHIO YN CGGC?
Yma yn CGGC, rydyn ni’n cynnig amrywiaeth eang o fuddion a chyflogaeth hyblyg sy’n gwneud gwahaniaeth.
Fel cyflogwr, gall CGGC (Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru) gynnig nifer o fuddion fel gweithio’n hyblyg neu mewn modd hybrid, pensiwn ar 9% o’ch cyflog, a mynediad at raglen cymorth i gyflogeion.
Mae CGGC yn buddsoddi yn ei gyflogeion a’u datblygiad. Yn ogystal â bod yn Gyflogwr Cyflog Byw, sy’n ymrwymedig i dalu cyflog byw gwirioneddol i’w staff, mae CGGC wedi ennill achrediad Buddsoddwyr mewn Pobl.
Rhagor o wybodaeth am weithio i CGGC.
RHEOLWR IECHYD A GOFAL CYMDEITHASOL CENEDLAETHOL Y TRYDYDD SECTOR
Hyd: Cyfnod penodol – i orchuddio secondiad hyd at fis Tachwedd 2023
Oriau: 35 awr yr wythnos, yn hyblyg
Lleoliad: Mae gan CGGC bolisi gweithio’n hyblyg ar waith, sy’n golygu y gall ein pobl weithio cyfran o’u hamser yn ein swyddfeydd neu o bell (gan gynnwys gartref). Rydyn ni’n fudiad Cymru gyfan gyda chanolfannau swyddfa yn Aberystwyth, Caerdydd a’r Rhyl. Bydd angen mynychu rhai digwyddiadau staff a galwadau gwaith penodol yn ein swyddfeydd
Cyflog: £36,652 yn cynyddu i £38,606 y flwyddyn ar ôl cwblhau cyfnod prawf o chwech mis yn llwyddiannus
Ynglŷn â’r rôl:
Mae hwn yn gyfle gwych i rywun sydd â phrofiad o weithio ar lefel weithredol strategol neu uwch mewn iechyd a gofal cymdeithasol neu yn y sector cyhoeddus neu wirfoddol. Cyfle gwych i weithio i CGGC ar sail cyfnod penodol neu fel rhan o secondiad.
Byddwch yn gweithredu fel pwynt cyswllt cenedlaethol a strategol ar gyfer y sector gwirfoddol yng Nghymru. Gan weithio gyda Llywodraeth Cymru a chyrff cyhoeddus eraill byddwch yn cefnogi gwaith ar y cyd i wneud y mwyaf o gyfraniad y sector gwirfoddol i agenda trawsnewid y llywodraeth ar gyfer Cymru Iachach.
Darllenwch y disgrifiad swydd llawn neu clywch y cyfan am y swydd gan Sally Rees y byddwch yn ymdrin â hi.
Dyddiad Cau: 3 Mai 2022 – 10am
Croesawir ceisiadau Cymraeg ac ni fyddant yn cael eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau Saesneg.