man drops off food box to older neighbour

Gweinidogion yn clywed enghreifftiau cadarnhaol o waith y sector gwirfoddol yn ystod y pandemig

Cyhoeddwyd : 01/02/21 | Categorïau: Dylanwadu |

Mae’r Dirprwy Weinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi dweud fod yn rhaid i’r gwaith a wneir ar gyfer y dyfodol adeiladu ar y gweithgarwch cymunedol a ddaeth i’r amlwg yn ystod pandemig Covid-19.

Gwnaeth y Gweinidog a’r Dirprwy Weinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol fynychu cyfarfod gyda chynrychiolwyr o’r sector gwirfoddol yn ddiweddar fel rhan o Gynllun y Trydydd Sector. Yn y cyfarfod hwn, siaradodd y sector am bur faith, gan roi enghreifftiau o ychydig o’r gwaith y mae wedi’i wneud i gefnogi cymunedau yn ystod y pandemig. Roedd hyn yn cynnwys gwaith Cynghorau Gwirfoddol Sirol (CVCs) yn cefnogi gweithgareddau cymunedol dros dro fel casglu presgripsiynau a chludo bwyd, yn ogystal â helpu pobl i gael cymorth digidol, a gwaith Aren Cymru ar ffurfio partneriaethau i gynorthwyo cleifion i gael gwybodaeth yn ddigidol ac ar gopi caled a digwyddiadau ar-lein.

Dywedodd y Dirprwy Weinidog y dylid adeiladu ar weithgareddau ‘heb eu rheoli’ cymunedau yn ystod y cyfnod hwn, a bod y sector gwirfoddol yn dyngedfennol i wneud hyn yn effeithiol.

Ar ôl hyn, clywodd y Gweinidog a’r Dirprwy Weinidog am y problemau sydd wedi wynebu darparwyr trafnidiaeth gymunedol yn ystod y pandemig, gan gynnwys angen mwy o eglurder ar beth yw cynllun gyrrwr gwirfoddol. Gwnaeth y grŵp hefyd drafod materion ynghylch diffinio ‘gweithwyr iechyd a gofal cymdeithasol’, gyda’r sector yn gofyn am fwy o eglurder ar a yw hyn yn cynnwys gweithwyr o’r sector gwirfoddol. Teimlai cynrychiolwyr y sector nad oedd digon o eglurder ar hyn, a bod yn rhaid i hyn gael ei ddatrys wrth i’r rhaglen cyflwyno brechlyn barhau.

Gwnaeth y cyfarfod hefyd drafod yr angen i greu systemau sy’n cefnogi cynlluniau a buddsoddiadau hirdymor, yn enwedig mewn mudiadau llai o faint, a’i fod yn bwysig dechrau cynllunio nawr ar gyfer bywyd ar ôl y pandemig. Cyfeiriodd y Dirprwy Weinidog at Bapur Gwyn newydd Llywodraeth Cymru, sy’n cynnig fframwaith ar iechyd a gofal cymdeithasol a llais cryfach i’r sector gwirfoddol ar Fyrddau Partneriaeth Rhanbarthol.

Cafodd problemau ynghylch yr anghydraddoldebau iechyd ehangach sydd wedi’u gwneud yn waeth gan y pandemig, a’r ymchwydd posibl mewn problemau iechyd meddwl, hefyd eu hamlygu yn y cyfarfod.

Roedd y mudiadau sector gwirfoddol yn y cyfarfod yn cynnwys Plant yng Nghymru, Cymdeithas Chwaraeon Cymru, Fforwm Rhieni a Gofalwyr Cymru Gyfan, Interlink RCT a Mind Cymru, ymhlith eraill.

Newyddion cysylltiedig

Cyhoeddwyd: 13/01/25
Categorïau: Dylanwadu, Gwybodaeth a chymorth

Rheoliadau newydd ar gyfer caffael gwasanaethau iechyd

Darllen mwy

Cyhoeddwyd: 29/11/24
Categorïau: Dylanwadu, Newyddion

Brwydro yn erbyn effaith cyllideb y DU ar fudiadau gwirfoddol

Darllen mwy

Cyhoeddwyd: 08/11/24
Categorïau: Cyllid, Dylanwadu, Newyddion

CGGC yn rhannu pryderon y sector ar gynnydd Yswiriant Gwladol

Darllen mwy