Gweinidogion yn canmol rôl y sector wrth ymateb i Covid-19

Cyhoeddwyd : 13/07/20 | Categorïau: Dylanwadu |

Yng nghyfarfod diweddar y sector gwirfoddol gyda’r Gweinidog a’r Dirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, dywedodd y Gweinidog Iechyd, Vaughan Gething, fod y sector wedi bod ‘yn hynod bwysig’ yn ystod yr argyfwng coronafeirws fel darparwyr gwasanaethau, gan ychwanegu ei fod yn disgwyl i hyn barhau drwy’r cyfnod adfer a thu hwnt.

Cyfarfu’r grwp i drafod rôl y sector wrth gynllunio strategol yn ystod y cyfnod adfer. Nododd y sector, er ei bod yn ddealladwy yn ystod yr argyfwng y symudwyd oddi wrth ymgysylltu â phobl ynglŷn â’u gwasanaethau i fodel syml lle’r oedd pethau’n cael eu gwneud iddynt, roedd yn bwysig symud yn ôl i brosesau ymgysylltu wrth i amser fynd heibio i sicrhau bod gan bobl lais. Mynegodd y grŵp bryderon am iechyd meddwl oedolion a phlant, a nododd fod y sector gwirfoddol wedi bod yn siarad â swyddogion ar bob lefel ynglŷn â gwasanaethau arloesol i gyd-fynd â’r sector statudol.

Soniwyd am y Strategaeth Clymu Cymunedau yn ystod y cyfarfod hefyd, gan fynegi pryder ei bod yn ymddangos ei bod yn mesur llwyddiant yn ôl nifer yr atgyfeiriadau presgripsiynu cymdeithasol o wasanaethau statudol i mewn i’r sector gwirfoddol. Dadl y sector oedd y dylid mesur llwyddiant drwy olrhain profiadau positif pobl yn unig, er y gallai hynny fod yn heriol a chymryd amser. Nododd y grŵp y bydd angen adnoddau a chefnogaeth bellach ar fudiadau llawr gwlad i wneud hyn yn llwyddiant.

Dywedodd y Dirprwy Weinidog fod Llywodraeth Cymru wedi ceisio gweithredu’r model hwn o fesur wrth ddefnyddio’r prosiect Mesur y Mynydd i werthuso’r Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant. Gofynnodd y Gweinidog am sgyrsiau pellach rhwng y sector a Llywodraeth Cymru ynglŷn â’r materion hyn.

Ar wahân i CGGC, ymhlith y mudiadau a’r rhwydweithiau oedd yn bresennol yn y cyfarfod oedd: Plant yng Nghymru, Mind Cymru, Triniaeth Deg i Fenywod Cymru, Cymdeithas Chwaraeon Cymru, Cyngor Trydydd Sector Caerdydd a Fforwm Rhieni a Gofalwyr Cymru Gyfan.

Mae disgwyl i’r Gweinidog a’r Dirprwy Weinidog gwrdd â’r sector unwaith eto ddechrau 2021.

Newyddion cysylltiedig

Cyhoeddwyd: 04/10/24 | Categorïau: Dylanwadu | Newyddion |

Llythyr agored i’r cabinet newydd

Darllen mwy

Cyhoeddwyd: 21/06/24 | Categorïau: Dylanwadu | Gwirfoddoli | Gwybodaeth a chymorth |

Perthnasau rhwng y sectorau gwirfoddol a statudol

Darllen mwy

Cyhoeddwyd: 25/03/24 | Categorïau: Dylanwadu |

Awgrymiadau Mark Drakeford ar gyfer dylanwadu ar bolisïau’r llywodraeth

Darllen mwy