Gweinidog yr Amgylchedd a’r sector yn trafod adferiad gwyrdd a theg

Gweinidog yr Amgylchedd a’r sector yn trafod adferiad gwyrdd a theg

Cyhoeddwyd : 18/03/21 | Categorïau: Dylanwadu |

Gwnaeth Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig gwrdd â’r sector gwirfoddol yn ddiweddar i drafod yr adferiad gwyrdd a theg, yn ogystal â Phapur Gwyn Llywodraeth Cymru ar amaethyddiaeth.

Nododd y Gweinidog fod yr adferiad o’r pandemig yn gyfle i wneud pethau’n wahanol ac i wneud newid sylfaenol. Mae nifer enfawr o argymhellion wedi’u cyflwyno yn dilyn yr adroddiad gan Syr David Henshaw, Cadeirydd Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC), ac mae’r gwaith o’r adroddiad yn cael ei fwydo i mewn i system y cabinet. Nododd Swyddogion fod Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda CNC ar yr argymhellion ynghylch sefydlogi’r sector, ac mae gwaith ar droed o ran cynigion ar gyfer cyllid arloesol.

Nododd y grŵp fod problemau cyllido o hyd o dan y rhaglen Galluogi Adnoddau Naturiol a Llesiant, ac roedd hyn yn effeithio ar allu mudiadau’r sector i gynllunio a recriwtio. Gofynnodd i Lywodraeth Cymru ymgysylltu â’r sector ynghylch cyd-gynhyrchu a chydgynllunio cynlluniau cyllido’r dyfodol.

Aeth Llywodraeth Cymru ati wedyn i amlinellu ei chynlluniau ynghylch y Papur Gwyn amaethyddiaeth, gan gynnwys cynllun pontio sy’n bwriadu cael ei gyhoeddi yn yr hydref ac wedyn ymgysylltu â rhanddeiliaid yn y maes datblygu polisi ar ôl hyn. Y nod fyddai i gyflwyno deddfwriaeth yn 2022. Dywedodd y Gweinidog ei fod yn bwysig ymgysylltu â’r sector ar hyn, ac yn bwysig cael y ddeddfwriaeth hon yn hollol gywir.

Roedd y grwpiau a fynychodd y cyfarfod yn cynnwys Ymddiriedolaethau Natur Cymru, Ffermydd a Gerddi Cymdeithasol, Y Cerddwyr, RSPCA Cymru a Groundwork Gogledd Cymru.

Newyddion cysylltiedig

Cyhoeddwyd: 14/09/23 | Categorïau: Cyllid | Dylanwadu |

Cyllid datblygu rhanbarthol ar ôl gadael yr UE

Darllen mwy

Cyhoeddwyd: 11/09/23 | Categorïau: Dylanwadu |

Ailgydbwyso iechyd & gofal: ‘adnoddau cyfyngedig’ yn rhwystr i’r weledigaeth

Darllen mwy

Cyhoeddwyd: 16/06/23 | Categorïau: Dylanwadu | Gwirfoddoli | Newyddion |

Gwobrau Elusennau Cymru 2023 – Wythnos i fynd!

Darllen mwy