Gweinidog yn croesawu’r cynnig am fwy o ymgysylltu rhwng y sector a’r llywodraeth leol

Cyhoeddwyd : 23/03/20 | Categorïau: Dylanwadu |

Mewn cyfarfod gyda’r sector gwirfoddol, mynegodd y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol gefnogaeth i’r sector a’r llywodraeth leol ddod o hyd i ffyrdd y gallant ymgysylltu’n well â’i gilydd.

Gwnaeth y grŵp drafod y graddau amrywiol o ymgysylltu rhwng y llywodraeth leol a’r sector, a’r ffaith bod mecanweithiau cyfredol fel Deddf Cenedlaethau’r Dyfodol a’r Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant yn cynhyrchu effaith amrywiol. Gwnaeth y grŵp gynnig grŵp Gorchwyl a Gorffen rhwng y sector a Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru er mwyn edrych ar sut olwg allai fod ar y gwell ymgysylltiad hwn a lledaenu arfer da. Mynegodd y Gweinidog ei chefnogaeth i’r syniad hwn.

Gwnaeth y cyfarfod hefyd drafod y Bil Partneriaeth Gymdeithasol. Roedd y ddogfennaeth gychwynnol yn cyfeirio bellach at y sector yn y ddeddfwriaeth, sy’n ceisio cyflawni argymhellion y Comisiwn Gwaith Teg a sefydlu economi fwy cynhwysol yng Nghymru ‘lle gall bawb ffynnu’. Byddai hyn yn cael ei wneud drwy lunio Cyngor Partneriaeth Gymdeithasol, a chynigiwyd y byddai hwn yn cynnwys cynrychiolwyr o’r sector cyhoeddus a phreifat, y llywodraeth ac undebau llafur. Ni soniwyd am y sector gwirfoddol; ond, dywedodd y Gweinidog y byddai Llywodraeth Cymru yn dod o hyd i ddull o ganiatáu i’r sector fod yn rhan o hyn, gan gynnwys trafodaethau ynghylch unrhyw strategaeth gaffael a fyddai’n cael ei llunio gan y Cyngor arfaethedig.

Diweddodd y grŵp gyda thrafodaeth fer ynghylch pandemig y coronafeirws. Amlygodd CGGC ei fenthyciadau ariannol ar gyfer mudiadau a oedd yn cael anawsterau, a nododd Derek Walker o Ganolfan Cydweithredol Cymru yr angen am gymorth digidol i bobl ddefnyddio Skype, er enghraifft. Nododd Helene Hayes o Cyngor ar Bopeth Cymru fod y rheini heb gynilion, mewn cyflogaeth cyflog isel neu â chostau ynni uchel mewn perygl arbennig. Dywedodd y Gweinidog yr hoffai ddefnyddio rhwydweithiau’r sector er mwyn helpu i ledaenu’r wybodaeth.

Dywedodd Helene Hayes: ‘Rydym yn falch iawn fod y Gweinidog yn bositif ynghylch rôl y sector gwirfoddol yn y Bil Partneriaeth Gymdeithasol, ac ynghylch beth arall y gallai’r sector gwirfoddol a’r llywodraeth leol ei wneud gyda’i gilydd mewn cyfnod o argyfwng, pan mae angen gwirioneddol i’r sectorau hynny weithio gyda’i gilydd i gefnogi pobl Cymru.’

Newyddion cysylltiedig

Cyhoeddwyd: 04/10/24 | Categorïau: Dylanwadu | Newyddion |

Llythyr agored i’r cabinet newydd

Darllen mwy

Cyhoeddwyd: 21/06/24 | Categorïau: Dylanwadu | Gwirfoddoli | Gwybodaeth a chymorth |

Perthnasau rhwng y sectorau gwirfoddol a statudol

Darllen mwy

Cyhoeddwyd: 25/03/24 | Categorïau: Dylanwadu |

Awgrymiadau Mark Drakeford ar gyfer dylanwadu ar bolisïau’r llywodraeth

Darllen mwy