Mae Lles Platfform yn cynnig cefnogaeth lles i bobl sy’n gweithio neu’n gwirfoddoli yn y maes diogelu yng Nghymru, ac i’r rheini a effeithir gan achosion diogelu.
Diolch i gyllid diweddar gan Lywodraeth Cymru, rydym wedi comisiynu *Lles Platfform i gynnig cefnogaeth lles i bobl sy’n gweithio neu’n gwirfoddoli yn y maes diogelu, ac i’r rheini a effeithir gan achosion diogelu. Mae’r ddarpariaeth yn cynnwys hyfforddiant tîm, cwnsela unigol ac ôl-drafodaethau ar ddigwyddiadau critigol. Bydd yr holl wasanaethau hyn am ddim i bobl o fudiadau gwirfoddol yng Nghymru a effeithir gan sefyllfaoedd diogelu.
PWY YW LLES PLATFFORM?
Mae Lles Platfform yn rhan o Platfform, yr elusen ar gyfer iechyd meddwl a newid cymdeithasol, sydd â mwy na 30 mlynedd o brofiad o gynnig cymorth, ymyriadau a hyfforddiant iechyd meddwl. Maen nhw’n mynd ati mewn modd anfeddygol sy’n adeiladu ar empathi, dealltwriaeth a thystiolaeth.
Mae Lles Platfform yn mynd ati mewn modd perthynol sy’n ystyriol o drawma, gan ganolbwyntio ar gydberthnasau, cydymdeimlad a chysylltiad.
HYFFORDDIANT YN Y GWEITHLE
Gall yr hyfforddiant a ddarperir gael ei deilwra i’ch anghenion penodol chi, a gall amrywio o sesiynau dwy neu dair awr i gyrsiau deuddydd.
Gall pynciau’r sesiynau gynnwys:
- Gorflinder a sut i’w atal
- Rheoli gorbryder a straen
- Dull perthynol o ymdrin ag iechyd meddwl
- Trawma dirprwyol
- Dulliau sy’n seiliedig ar gryfder
- Dull perthynol o ymdrin â thrawma a chamddefnyddio sylweddau
- Sgiliau ymarfer myfyriol
GWASANAETH CWNSELA
Gall iechyd meddwl pob un ohonom gael ei effeithio ar adegau gwahanol ac mewn ffyrdd gwahanol drwy gydol ein bywydau. Efallai eich bod yn wynebu her benodol, neu ddim yn teimlo fel chi’ch hun ar hyn o bryd – gall cwnselwyr Lles Platfform weithio gyda chi mewn gofod diogel a chyfrinachol.
Darperir y gwasanaeth i gydnabod y baich emosiynol o gyflawni gwaith diogelu. Rydym yn gobeithio y bydd unigolion a thimau yn manteisio ar y cymorth proffesiynol hwn i adeiladu eu gwydnwch a diogelu eu hiechyd a lles emosiynol (pan nad yw’r cymorth hwn ar gael drwy eu mudiadau eu hunain).
Gall Lles Platfform gynnig chwe sesiwn o gwnsela i bob unigolyn, a’r rheini ar-lein, dros y ffôn neu wyneb yn wyneb yng Nghaerdydd neu Abertawe.
Nid yw’r gwasanaeth hwn yn canolbwyntio ar ddatblygu ymarfer diogelu unigolyn, ond gallai annog gwell diogelwch ac amddiffyniad personol.
RHAGOR O WYBODAETH
Os nad ydych yn siŵr o’ch gofynion penodol na ble i ddechrau, mae Lles Platfform yn fwy na bodlon cael sgwrs â chi!
E-bostiwch hello@platfformwellbeing.com neu ffoniwch nhw ar 02920 440191.
I ddarllen mwy am wasanaeth Cwnsela a Chymorth Lles Platfform, edrychwch ar y daflen wybodaeth.
*Saesneg yn unig