woman talking on phone using laptop

Gwasanaeth Allgymorth Rhanbarthol Newydd y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS)

Cyhoeddwyd : 26/03/21 | Categorïau: Gwybodaeth a chymorth | Newyddion |

Bydd gwasanaeth newydd gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd yn canolbwyntio ar weithio ar y cyd â mudiadau diogelu, a mudiadau sy’n recriwtio.

Yn ddiweddar fe lansiodd y Gwasanaeth Diogelu a Gwahardd (DBS) Wasanaeth Allgymorth Rhanbarthol. Mae’r gwasanaeth hwn yn canolbwyntio ar weithio ar y cyd â mudiadau diogelu a mudiadau sy’n recriwtio.

Y nod yw gweithio’n agosach gyda mudiadau er mwyn adeiladu a datblygu cysylltiadau, a gweithredu fel yr unig bwynt cyswllt ar gyfer yr holl ymholiadau’n ymwneud â’r DBS o fewn eu rhanbarth.

SUT GALL Y SWYDDOGION ALLGYMORTH GEFNOGI EICH MUDIAD/ RHWYDWAITH?

Bydd y Swyddogion Allgymorth yn gweithio gyda mudiadau a rhwydweithiau o fewn eu rhanbarth mewn nifer o ffyrdd, gan gynnwys:

  • ateb ymholiadau yn ymwneud â DBS a darparu cyngor dros y ffôn/ e-bost
  • mynychu cyfarfodydd, hyfforddiant a chynadleddau, neu ymweld â’ch mudiad i gynnal trafodaeth wyneb yn wyneb (yn unol â chyfyngiadau’r pandemig)
  • datblygu a darparu cyflwyniadau, gweithdai neu drafodaethau er mwyn rhoi trosolwg o DBS
  • coladu adborth, awgrymiadau neu sylwadau a’u bwydo yn ôl i’r DBS
  • helpu mudiadau/ rhwydweithiau i ddeall pa lefel o wiriad DBS y gellir ymgeisio amdano, a pha wybodaeth a ddarperir gan y gwiriadau hyn
  • hysbysu mudiadau a chyflogwyr o’u dyletswydd neu eu pŵer i atgyfeirio.

Swyddog Allgymorth Rhanbarthol Cymru yw Carol Eland a gellir cysylltu â hi dros e-bost: CarolAnn.Eland@dbs.gov.uk.

Gwyddom fod diogelu a gwiriadau DBS yn faterion o bwys i fudiadau gwirfoddol a chroesawn y gwasanaeth ychwanegol hwn a fydd yn galluogi cyswllt mwy uniongyrchol â’r DBS.

Gallai’r gwasanaeth fod o ddiddordeb arbennig i gyrff ambarél ac aelodaeth sy’n dymuno darparu gwybodaeth sy’n ymwneud â’r DBS i’w haelodau.

Mae CGGC yn edrych ymlaen at weithio gyda thîm Allgymorth Rhanbarthol DBS fel rhan o’n Gwasanaeth Diogelu er mwyn sicrhau bod modd i’r mudiadau a gefnogwn gael mynediad i wybodaeth gywir ynglŷn â gwiriadau DBS a recriwtio mwy diogel. Byddwn yn hysbysebu’r digwyddiadau hyn yn fuan!

MWY AM DDIOGELU

Ewch i’n tudalen Diogelu ac amddiffyn pobl i gael rhagor o wybodaeth ac adnoddau ar gadw pobl yn ddiogel a’ch cyfrifoldebau.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau ynglŷn â diogelu, gallwch gysylltu â’n Swyddog Diogelu a fydd yn hapus i helpu: Safeguarding@wcva.cymru

Newyddion cysylltiedig

Cyhoeddwyd: 13/01/25
Categorïau: Dylanwadu, Gwybodaeth a chymorth

Rheoliadau newydd ar gyfer caffael gwasanaethau iechyd

Darllen mwy

Cyhoeddwyd: 13/12/24
Categorïau: Gwybodaeth a chymorth, Newyddion

CLlLC yn amlygu pwysau ariannu ‘anghynaladwy’

Darllen mwy

Cyhoeddwyd: 06/12/24
Categorïau: Gwybodaeth a chymorth, Newyddion

Cyhoeddi enillydd bwrsariaeth arweinyddiaeth 2024

Darllen mwy