Mae’n bleser gan CGGC gyhoeddi y bydd yn rhan o brosiect ymchwil a fydd yn cymharu’r ymateb gwirfoddol i Covid-19 ym mhedair wlad y DU.
Bydd yn rhannu enghreifftiau cadarnhaol gyda’r nod o lunio polisïau’r dyfodol a chynorthwyo â gwaith adfer economaidd a chymdeithasol y DU. Mae angen i arbenigwyr ar draws y byd academaidd a’r sector gwirfoddol gynnal prosiect ymchwil mawr ar rôl gweithredu gwirfoddol yn ystod pandemig Covid-19 – gan edrych ar yr heriau a’r hyn a weithiodd yn dda a chynnig argymhellion er mwyn llywio cynlluniau ar gyfer argyfyngau yn y dyfodol. Mae’r prosiect yn bartneriaeth rhwng chwe prifysgol yn y DU a chynrychiolwyr o fudiadau gwirfoddol amrywiol, gan gynnwys y pedwar corff seilwaith allweddol yn sector gwirfoddol Cymru, Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon.
Mae bron £420,000 wedi’i ddyfarnu gan y Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol (ESRC), sy’n rhan o Ymchwil ac Arloesi yn y DU (UKRI), yn dilyn galwad cyflym i ymateb drwy brosiectau sy’n cyfrannu at ein dealltwriaeth o bandemig COVID-19 a’i effeithiau, a’n hymateb i’r rhain.
Y prif ymchwilydd fydd Irene Hardill, Athro Polisi Cyhoeddus ym Mhrifysgol Northumbria, ac yn ystod y 12 mis nesaf, bydd yn gweithio ochr yn ochr â Jurgen Grotz (Prifysgol East Anglia); Eddy Hogg, (Prifysgol Caint) Ewen Speed (Prifysgol Essex); Alasdair Rutherford (Prifysgol Stirling); a Rhys Dafydd Jones (Prifysgol Aberystwyth).
Bydd Dr Sally Rees yn cynrychioli CGGC, ochr yn ochr â chynrychiolwyr o’r Cyngor Cenedlaethol Mudiadau Gwirfoddol (NCVO), Volunteer Scotland, a Volunteer Now Gogledd Iwerddon ac yn gweithio gyda phobl academaidd, gan ddarparu mewnwelediad i dueddiadau a phrofiadau gwirfoddoli ledled y DU gyfan.
‘RYDYN NI WEDI GWELD GWEITHREDU GWIRFODDOL YN CAMU YMLAEN…’
Dywedodd Athro Hardill: ‘Yn ystod y pandemig, rydyn ni wedi gweld gweithredu gwirfoddol yn camu ymlaen ac yn dod i’r adwy fel yr ymateb cyntaf i angen brys. Rydyn ni’n gwybod ein bod yn wynebu dyfodol ansicr, ond mae darparu llesiant cymdeithasol, gyda’r genedl yn gweithio mewn partneriaeth â’r sector gwirfoddol, yn dyngedfennol os ydyn ni am ddod drwyddi fel gwlad.’
Dywedodd Dr Rees fod ‘Y prosiect ymchwil DU gyfan hwn yn gyfle unigryw i ddeall sut a pham mae gweithredu gwirfoddol wedi bod, ac yn parhau i fod, yn rhan bwysig o gefnogi pobl yn y gymuned yn ystod pandemig COVID-19, a sut bydd y gydberthynas allweddol sydd wedi’i meithrin o ganlyniad yn diogelu gweithredu gwirfoddol yn y dyfodol ledled Cymru a’r DU.’
Bydd cam cyntaf y prosiect yn ymwneud ag edrych ar ba mor barod oedd pob un o’r gwledydd cyn i’r pandemig daro, a pha rôl oedd gan weithredu gwirfoddol, mudiadau gwirfoddol a gwirfoddolwyr yn y cynlluniau parodrwydd hyn.
Bydd y tîm yn edrych wedyn ar yr effaith y mae Covid-19 wedi’i chael ar wirfoddolwyr a gwirfoddoli, o orfod gohirio gweithgareddau wyneb yn wyneb, cyflawni prosiectau mewn ffyrdd newydd, i ffyrdd newydd o weithredu gwirfoddol sydd wedi dod i’r amlwg, er enghraifft, paratoi gweithredu gwirfoddol drwy blatfformau ar-lein a dulliau hunangymorth cymunedol.
Unwaith y bydd y dystiolaeth wedi’i chasglu bydd yn cael ei dadansoddi, a’r canlyniadau’n cael eu cyflwyno mewn cyfres o friffiau llywodraethol ledled y bedair wlad.
Bydd argymhellion yn cael eu cynnig ar y rôl y gallai gwirfoddoli a mudiadau gwirfoddol ei chwarae yn adferiad y DU o bandemig Covid-19, a disgwylir y bydd yr adroddiad terfynol yn llywio datblygiadau polisi yn y dyfodol.