Mae’r sector gwirfoddol, a gwirfoddolwyr, yng Nghymru yn gwneud gwaith arloesol, ffantastig yn y maes iechyd a gofal cymdeithasol i wella bywydau pobl ar hyd a lled y wlad, maen nhw'n gweithio gyda phobl, cymunedau a’r sector statudol i gyflawni effaith anhygoel.

Mae ein swît o astudiaethau achos yn arddangos ychydig o’r gwaith rhagorol hwn. O gludo pobl i apwyntiadau meddygol i gefnogi gofalwyr, helpu cymunedau i lunio eu mannau eu hunain a rhoi cymorth brys i’r rheini sy’n cael ataliad y galon, mae’r adran hon yn amlygu’r gwahaniaeth enfawr y mae’r sector gwirfoddol yn ei wneud i Gymru a’i phobl.

Cynnig cymorth hanfodol i geiswyr noddfa sy’n feichiog

Elusen yng Nghaerdydd yw The Birth Partner Project, sy’n darparu partneriaid genedigaeth ar gyfer menywod beichiog a phobl sy’n esgor sy’n chwilio am noddfa, a fyddai fel arall yn wynebu beichiogrwydd, genedigaeth a’u hwythnosau cyntaf gyda’u babanod newydd-anedig ar eu pennau eu hunain.

#llesiantehangach #trechuanghydraddoldeb

Cydweithio gyda phobl ifanc ar ddylunio gwasanaethau digidol

Menter gymdeithasol ac elusen gofrestredig yw ProMo Cymru sy’n cydweithio i ddatblygu cyfathrebiadau digidol er mwyn cynyddu ymgysylltiad y gynulleidfa darged â gwasanaethau.

#arloesedd #cydgynhyrchu

Gwasanaethau trafnidiaeth gymunedol yn mynd yr ail filltir i gynorthwyo pobl

Mae’r Gymdeithas Cludiant Cymunedol (CTA) yn cefnogi’r sector trafnidiaeth gymunedol, gan weithio ochr yn ochr â mudiadau sy’n ymwneud â darparu neu gael gafael ar gludiant hygyrch, cynhwysol, nid-er-elw.

#defnyddioseilweithiau

Cefnogi dioddefwyr canser mewn cymunedau glofaol

Mae Ymddiriedolaeth Adfywio’r Meysydd Glo (CRT) yn arwain prosiect sy’n anelu at wella canlyniadau canser yn hen gymunedau glofaol gogledd Pen-y-bont ar Ogwr, Rhondda Cynon Taf a Merthyr Tudful.

#trechuanghydraddoldeb

‘Pwyntiau Siarad’ yn helpu pobl i osgoi cyrraedd pwynt argyfwng

Mae Cyngor Sir Ddinbych yn cydweithio gyda’r sector gwirfoddol ar ei wasanaeth, Pwyntiau Siarad, gan gynnal sesiynau ym mhob llyfrgell ledled y sir. Mae’r sesiynau yn cynnig amgylchedd anffurfiol sydd ddim yn barnu, gyda’r nod o gael gwared â’r stigma a’r ofn sy’n gysylltiedig â gofyn am help.

#presgripsiynucymdeithasol #ymyrraethgynnar

Credu anghredadwy yn rhoi cymorth i ofalwyr

Mae Credu yn cynnig cymorth i ofalwyr di-dâl a’u teuluoedd ym Mhowys, Ceredigion, Wrecsam, Conwy, a Sir Ddinbych.

#cydgynhyrchu

Cynorthwyo pobl ddall a rhannol ddall i gael mynediad at wasanaethau

Mae RNIB Cymru yn cynnig cymorth ymarferol a gwasanaethau i bobl ddall a rhannol ddall, yn ogystal â’u teuluoedd, ffrindiau a gofalwyr, i helpu i wella bywydau a grymuso pobl i fyw’n dda heb eu golwg a chadw’u hannibyniaeth.

#llesiantehangach #trechuanghydraddoldeb

Cymryd gofal i helpu pobl i barhau i fod yn rhan o’u cymuned

Elusen yw Gofal Solfach a redir gan bobl Solfach a Thre-groes yn Sir Benfro i wella iechyd a lles trigolion a sicrhau eu bod yn parhau i fod yn rhan o’u cymuned.

#ymyrraethgynnar

Gall ‘The Circuit’ achub pobl sy’n cael ataliad y galon

‘The Circuit’ yw’r gronfa ddata o ddiffibrilwyr ledled y DU, ac mae’n deillio o bartneriaeth rhwng y British Heart Foundation (BHF), Resuscitation Council UK (RCUK), Ambiwlans Sant Ioan, a’r Gymdeithas Prif Weithredwyr Ambiwlans (AACE).

#cefnogidarpariaethstatudol

Pan mae cymunedau yn llywio eu lleoedd eu hunain, mae’r cymunedau hynny’n elwa

Mae Medrwn Môn yn rhoi cymorth a chyngor i grwpiau gwirfoddol a chymunedol ar gyllid cynaliadwy, gwirfoddoli, llywodraethu da ac ymgysylltu a dylanwadu. Yn ogystal â hyn, mae’n rhedeg dau brosiect mawr: y rhaglen Cynllunio Lle a phrosiect Cyswllt Cymunedol Môn.

#defnyddioseilweithiau

Ôl-ofal hanfodol i oroeswyr strôc

Mae gan y Gymdeithas Strôc flynyddoedd o brofiad o helpu goroeswyr strôc yn y DU i ailadeiladu eu bywydau. Mae hefyd wedi datblygu ei harbenigedd ymhellach drwy gysylltu â mudiadau mewn gwledydd eraill.

#cydgynhyrchu

CYNNIG CYMORTH HANFODOL I GEISWYR NODDFA SY’N FEICHIOG

Elusen yng Nghaerdydd yw The Birth Partner Project, sy’n darparu partneriaid genedigaeth ar gyfer menywod beichiog a phobl sy’n esgor sy’n chwilio am noddfa, a fyddai fel arall yn wynebu beichiogrwydd, genedigaeth a’u hwythnosau cyntaf gyda’u babanod newydd-anedig ar eu pennau eu hunain.

#llesiantehangach #trechuanghydraddoldeb

PAM DDECHREUODD Y GWAITH HWN

Mae gan The Birth Partner Project lawer o brofiad blaenorol o weithio gyda menywod a phobl sy’n esgor sy’n chwilio am noddfa yng Nghaerdydd, o’i sefydliad fel Mudiad Corfforedig Elusennol (CIO) yn 2018 ac am ddwy flynedd cyn hyn. Mae’r menywod a’r bobl sy’n esgor y maen nhw’n eu cefnogi i gyd wedi’u dadleoli gan wrthdaro a/neu erledigaeth, ac maen nhw i gyd yn chwilio am noddfa. Mae’r elusen yn cefnogi pobl sydd wedi’u masnachu, y rheini sydd wedi goresgyn trais domestig a’r rheini sydd wedi dioddef camdriniaeth yn erbyn menywod a merched.

Yn aml, mae ceiswyr lloches beichiog unigol yn cyrraedd Caerdydd yn ystod eu beichiogrwydd ac yn gorfod llywio dinas newydd a system iechyd newydd ar eu pennau eu hunain. Canfu’r adroddiad *Mothers and Babies: Reducing Risk through Audits and Confidential Enquiries 2022 (Mamau a Babanod: Lleihau’r Risg drwy Archwiliadau ac Ymholiadau Cyfrinachol) fod menywod du bedair gwaith yn fwy tebygol, a menywod o Asia ddwywaith yn fwy tebygol, o farw na menywod gwyn o ganlyniad i roi genedigaeth. Gall anghenion ac amgylchiadau penodol y grŵp demograffig amrywiol hwn arwain at ynysu ymhlith mamau, unigrwydd, anhwylder meddyliol a chanlyniadau iechyd gwael, gan gynnwys achosion y bu bron iddynt ddigwydd a marwolaethau newyddenedigol.

BUDDION

Caiff pob menyw neu unigolyn sy’n esgor ei gefnogi gan dîm bychan o dri neu bedwar partner geni gwirfoddol, sy’n cwrdd â’i gilydd o wythnos 34 y beichiogrwydd ymlaen, i feithrin cyfeillgarwch a rhoi gwybodaeth ymarferol a chefnogaeth emosiynol yn y cyfnod cyn yr enedigaeth.

Pan fydd y cyfnod esgor yn dechrau, bydd y tîm yn rhoi cymorth 24 awr ar sail rota i sicrhau bod gan y fenyw neu’r unigolyn sy’n esgor rywun gydag ef ar bob adeg. Ar ôl yr enedigaeth, bydd y gwirfoddolwyr yn parhau i gwrdd â’r fam a’r baban bob wythnos am wyth wythnos bellach, gan gynnig cefnogaeth ychwanegol a gwneud yn siŵr bod ganddyn nhw bopeth sydd eu hangen arnyn nhw.

Mae Partneriaid Geni gwirfoddol yn cynnig cefnogaeth emosiynol ac ymarferol nad yw’n feddygol, mesurau cysur a phresenoldeb positif, magwraethol, yn ogystal â gwybodaeth a chyfeiriadau i’w cynorthwyo i gael mynediad at gymorth perthnasol arall yn ystod y cyfnod hwn.

Yn ogystal â phartneru menywod a phobl sy’n esgor yn ystod y cyfnod esgor a’r enedigaeth, mae’r Prosiect yn cynnig gwasanaeth galw heibio wythnosol sy’n canolbwyntio ar fynediad i wybodaeth a gwasanaethau iechyd ynghyd â gweithgareddau llesiant.

Dengys ffigurau 2022/23:

  • Gwnaeth 100% o’r menywod a phobl a esgorodd a gefnogwyd gan y Prosiect deimlo gwelliant yn eu llesiant meddyliol o gael y prosiect yn gweithio ochr yn ochr â nhw
  • Teimlai 90% o’r menywod a phobl a esgorodd bod rhywun wedi gwrando arnyn nhw a bod eu lleisiau wedi’u clywed
  • Daeth 83% o’r menywod a phobl a esgorodd yn fwy ymwybodol o’u hawliau a’u dewisiadau o ran yr enedigaeth a’r esgor
  • Teimlai 71% o’r menywod a phobl a esgorodd yn fwy hyderus o ran gofalu am eu babanod newydd a sut i gael cymorth pe bai angen
  • Teimlai 85% o’r menywod a phobl a esgorodd yn llai unig ac yn llai ynysig

HERIAU

Gan ei bod hi’n elusen fechan iawn, mae’n rhaid i The Birth Partner Project wneud llawer gyda thîm bychan, ac mae bob amser yn rheoli ei hadnoddau’n ofalus er mwyn cynyddu cynaliadwyedd ariannol. Gall hefyd fod yn anodd recriwtio gwirfoddolwyr sydd â digon o amser i’w roi i rôl mor drom gydag oriau anrhagweladwy a rota ar alwad. Serch yr heriau hyn, dywed y gwirfoddolwyr sy’n gysylltiedig â’r elusen mae’r gwaith hwn yw’r gwaith mwyaf gwobrwyol y maen nhw erioed wedi’i wneud, a bod yr effaith ar y bobl sy’n defnyddio’r gwasanaeth yn gwneud y cwbl yn werth chweil.

CYDWEITHIO GYDA PHOBL IFANC AR DDYLUNIO GWASANAETHAU DIGIDOL

Menter gymdeithasol ac elusen gofrestredig yw ProMo Cymru sy’n cydweithio i ddatblygu cyfathrebiadau digidol er mwyn cynyddu ymgysylltiad y gynulleidfa darged â gwasanaethau.

#arloesedd #cydgynhyrchu

PAM DDECHREUODD Y GWAITH HWN

Sefydlwyd ProMo-Cymru ym 1984 fel Cymdeithas Datblygu Cydweithredol De Cymru. Dechreuodd ProMo fel y mae nawr yn Butetown, Caerdydd, yn gweithio gyda phobl ifanc i’w helpu i hyrwyddo eu mentrau busnes megis clybiau nos. Ar ôl hyn, dechreuasant ddatblygu gwasanaethau gwybodaeth digidol i ieuenctid. Arweiniodd hyn at ddatblygu gwaith amrywiol ar gyfer y sector cyhoeddus a’r sector gwirfoddol, gan gynnwys dylunio gwefannau, cynhyrchu cyfryngau digidol ac ymgysylltu diwylliannol. Maen nhw’n cynorthwyo’r sector gwirfoddol a’r sector cyhoeddus i ddychmygu, profi a chreu gwasanaethau gwell. Caiff eu gwaith ei lywio gan eu profiad o gyflawni prosiectau gwybodaeth digidol i ieuenctid. Maen nhw hefyd yn cynnig hyfforddiant a gwasanaethau ymgynghori i amrediad o fudiadau.

Ers dechreuad cyfryngau cymdeithasol, mae gwaith ProMo wedi cynnwys dylunio’r cyfathrebiadau ar gyfer clinig iechyd rhywiol Caerdydd a’r Fro. Roedd angen i ddarpar gleifion gael eu hysbysu’n well a’u brysbennu’n briodol er mwyn osgoi amserau aros hir. Creodd yr elusen ap llawn gwybodaeth a hawdd ei ddefnyddio ar iechyd rhywiol, gan ddarparu gwybodaeth fanwl ar ystod o bynciau iechyd rhywiol, yn cynnwys dulliau atal cenhedlu, profi am heintiau a drosglwyddir yn rhywiol (STI) a thriniaethau. Gwnaethant hefyd greu taflenni gwybodus, wedi’u dylunio i gyflwyno gwybodaeth glir a chryno i ddefnyddwyr y gwasanaeth.

Mae dull gweithredu’r elusen yn cydnabod cyfraniad y bobl sydd wedi bod yn gysylltiedig ag ymgynghoriadau ac yn ceisio cynyddu ymgysylltiad. Yn ystod prosiect rhwng ProMo a Mind Casnewydd, gwnaethant benderfynu talu pobl ifanc am eu hamser yn trafod eu profiadau bywyd o broblemau iechyd meddwl neu eu profiad o ddefnyddio gwasanaethau iechyd meddwl, er mwyn helpu i ddatblygu ffyrdd gwell i bobl ifanc gael mynediad at gymorth.

BUDDION

Fel elusen gyda braich fasnachu, ac nid cwmni preifat, mae angen i ProMo fod yn gynaliadwy fel mudiad, felly mae’n gosod gwerth cost bras am ei gwaith, ond ni chaiff ei gyrru gan elw. Mae’r mudiad yn denu cyflogeion sydd â’r un gwerthoedd â gwasanaethau cyhoeddus, ac sy’n ymrwymedig i gyflawni gwaith o safon uchel sy’n fuddiol i’r gymuned ehangach.

HERIAU

Mae’r rhain yn cynnwys sicrhau cyllid ar gyfer prosiectau, addasu i newidiadau mewn technoleg a chadw i’r funud ag anghenion newidiol defnyddwyr, fel ffrwydrad TikTok a thueddiadau chwilio pobl iau, sy’n llai tebygol o droi at Google pan fydd problem, a throi at wefannau cyfryngau cymdeithasol yn lle hynny. Mae llawer o’u gwaith yn cynnwys profi gwasanaethau newydd, cynhyrchion digidol a strategaethau cyfathrebu er mwyn sicrhau bod amrediad o ddefnyddwyr gwasanaethau posibl yn gysylltiedig â’r gwaith dylunio – a gallai hyn gynnwys pobl iau sy’n bell o’r farchnad waith neu’r gwasanaethau sydd wedi’u sefydlu i’w helpu, er enghraifft.

GWASANAETHAU TRAFNIDIAETH GYMUNEDOL YN MYND YR AIL FILLTIR I GYNORTHWYO POBL

Mae’r Gymdeithas Cludiant Cymunedol (CTA) yn cefnogi’r sector trafnidiaeth gymunedol, gan weithio ochr yn ochr â mudiadau sy’n ymwneud â darparu neu gael gafael ar gludiant hygyrch, cynhwysol, nid-er-elw.

#defnyddioseilweithiau

PAM DDECHREUODD Y GWAITH HWN

Cafodd y CTA ei sefydlu ym 1982. Mae’n cynnig hyfforddiant, cyngor a chyfleoedd rhwydweithio i grwpiau trafnidiaeth i’w helpu nhw i wella eu gwasanaethau a chyrraedd mwy o bobl. Yng Nghymru, mae’r CTA yn ceisio cael pobl i ystyried trafnidiaeth yn ddyfnach pan gaiff gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol eu cynllunio. Mae gan y CTA oddeutu 1,400 o aelodau ledled y DU, ac mae tua 100 o’r rhain yng Nghymru. Mae gan y grwpiau hyn amrywiaeth o gerbydau a gwasanaethau, o finibysiau i gerbydau addas i gadeiriau olwyn.

Mae grwpiau’r CTA yn darparu gwasanaethau fel bysiau cymunedol ac yn gweithio gydag awdurdodau lleol i gyflenwi gwasanaethau a gomisiynir gan y gymuned mewn amgylchiadau lle mae gweithredwyr masnachol wedi tynnu allan am resymau ariannol. Mae grwpiau hefyd sy’n cynnig trafnidiaeth ar alw, fel gwasanaethau galw’r gyrrwr; gellir bwcio’r rhain a byddant yn mynd â chi o ddrws i ddrws. Mae hefyd cynlluniau ceir gwirfoddol, clybiau ceir, a chynlluniau olwynion i’r gwaith, lle y gellir llogi mopedau i helpu pobl i ddychwelyd i goleg neu waith.

BUDDION

Mae trafnidiaeth gymunedol yn galluogi pobl nad ydynt yn gallu symud llawer i gael mynediad at ofal iechyd a gwasanaethau cymdeithasol, gan gynnwys apwyntiadau ysbyty. Mae’n lleihau ynysu cymdeithasol ac unigrwydd drwy ddarparu modd i bobl gymryd rhan mewn gweithgareddau cymunedol. Mewn un achos diweddar, gwnaeth gyrrwr bws cymunedol sylwi nad oedd un o’i deithwyr rheolaidd yn ateb y drws, a oedd yn anghyffredin iddi hi. Aeth i weld, a sylweddoli ei bod wedi syrthio yn y tŷ. Ffoniodd y gwasanaethau brys a threfnu i rywun arall fynd â’i deithwyr eraill i’w cyrchfan. Mae’r gyrwyr cymunedol hyn yn bendant mewn sefyllfa well i roi cymorth ychwanegol na’r rheini sy’n gweithio i wasanaeth cwbl fasnachol.

HERIAU

Mae llawer o grwpiau trafnidiaeth gymunedol yn dibynnu ar grantiau a rhoddion i redeg. Maen nhw hefyd yn wynebu heriau gweithredol, fel recriwtio a hyfforddi gwirfoddolwyr, cynnal a chadw cerbydau a rheoli amserlenni a llwybrau. Oherwydd yr argyfwng costau byw, ni all fwyfwy o wirfoddolwyr fforddio tanwydd, neu nid oes ganddyn nhw gymaint o amser i wirfoddoli am eu bod yn gorfod gweithio i dalu am eu treuliau byw eu hunain.

CEFNOGI DIODDEFWYR CANSER MEWN CYMUNEDAU GLOFAOL

Mae Ymddiriedolaeth Adfywio’r Meysydd Glo (CRT) yn arwain prosiect sy’n anelu at wella canlyniadau canser yn hen gymunedau glofaol gogledd Pen-y-bont ar Ogwr, Rhondda Cynon Taf a Merthyr Tudful.

#trechuanghydraddoldeb

PAM DDECHREUODD Y GWAITH HWN

Nod y rhaglen YAMG Gyda’n Gilydd, prosiect mewn Partneriaeth â Chymorth Canser Macmillan, yw gwella’r canlyniadau i bobl sydd wedi’u heffeithio gan ganser, a’r gwasanaethau sydd wedi’u cynllunio i’w cynorthwyo, mewn rhai o’r cymunedau mwyaf difreintiedig. Cafodd y prosiect ei sefydlu mewn ymateb i’r nifer uwch o achosion o ganser mewn cymunedau glofaol o’u cymharu â’r cyfartaledd cenedlaethol. Roedd cyfradd y marwolaethau o ganser yn y pumedau mwyaf difreintiedig yng Nghymru bron 55% yn uwch na’r pumedau lleiaf difreintiedig yn 2021.

BUDDION

Bydd partneriaeth YAMG Gyda’n Gilydd a Macmillan yn codi ymwybyddiaeth o symptomau ac opsiynau sgrinio, a bydd y prosiect hefyd yn cynnig cymorth un-i-un anghlinigol i bobl sydd wedi cael diagnosis o ganser. Bydd pob claf yn cael asesiad holistaidd electronig o’i anghenion, cynllun gofal wedi’i lunio ar ei gyfer, a help i ymdopi â’r heriau corfforol, emosiynol ac ymarferol o fyw gyda chanser.

Mae’r bartneriaeth hefyd eisiau deall rhwystrau ymgysylltu mewn cymunedau o amddifadedd uchel, codi ymwybyddiaeth o fynediad at wasanaethau canser a chyd-greu datrysiadau cynhwysol. Yn aml, mae gan gymunedau glofaol lefelau isel o ymgysylltiad â gwasanaethau iechyd, yn enwedig o ran sgrinio am ganser. Bydd y prosiect yn gweithio gyda grwpiau cymunedol a rhanddeiliaid lleol i fagu ymddiriedaeth.

Os bydd y prosiect yn cael canlyniadau positif, bydd y bartneriaeth yn ystyried a ellir ei gyflwyno i Fyrddau Iechyd a chymunedau glofaol eraill ledled y DU.

HERIAU

Un o heriau allweddol y prosiect yw ymgysylltu â phobl sydd wedi bod yn anodd eu cyrraedd yn draddodiadol – sy’n cynnwys dynion. Yn aml, ychydig iawn o ymgysylltu a welir rhwng cymunedau glofaol a gwasanaethau iechyd, yn enwedig o ran sgrinio am ganser. Bydd y prosiect yn gweithio’n agos gyda grwpiau cymunedol a rhanddeiliaid lleol i fagu ymddiriedaeth. Mae ffactorau economaidd-gymdeithasol sy’n cyfrannu at gyfraddau uwch o ganser mewn cymunedau glofaol, gan gynnwys tlodi, llythrennedd, diweithdra a thai gwael hefyd yn cyflwyno heriau.

‘PWYNTIAU SIARAD’ YN HELPU POBL I OSGOI CYRRAEDD PWYNT ARGYFWNG

Mae Cyngor Sir Ddinbych yn cydweithio gyda’r sector gwirfoddol ar ei wasanaeth, Pwyntiau Siarad, gan gynnal sesiynau ym mhob llyfrgell ledled y sir. Mae’r sesiynau yn cynnig amgylchedd anffurfiol sydd ddim yn barnu, gyda’r nod o gael gwared â’r stigma a’r ofn sy’n gysylltiedig â gofyn am help. Y syniad y tu ôl i wasanaeth Pwyntiau Siarad yw dod â chymorth allan i’r gymuned, bod yn fwy hygyrch ac i gynorthwyo pobl i ddod o hyd i weithgareddau neu fudiadau yn y gymuned a all helpu gyda phroblemau sy’n ymwneud â gofal cymdeithasol.

#presgripsiynucymdeithasol #ymyrraethgynnar

PAM DDECHREUODD Y GWAITH HWN

Dechreuodd Pwyntiau Siarad yn 2016 fel rhan o ‘raglen gwaith cymdeithasol cenedlaethol a arweiniwyd gan y gymuned’, lle roedd nifer bychan o awdurdodau lleol yn profi gwahanol ffordd o weithio a oedd yn canolbwyntio mwy ar y gymuned, yn ymwneud â hybu annibyniaeth ac yn ceisio lleihau biwrocratiaeth.

Roedd yn ddull gweithredu a oedd yn ceisio cefnogi a grymuso pobl i gael annibyniaeth, parhau i fyw yn eu cartrefi am hirach ac i gyflawni’r canlyniadau a oedd yn bwysig iddyn nhw. Yn bwysicach oll, roedd yn ddull ataliol i helpu i gryfhau gwydnwch unigolyn er mwyn ceisio osgoi argyfyngau yn y dyfodol. Estynnodd allan i bobl leol a gafodd eu hannog i gymryd rhan, cael eu trin fel pobl gyfwerth a gweithio ochr yn ochr ag ymarferwyr, gyda phob unigolyn yn cael ei werthfawrogi am ei wybodaeth, ei arbenigedd a’i brofiad unigryw.

Mae sesiynau galw heibio neu drwy apwyntiad yn cynnig cyngor, gwybodaeth a chymorth i bobl sy’n cael anhawster gyda phroblemau amrywiol, gan gynnwys cyfeirio pobl at fudiadau gwirfoddol a allai helpu.

Caiff sesiynau Pwyntiau Siarad eu staffio gan Lyw-wyr Cymunedol, eu cyllido gan y Gronfa Integreiddio Rhanbarthol (RIF) ar gyfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol gan Lywodraeth Cymru a’u cyflogi drwy’r Groes Goch Brydeinig – y Llyw-wyr Cymunedol sy’n llywyddu’r sesiynau ac maen nhw’n wyneb cyfarwydd, cyfeillgar.

BUDDION

Trwy gynyddu’r cydweithrediad â’r sector gwirfoddol, nod Pwyntiau Siarad yw chwalu rhai o’r amheuon sydd gan lawer o bobl ynghylch yr ‘awdurdodau’ yn eu problemau, fel problemau budd-daliadau neu eu hanhawster i gadw’u hannibyniaeth. Mae Pwyntiau Siarad wedi sylwi y bydd rhai trigolion yn dod i sesiwn i “brofi’r dŵr”, cyn dychwelyd gyda rhywun sydd angen cymorth.

Wedi’i gefnogi gan fudiadau gwirfoddol, mae Pwyntiau Siarad yn cynnig cyngor ar fudd-daliadau, tai a materion gofal cymdeithasol eraill. Presgripsiynu cymdeithasol yw dull gweithredu sy’n cysylltu pobl â gweithgareddau, grwpiau a gwasanaethau yn y gymuned er mwyn diwallu’r anghenion ymarferol, cymdeithasol ac emosiynol sy’n effeithio ar eu hiechyd a’u lles. Un o fuddion di-ri Pwyntiau Siarad yw ei fod yn helpu unigolion i ymdopi â materion iechyd meddwl, gan eu galluogi i fyw’r bywydau gorau y gallant.

HERIAU

Mae’r prinder cyllid hirdymor, neu’r penderfyniadau funud olaf ar adnewyddu grantiau, yn ei gwneud hi’n anoddach i gadw staff, oherwydd gall y gwasanaeth ddim ond cyflogi pobl ar gontractau tymor byr, sy’n cyfrannu at drosiant cyflogeion. Mae hyn wedi’i wneud yn waeth gan yr argyfwng costau byw, oherwydd mae’n anoddach i gyflogeion barhau â chontractau tymor byr, ansicr yn sgil eu hymrwymiadau ariannol eu hunain.

Mae’r ymrwymiad gan fudiadau gwirfoddol i fynychu hefyd wedi bod yn her ar brydiau – mae llawer heb staff digonol ac yn wynebu eu pwysau cyllido eu hunain.

Mae diffyg trafnidiaeth hefyd yn broblem i’r rheini yn y cymunedau mwyaf gwledig, ond mae’r staff bob amser yn ceisio dod o hyd i ddatrysiadau eraill.

CREDU ANGHREDADWY YN RHOI CYMORTH I OFALWYR

Mae Credu yn cynnig cymorth i ofalwyr di-dâl a’u teuluoedd ym Mhowys, Ceredigion, Wrecsam, Conwy, a Sir Ddinbych.

#cydgynhyrchu

PAM DDECHREUODD Y GWAITH HWN

Dechreuodd Credu fel Gwasanaethau Gofalwyr Powys yn 2003, sef grŵp bychan o wirfoddolwyr a welodd yr angen i gynorthwyo gofalwyr a oedd yn aml wedi’u hynysu ac yn ei chael hi’n anodd ymdopi. Yn 2014, gwnaethant newid eu henw i Credu ac ennill comisiynau gwasanaeth mewn siroedd eraill.

BUDDION

Mae cylch gwaith y Fenter Seibiant Creadigol, gwasanaeth a gomisiynir gan y cyngor, yn golygu bod ganddynt rywfaint o hyblygrwydd o fewn eu cyllid statudol i ddatblygu cymorth wedi’i deilwra. Gallai hyn fod mor syml â darparu awr o weithgarwch ar-lein ar gyfer oedolyn awtistig, fel bod ei ofalwr hŷn yn teimlo ei fod yn gallu cwblhau gwaith tŷ. Mewn un achos, gwnaeth hyn olygu gosod cysylltiad trydanol mewn sied yn yr ardd er mwyn rhoi man tawel a chynnes i ofalwr ifanc lle gallai baratoi ar gyfer ei harholiadau TGAU. Mae Credu hefyd yn cynnal nifer o grwpiau i ofalwyr ifanc ac oedolion sy’n ofalwyr, digwyddiadau, teithiau a boreau coffi fel rhan o’u cymorth i ofalwyr, o blant oed ysgol gynradd i bobl dros ganmlwydd oed. Mae cymorth arall yn cynnwys teithiau penwythnos neu ddiwrnod i helpu i greu atgofion a phrofiadau hapus i’r teulu, neu i roi ychydig o seibiant i ofalwyr di-dâl o’u cyfrifoldebau gofalu.

Mae natur hirdymor eu cydberthynas â Gwasanaethau Cymdeithasol Powys yn golygu eu bod yn ddarparwr dibynadwy ac wedi helpu i lunio datrysiadau creadigol i sefyllfaoedd unigolion. Mae aelodau tîm Credu yn mynd i gyfarfodydd sgrinio Powys bob bore gyda’r awdurdod lleol a’r Bwrdd Iechyd i weld a allant gynorthwyo unrhyw un o’r bobl sydd wedi gofyn am help, naill ai i’w hunain neu i anwylyn.

HERIAU

Mae cyfyngiadau ariannol yn her i Credu, yn ogystal â diffyg ymwybyddiaeth o’r rôl hanfodol y mae gofalwyr di-dâl yn eu chwarae mewn cymdeithas. Cyflwynodd pandemig COVID-19 heriau pellach i’r mudiad, oherwydd bu’n rhaid iddynt addasu eu gwasanaethau i ddiwallu anghenion newidiol gofalwyr yn ystod y cyfnodau clo. Maen nhw eisiau cryfhau’r cydberthnasau â mudiadau a darparwyr gwasanaethau eraill er mwyn gwella’r cymorth sydd ar gael i ofalwyr di-dâl wella eu llesiant ac ansawdd eu bywydau.

CYNORTHWYO POBL DDALL A RHANNOL DDALL I GAEL MYNEDIAD AT WASANAETHAU

Mae RNIB Cymru yn cynnig cymorth ymarferol a gwasanaethau i bobl ddall a rhannol ddall, yn ogystal â’u teuluoedd, ffrindiau a gofalwyr, i helpu i wella bywydau a grymuso pobl i fyw’n dda heb eu golwg a chadw’u hannibyniaeth. Maen nhw’n codi ymwybyddiaeth o’r materion y mae pobl ddall a rhannol ddall yn eu hwynebu ac yn herio anghydraddoldebau drwy ymgyrchu dros newid cymdeithasol a gwasanaethau gwell.

#llesiantehangach #trechuanghydraddoldeb

PAM DDECHREUODD Y GWAITH HWN

Deilliodd gwaith ymgyrchu’r RNIB o’r angen i gyflwyno llais cyfunol ar brofiad pobl sydd wedi colli’u golwg. Ei nod yw gwneud Cymru yn fwy hygyrch a chynhwysol drwy sicrhau newidiadau i bolisi a deddfwriaeth, gan ddwyn gwasanaethau cyhoeddus Cymru i gyfrif am gydymffurfio â’r polisïau a safonau cyfredol a’u cynorthwyo i wella arferion. Mae’r elusen yn briffio gwleidyddion yn rheolaidd i wella ansawdd gwaith craffu a thrafod ac i wella dealltwriaeth y cyhoedd o brofiadau bywyd pobl sydd wedi colli’u golwg.

BUDDION

Mae gwaith yr RNIB gyda phobl ag amhariad ar y golwg yn golygu bod ganddyn nhw arbenigedd yn eu profiad bob dydd o gael gafael ar wasanaethau cyhoeddus, ac mae’r elusen mewn sefyllfa dda i amlygu datrysiadau. Gall godi lleisiau cleifion i helpu i yrru gwelliannau, fel cydymffurfiaeth cyrff cyhoeddus â Dyletswydd Cydraddoldeb Sector Cyhoeddus Cymru.

Un o’u meysydd gwaith yw sicrhau bod pobl ag amhariad ar y golwg yn derbyn cyfathrebiadau hygyrch fel y gallant, er enghraifft, ddarllen manylion apwyntiad i ddod, llenwi ffurflenni, neu gael canlyniadau profion yn yr un modd â phawb arall. Canfu adroddiad ‘Gwna fe i Wneud Synnwyr’ RNIB Cymru fod un rhan o dair o bobl ag amhariad ar y golwg wedi colli apwyntiad am nad oeddent yn gallu darllen eu llythyrau apwyntiad.

Yng Nghymru, dylai Byrddau Iechyd gydymffurfio â’r safonau ar gyfer hygyrchedd a’r ddyletswydd i wneud addasiadau rhesymol o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010. Mae gwaith ymgyrchu’r RNIB wedi helpu i roi’r mater hwn ar agenda bolisi Llywodraeth Cymru ac mae rhaglen waith yn cael ei sefydlu ar draws adrannau i sicrhau bod safonau cyfreithiol yn cael eu rhoi ar waith.

Mae ymgyrch ddiwygio gofal llygaid yr RNIB yn canolbwyntio ar gleifion sydd mewn perygl o golli eu golwg yn barhaol, ond a allai osgoi hyn pe na bai’n rhaid iddyn nhw aros ym mhell y tu hwnt i’w dyddiad targed am driniaeth. Gan ddefnyddio dulliau monitro data ac ymchwil, mae’r elusen yn amlygu meysydd i’w gwella. Mae hefyd yn gweithio ar gynyddu dealltwriaeth ymhlith y cyhoedd a’r byd gwleidyddol o fesurau blaenoriaethu clinigol ar gyfer offthalmoleg er mwyn gyrru gwaith craffu mwy effeithiol.

HERIAU

Mae’n heriol i dîm materion cyhoeddus yr elusen ymdrin ag ehangder y meysydd polisi perthnasol ac ymgysylltu â’r holl fudiadau cysylltiedig, gan gynnwys 22 o gynghorau, saith Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol, a saith Bwrdd Iechyd. Gall hefyd fod yn anodd chwilio cydbwysedd rhwng bod yn bartner cydweithredol sy’n gweithio gyda gwasanaethau i yrru gwelliannau, wrth hefyd ddwyn cyrff cyhoeddus i gyfrif.

Un o’r problemau mawr i’r RNIB yw’r boblogaeth sy’n heneiddio – rhagwelir y bydd nifer y bobl sydd wedi colli’u golwg wedi dyblu erbyn 2050. Cred RNIB Cymru y byddai’r sector gwirfoddol mewn sefyllfa well i helpu i effeithio ar newid positif pe bai rhwymedigaethau statudol cryfach ar gyrff cyhoeddus i ymgysylltu â grwpiau â nodweddion gwarchodedig gwahanol.

CYMRYD GOFAL I HELPU POBL I BARHAU I FOD YN RHAN O’U CYMUNED

Elusen yw Gofal Solfach a redir gan bobl Solfach a Thre-groes yn Sir Benfro i wella iechyd a lles trigolion a sicrhau eu bod yn parhau i fod yn rhan o’u cymuned.

#ymyrraethgynnar

PAM DDECHREUODD Y GWAITH HWN

Cafodd Gofal Solfach ei sefydlu gan y cyngor cymuned fel prosiect peilot yn 2015 a daeth yn elusen gofrestredig yn 2017. Daeth y syniad ar ei gyfer gan Mollie Roach, athrawes wedi ymddeol a oedd hefyd yn aelod lleyg gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda. Sylweddolodd hi’r heriau a oedd yn wynebu’r pentref fel cymuned a oedd yn heneiddio, ond sylweddolodd hefyd fod llawer o drigolion iach a oedd wedi ymddeol o yrfaoedd prysur, a oedd yn colli bod yn weithredol ac eisiau cysylltu â phobl eraill. Gwahanodd yr elusen o’r cyngor cymuned yn ddiweddarach am resymau llywodraethiant. Mae rhai gwirfoddolwyr yn ymwneud yn helaeth â’r elusen fel ymddiriedolwyr â chyfrifoldebau rheolaidd, tra bod eraill yn helpu’n achlysurol gyda thasgau mor amrywiol â chasglu siopa, coginio ar gyfer digwyddiad cymunedol, neu gerdded ci trigolyn sy’n gwella ar ôl llawdriniaeth.

BUDDION

Dengys hunan-adroddiadau bod Gofal Solfach yn gwella llesiant pawb dan sylw. Noda’r Cydlynydd, Lena Dixon mai’r ‘hyn sy’n gwneud i bobl deimlo’n braf yw cysylltiad’, ac mae’r rheini sy’n parhau i fod yn egnïol drwy wirfoddoli yn aros yn iachach am hirach. Nid yw pawb eisiau cymryd rhan, fodd bynnag, ond mae’r trigolion yn gwybod bod cymorth ar gael os byddant ei angen. Yn ogystal â lleihau ynysigrwydd a gwella llesiant, dengys gwerthusiadau sydd wedi’u gwneud gan y GIG bod Gofal Solfach wedi atal pobl rhag gorfod cael eu derbyn i’r ysbyty. Ynghyd â hyn, mae gan y tîm enghreifftiau i ddangos bod trigolion wedi cael eu helpu i ddod adref o’r ysbyty’n gyflymach.

HERIAU

Mae cyllid yn broblem am ei fod yn gyllid ‘tymor byr a chystadleuol’ meddai ymddiriedolwr arall, Sue Denman, Athro Emeritws polisi ymchwil a datblygu a wnaeth ymddeol i Solfach a sefydlu braich ymchwil a datblygu’r elusen. Dywedodd fod rhai cyllidwyr yn gofyn am ddata gwerthuso nad yw’n cyd-fynd â sut mae elusennau bach yn gweithio.

Nid yw Solfach eisiau cael ei gweld fel rhywbeth sy’n disodli gwasanaethau cyhoeddus chwaith, na’i chymryd yn ganiataol fel rhywbeth sy’n ddatrysiad rhad i broblem. Mae’r tîm yn sicrhau nad yw’n amnewid pobl sy’n cael cyflog am wirfoddolwyr.

Mae cael mwy o bobl iau i gymryd rhan fel gwirfoddolwyr yn her, ond mae tîm Gofal Solfach yn cydnabod na all trigolion iau nad ydynt wedi ymddeol eto fod â’r amser na’r egni o bosibl i helpu.

Hefyd, mae Solfach yn meddwl am beth fydd yn digwydd pan fydd y genhedlaeth bresennol o wirfoddolwyr yn dod i oedran pan fyddant angen cymorth eu hunain. Mae rhai ymddiriedolwyr yn gysylltiedig â gwaith arall yn y pentref i geisio gwneud y gymuned yn fwy hyfyw a deniadol i deuluoedd ifanc. Maen nhw hefyd eisiau parhau i gryfhau’r ddarpariaeth gofal cartref drwy bartneru â darparwr menter gymdeithasol yn y sir. Mae hyn yn parhau i fod yn heriol oherwydd problemau recriwtio, ond mae trafodaethau ar droed gyda chymunedau cyfagos i ddod ynghyd i ganfod ateb.

GALL ‘THE CIRCUIT’ ACHUB POBL SY’N CAEL ATALIAD Y GALON

‘The Circuit’ yw’r gronfa ddata o ddiffibrilwyr ledled y DU, ac mae’n deillio o bartneriaeth rhwng y British Heart Foundation (BHF), Resuscitation Council UK (RCUK), Ambiwlans Sant Ioan, a’r Gymdeithas Prif Weithredwyr Ambiwlans (AACE).

#cefnogidarpariaethstatudol

PAM DDECHREUODD Y GWAITH HWN

Mabwysiadwyd The Circuit i ddechrau i adeiladu ar ddata’r Gwasanaethau Ambiwlans Cymru ei hun a gwella’r gwaith o gynnal a chadw diffibrilwyr. Y nod yw llunio map o’r holl ddiffibrilwyr sydd ar gael i’r cyhoedd, fel y gall y rheini sy’n ateb galwadau 999 gyfeirio’r bobl sydd yno pan fydd rhywun yn cael ataliad y galon at eu diffibriliwr agosaf tra byddant yn aros am ambiwlans. Gwasanaethau Ambiwlans Cymru oedd un o’r rhai cyntaf i roi’r cynllun ar waith, ochr yn ochr â dau wasanaeth ambiwlans arall yn y DU. Aeth y cynllun yn fyw ledled Cymru yn 2019.

Rhan o fenter The Circuit yw cynnwys ‘gwarcheidwaid’; pobl yn y gymuned sy’n gofalu am ddiffibrilwyr ac yn newid y padiau neu fatris sydd wedi mynd heibio i’w dyddiad defnyddio pan fo angen. O ganlyniad i gynllun The Circuit, caiff negeseuon atgoffa eu hanfon at warcheidwaid ar e-bost bob tri mis i wirio’u diffibrilwyr. Mae’r gwarcheidwad hefyd yn cael gwybod os bydd y teclyn yn cael ei ddefnyddio gan Ambiwlans Cymru mewn argyfwng, a bydd y diffibrilwyr yn cael ei ddadactifedu’n awtomatig ar The Circuit. Mae 7,564 o ddiffibrilwyr wedi’u cofrestru at ddefnydd y cyhoedd yng Nghymru bellach, ac mae cynnydd wedi’i weld yn nifer y gwarcheidwaid.

BUDDION

Dengys data’r BHF mai dim ond un o bob deg unigolyn sy’n byw ar ôl ataliad y galon y tu allan i’r ysbyty yn y DU. Gall ddigwydd i unrhyw un, o unrhyw oed, felly gall gwybod sut i wneud adfywio cardio-pwlmonaidd (CPR) a chael mynediad at ddiffibriliwr wella eich siawns o ddod drwyddi. Mae’r cynllun wedi cynyddu nifer y diffibrilwyr cyhoeddus sydd wedi’u cofrestru ledled Cymru (ym mis Chwefror 2024, roedd 7,564 ohonyn nhw), ac mae cofrestru gwarcheidwaid yn golygu bod mwy o ddiffibrilwyr yn cael eu cynnal a chadw’n iawn.

HERIAU

Nid oes gan chwarter o’r diffibrilwyr sydd wedi’u cofrestru i’w defnyddio gan y cyhoedd warcheidwaid, sy’n golygu na elent fod yn ‘barod i achub’, felly ni all y rheini sy’n ateb galwadau gyfeirio pobl sy’n ffonio 999 atyn nhw. Yn ogystal, nid yw pob diffibriliwr yn y gymuned yn hygyrch i’r cyhoedd. Efallai eu bod wedi’u dynodi i’r ardal o’u hamgylch yn unig, fel canolfan hamdden. Mae’n her barhaus i godi ymwybyddiaeth o’r cynlluniau fel bod cymaint â phosibl o ddiffibrilwyr wedi’u cofrestru a gyda gwarcheidwaid.

PAN MAE CYMUNEDAU YN LLYWIO EU LLEOEDD EU HUNAIN, MAE’R CYMUNEDAU HYNNY’N ELWA

Mae Medrwn Môn yn rhoi cymorth a chyngor i grwpiau gwirfoddol a chymunedol ar gyllid cynaliadwy, gwirfoddoli, llywodraethu da ac ymgysylltu a dylanwadu. Yn ogystal â hyn, mae’n rhedeg dau brosiect mawr: y rhaglen Cynllunio Lle a phrosiect Cyswllt Cymunedol Môn.

#defnyddioseilweithiau

PAM DDECHREUODD Y GWAITH HWN

Yn 2013, cafodd Medrwn Môn gyllid gan y Loteri Genedlaethol am brosiect i ymhél â’r cymunedau mwyaf anodd eu cyrraedd er mwyn dylunio gwasanaethau lleol, gan gynnwys pobl iau, hŷn, ddigartref, neu bobl ag anableddau corfforol/dysgu, neu nodweddion gwarchodedig eraill. Ers sefydlu Cynghrair Seiriol yn 2014, mae pum cynghrair gymunedol wedi’u sefydlu, ac o dan y rhain, lluniwyd y rhaglen Cynllunio Lle. Caiff rhaglen Cynllunio Lle ei chyflwyno mewn partneriaeth â Chyngor Sir Ynys Môn, gan ddatblygu ‘Cynghreiriau Cymunedol’. Mae’r cynghreiriau yn creu map o’r ‘asedau’ cymunedol yn eu hardal, gan gynnwys cyfleusterau ffisegol a’r sgiliau a’r profiadau sydd yn yr ardal. Maen nhw wedyn yn pennu gwaith gyda gwasanaethau statudol i ddatblygu gwasanaethau ar sail angen lleol.

Rhaglen presgripsiynu cymdeithasol i drigolion yw Cyswllt Cymunedol Môn, sy’n seiliedig ar yr asedau cymunedol a nodwyd gan y rhaglen Cynllunio Lle. Caiff ei chyllido gan Lywodraeth Cymru a nifer o Gronfeydd a Sefydliadau eraill.

BUDDION

Mae buddion Cynllunio Lle wedi cynnwys mwy o bobl yn dod i grwpiau cymunedol, adeiladau cymunedol yn cael eu defnyddio, a chyfleoedd i wirfoddoli. Bellach, mae Cynghrair Seiriol yn cyflogi ei staff ei hun, yn rhedeg ei gynllun trafnidiaeth gymunedol ei hun ac yn cynhyrchu ei arian ei hun ar gyfer prosiectau bach a arweinir gan y gymuned. Gobaith Medrwn Môn yw y bydd cynghreiriau eraill yn gallu dilyn eu hesiampl, yn dibynnu ar anghenion eu hardaloedd.

Cyswllt Cymunedol Môn yw’r un pwynt mynediad at wasanaethau ymyrraeth gynnar ac atal i lawer o ddarparwyr statudol, gan gynnwys y Tîm Iechyd Meddwl Cymunedol, Timau Adnoddau Cymunedol, fforwm Darparwyr Cymorth Tai, meddygon teulu a Heddlu Gogledd Cymru.

HERIAU

Mae wedi cymryd deng mlynedd i ddatblygu chwe cynghrair, gydag wyth mwy i fynd ledled Ynys Môn. Yn y blynyddoedd cynnar, lleisiwyd rhai amheuon ynghylch gallu model Medrwn Môn i wella’r gwaith o ddylunio a darparu gwasanaethau, ond mae partneriaid statudol wedi parhau i ymrwymo i gynllunio’n ystyrlon gyda chymunedau. Mae cael yr adnoddau i ddatblygu cynghreiriau pellach a gwneud yn siŵr bod y gwaith o fapio asedau yn gyfredol yn her barhaus.

Mae gan dîm gweithredol Cyngor Ynys Môn gyfrifoldebau Cynllunio Lle o fewn eu rolau swydd bellach, ac mae ymrwymiad i greu strwythur adrodd ffurfiol i sicrhau bod pob adran o’r cyngor yn ymwybodol o’u cyfrifoldebau er mwyn cynnal y ffordd hon o weithio.

ÔL-OFAL HANFODOL I OROESWYR STRÔC

Mae gan y Gymdeithas Strôc flynyddoedd o brofiad o helpu goroeswyr strôc yn y DU i ailadeiladu eu bywydau. Mae hefyd wedi datblygu ei harbenigedd ymhellach drwy gysylltu â mudiadau mewn gwledydd eraill.

#cydgynhyrchu

Pam ddechreuodd y gwaith hwn

Datblygodd y Gymdeithas Strôc ei gwasanaethau gyda’r nod o gynnig dull sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn o roi sylw i brofiadau amrywiol goroeswyr. Awgryma ei harolygon bod goroeswyr strôc, unwaith y byddant y tu hwnt i angen gofal meddygol aciwt, yn gallu teimlo fel petai nhw wedi’u ‘gadael’ gan nad yw’r cymorth penodol sydd ei angen arnynt ar gael. Er enghraifft, os oes gan rywun broblemau iechyd meddwl ar ôl strôc, efallai y bydd angen therapydd arno sydd hefyd yn deall effeithiau ei strôc.

Unwaith y bydd goroeswr yn gadael gofal aciwt ac yn cael ei ryddhau o’r ysbyty, gall wynebu lliaws o broblemau sy’n gofyn am gymorth rhywun. Efallai y bydd angen cymorth iechyd meddwl arno, cyngor ymarferol ar gyllid a budd-daliadau, addasiadau i’w gartref, neu hyd yn oed help er mwyn iddo allu cymryd rhan lawn mewn bywyd teuluol eto, ymhlith ymyriadau eraill.

Buddion

Mae’r Gymdeithas Strôc yn dweud bod ei gwasanaethau yn arbed arian yn yr hirdymor, gan ei bod yn lleihau nifer y bobl sy’n gorfod cael eu hail-dderbyn i ysbytai ac yn lleddfu’r straen ar wasanaethau cymdeithasol. Ar lefel bersonol, awgryma’r adborth gan ei defnyddwyr gwasanaethau ei bod yn gwella canlyniadau iechyd a llesiant goroeswyr strôc, gan roi datrysiadau a chymorth ymarferol.

Yng Nghymru, mae wedi cael ei chomisiynu gan rai byrddau iechyd i gynnig gwasanaethau cymorth Bywyd ar ôl Strôc i oroeswyr strôc.

Heriau

Mae’r Gymdeithas Strôc yn credu ei fod yn bwysig cydweithio’n ddyfnach â’r sector iechyd a gofal cymdeithasol statudol i ddylunio a chyd-gynhyrchu gwasanaethau.

Mae’r ôl-ofal i oroeswyr strôc wedi newid yn sylweddol yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Y newyddion da yw bod mwy o bobl yn goroesi strôc, ond mae hyn yn golygu bod mwy o gleifion ag anghenion cymhleth, a all gynnwys problemau iechyd meddwl a chydafiacheddau eraill. Yn ogystal â hyn, mae pandemig COVID-19 wedi rhoi straen ychwanegol ar bob gwasanaeth iechyd, felly’n aml, nid yw problemau mwy cymhleth yn cael sylw.

Mae’r Gymdeithas Strôc yn credu y gallai helpu’r sector iechyd i fynd i’r afael â’r materion hyn yn fwy effeithiol, a rhoi gwasanaeth mwy buddiol a chost-effeithiol, pe bai’n cael ei chynnwys yn gynharach wrth gydgynllunio gwasanaethau. Ar hyn o bryd, mae’n cael ei chynnwys ar y cam hwyrach o wneud cynigion am gontractau gwasanaethau cymorth, y mae eu cylch gwaith wedi’i ddiffinio gan y bwrdd iechyd.