Carem wahodd swyddogion ac arweinwyr diogelu’r sector gwirfoddol i ymuno â Chymuned Ymarfer Diogelu newydd CGGC.
Dylai diogelu fod yn flaenoriaeth i bob mudiad gwirfoddol, yn enwedig y rheiny sy’n gweithio gyda phlant, pobl ifanc ac oedolion mewn perygl. Mae diogelu da a phriodol yn darparu sicrwydd cyhoeddus ynglŷn â’ch mudiad ac yn cyfrannu tuag at enw da cadarnhaol y sector yn gyffredinol.
Bydd Cymuned Ymarfer Diogelu CGGC yn darparu fforwm i bobl sydd â chyfrifoldebau diogelu o fewn elusennau a mudiadau gwirfoddol i ddod ynghyd, rhannu arfer dda, a thrafod pynciau amserol.
Cynhelir y digwyddiad cyntaf ar ddydd Iau 24 Medi rhwng 10am – 11am a bydd yn cynnwys cyflwyniad gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) ar wiriadau DBS gyda chyfle i holi cwestiynau: Digwyddiad Cymuned Ymarfer Diogelu.
Bydd aelodaeth o’r Gymuned Ymarfer yn cynnwys:
- Digwyddiadau ar-lein ar gyfer swyddogion ac arweinwyr diogelu gyda siaradwyr arbenigol ar faterion diogelu
- E-fwletin rheolaidd ynglŷn â’r newyddion diweddaraf yn ymwneud â diogelu
- Mynediad i fforwm drafod ar-lein wedi’i hwyluso gan CGGC
Pwy all ymuno?
Bydd aelodaeth ar agor i bobl sydd â chyfrifoldebau diogelu o fewn eu mudiadau. Gallai’r rhain gynnwys:
- Swyddogion Diogelu neu arweinwyr dynodedig
- Ymarferwyr diogelu
- Ymddiriedolwyr â chyfrifoldeb dros ddiogelu
Os hoffech ymuno â’r Gymuned Ymarfer, e-bostiwch ein Swyddog Diogelu, Suzanne Mollison, gan nodi gwybodaeth ynglŷn â’ch rôl ddiogelu.
Sut y gall CGGC eich helpu gyda diogelu
- Gwasanaeth ymholiadau di-dâl sy’n cynnig cyngor a gwybodaeth gyfrinachol un-i-un gan ein Swyddog Diogelu
- Gwybodaeth, canllawiau ac adnoddau di-dâl am ddiogelu
- Cyflwyniadau, sesiynau gwybodaeth a chymorthfeydd i’ch sefydliad neu eich aelodau
- Cyfleoedd dysgu amrywiol, gan gynnwys modiwlau ar-lein, gweminarau a hyfforddiant wyneb yn wyneb
Os oes gennych unrhyw gwestiynau yn ymwneud â diogelu, cysylltwch â’n Swyddog Diogelu drwy anfon ebost i safeguarding@wcva.cymru neu cysylltwch â ni ar 0300 111 0124.