Mae mudiadau o Gymru yn cael eu gwahodd i wneud cais i raglen Scale Accelerator Spring Impact – yn cau ar dydd Llun 12 Ebrill.
Mae Scale Accelerator yn helpu mudiadau sy’n cael eu gyrru gan genhadaeth i gael yr eglurdeb strategol, yr hyder a’r sgiliau sy’n angenrheidiol i gyrraedd rhagor o bobl mewn ffordd gynaliadwy.
A oes problem gymdeithasol bwysig yr ydych yn frwd dros ei datrys? Ydych chi’n teimlo y dylai eich mudiad fod yn gwneud mwy byth i’w datrys?
Mae Scale Accelerator yn cefnogi elusennau a mentrau cymdeithasol yn y DU sy’n uchelgeisiol o ran darparu eu hatebion profedig i ragor o bobl mewn rhagor o leoedd.
Bydd rhaglen 2021 yn cynnwys dau lwybr:
- Scale Accelerator: Ymgynghoriaeth Ddwys– rhaglen 6 mis sydd wedi’i sybsideiddio’n helaeth ac yn cynnig gwerth £35,000 o waith ymgynghoriaeth, cefnogaeth strategol a chyfleoedd dysgu pwrpasol ymysg cyfoedion gyda rhwydwaith o arweinwyr cymdeithasol blaengar a dyfeisgar.
- Scale Accelerator: Arweinwyr Cynnydd– rhaglen hyfforddi ddwys 4 mis er mwyn helpu arweinwyr mudiadau sy’n cael eu gyrru gan genhadaeth i feithrin y sgiliau, y wybodaeth a’r dulliau sy’n angenrheidiol i fod yn asiantiaid dros newid yn eu sefydliadau.
Mae’r cyfnod gwneud cais ar agor tan ddydd Llun, 12 Ebrill 2021, am 11:59pm. Cefnogir y rhaglen gan Sefydliad y Loteri Genedlaethol ac mae’n agored i elusennau a mentrau cymdeithasol yn y DU.
Wedi’i chefnogi gan Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol, mae Scale Accelerator yn rhaglen wedi’i sybsideiddio’n helaeth sy’n helpu sefydliadau sy’n cael eu gyrru gan genhadaeth i gyrraedd rhagor o bobl mewn ffordd gynaliadwy, ac i ddatblygu’r galluogrwydd arweinyddiaeth sydd eu hangen i sicrhau newid cadarnhaol.
Bydd y rhaglen yn galluogi sefydliadau i gael ymgynghoriaeth arbenigol a chymorth ymysg cyfoedion, gan gynnwys cyfle newydd a chyffrous i arweinwyr feithrin y ddealltwriaeth a’r hyder i arwain newid yn eu sefydliadau. Os ydych yn dymuno cael hyfforddiant a chymorth strategol hollbwysig i alluogi eich menter gymdeithasol i gyrraedd rhagor o bobl mewn rhagor o leoedd, gallai’r rhaglen hon fod yn ddelfrydol i chi.
Mae gan Spring Impact ddiddordeb penodol mewn ceisiadau gan y canlynol:
- Sefydliadau sy’n mynd i’r afael â phroblem sydd wedi gwaethygu o ganlyniad i COVID-19
- Sefydliadau yng Nghymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon
- Sefydliadau sy’n cael eu harwain gan bobl â phrofiad uniongyrchol
- Sefydliadau sy’n cefnogi grwpiau BAME a/neu sydd ag arweinyddiaeth BAME
I gael rhagor o wybodaeth ac i weld a yw eich sefydliad yn bodloni meini prawf y rhaglen, llwythwch y pecyn gwybodaeth i lawr (Saesneg yn unig).