Mae ein hadroddiad newydd ar Gynllun Cymunedau y Dreth Gwarediadau Tirlenwi (LDTCS) yn dangos blwyddyn arall lle mae prosiectau amgylcheddol a arweinir gan y gymuned wedi cael effaith sylweddol ledled Cymru.
Yn ei chweched flynedd, mae Cynllun Cymunedau y Dreth Gwarediadau Tirlenwi (LDTCS) wedi cefnogi 31 o brosiectau newydd sy’n mynd i’r afael â’r heriau o golli bioamrywiaeth, rheoli gwastraff mewn modd cynaliadwy a gwelliannau amgylcheddol ehangach.
Trwy gyfeirio adnoddau at gymunedau o fewn pum milltir i safleoedd tirlenwi neu orsafoedd trosglwyddo gwastraff, mae’r cynllun yn parhau i adeiladu gwydnwch a meithrin newid cynaliadwy. Rydym wedi cyhoeddi Adroddiad blynyddol 2023-24 LDTCS gydag enghreifftiau o’r hyn y mae prosiectau sydd wedi’u cyllido gan LDTCS wedi’u cyflawni.
BLWYDDYN O EFFAITH BOSITIF
Gan fyfyrio ar arwyddocâd y prosiectau hyn, dywedodd Lindsay Cordery-Bruce, Prif Weithredwr CGGC a Chadeirydd Panel LDTCS yn 2023/24 ‘Yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, mae Cynllun Cymunedau y Dreth Gwarediadau Tirlenwi wedi mynd ati unwaith eto i gefnogi ystod eang o brosiectau ysbrydoledig, gan rymuso pobl i gymryd camau i wella eu hamgylchedd lleol.’
‘Mae wedi bod yn fraint gweld yr effaith bositif y mae’r cynllun wedi’i chael ar gymunedau, na fyddai wedi digwydd heb waith gwych yr holl wirfoddolwyr sy’n ganolog i’r mentrau hyn.’
STORÏAU YSBRYDOLEDIG GAN BROSIECTAU A GYLLIDWYD
Mae’r adroddiad yn cynnwys nifer o astudiaethau achos sy’n dangos y ffyrdd amrywiol y mae prosiectau a gyllidwyd gan LDTCS yn gwneud gwahaniaeth mewn cymunedau.
- Gwnaeth y Clwb a Gerddi Cymunedol drawsnewid yr ardal nad oedd yn cael ei defnyddio ganddynt yn fan gwyrdd hygyrch, a dod â’r gymuned ynghyd drwy weithdai rheolaidd ar arddio a chadw gwenyn.
- Gwnaeth ELITE Paper Solutions arallgyfeirio mwy na 220 o dunelli o gardbord o safleoedd tirlenwi drwy greu deunydd gwely anifeiliaid ecogyfeillgar, cynnig lleoliadau gwaith a datblygu sgiliau pobl anabl a difreintiedig.
- Gwnaeth Tillery Action for You ailwampio gwarchodfeydd natur lleol a 19 o lotments a oedd wedi’u gadael, gan greu cynefinoedd i rywogaethau brodorol a chael gwirfoddolwyr i gymryd rhan mewn gweithgareddau cadwraeth.
- Gwnaeth Prosiect Ieuenctid Caerfyrddin ddenu dros 200 o bobl ifanc i gymryd rhan mewn gweithgareddau amgylcheddol fel tyfu bwyd a chadwraeth, gan hybu sgiliau a llesiant y bobl ifanc.
- Cafodd Neuadd Bentref Rhiwlas ei throi’n hyb cymunedol bywiog a hygyrch sy’n gweithio gyda grwpiau lleol i wella mannau gwyrdd gyda phlanhigion sy’n ystyriol o bryfed peillio.
- Gwnaeth Gwyrddio Penarth Greening sefydlu Llyfrgell o Bethau cyntaf Penarth, gan alluogi pobl leol i fenthyg eitemau i’r tŷ, arallgyfeirio bron dwy dunnell o wastraff o safleoedd tirlenwi a lleihau ôl troed carbon y gymuned.
- Gwnaeth Platfform ddatblygu lotment cymunedol hygyrch yng Nghaerdydd lle gall y rheini â dementia gymryd rhan mewn gweithgareddau garddio a chadw gwenyn, gan feithrin llesiant a chysylltiad cymdeithasol.
- Gwnaeth Clwb Rygbi Cwmtwrch wella effeithlonrwydd ynni eu hadeilad, gan alluogi’r clwb i wario mwy o adnoddau ar ehangu’r defnydd o’r hyb cymunedol i gefnogi pobl leol.
CYLLID AR GAEL
Os ydych chi’n teimlo eich bod wedi’ch ysbrydoli i feddwl am ffyrdd o wella’r amgylchedd yn eich ardal chi, mae rownd newydd o gynllun Cymunedau Treth Gwarediadau Tirlenwi nawr ar agor ar gyfer grantiau rhwng £5,000 – £49,999.
Mae’r gronfa hefyd yn cynnig grant o Arwyddocâd Cenedlaethol, gan ddarparu cyllid ar gyfer un prosiect o arwyddocâd cenedlaethol gwerth rhwng £50,000 – £250,000 a fydd yn cyfrannu at ddwy neu fwy o themâu’r gronfa.
Ar gyfer y rownd hon o LDTCS mae dwy ffenestr i wneud cais. Bydd hyn yn galluogi ceisiadau i gael eu hasesu’n amserol pan fyddant yn dod i law.
- Ffenestr 1 yn cau ar 20 Rhagfyr 2024
- Ffenestr 2 yn cau ar 7 Chwefror 2025
Am ragor o wybodaeth ac i wneud cais, ewch i’n tudalen ar LDTCS.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau am Gynllun Cymunedau y Dreth Gwarediadau Tirlenwi, cysylltwch â Thîm Grantiau CGGC yn ldtgrants@wcva.cymru.