Grŵp o bobl ifanc mewn coedwig yn codi sbwriel

Grymuso cymunedau drwy Wirfoddoli mewn Mannau Gwyrdd

Cyhoeddwyd : 19/11/25 | Categorïau: Gwirfoddoli | Gwybodaeth a chymorth |

Dewch i wybod sut mae Llais y Goedwig yn cynorthwyo awdurdodau lleol i ymhél yn well â gwirfoddolwyr a gwirfoddoli drwy Grant Strategol Gwirfoddoli Cymru.

Mae Llais y Goedwig, rhwydwaith llawr gwlad sy’n cynrychioli a chefnogi grwpiau ac ymarferwyr coetir cymunedol ledled Cymru, wedi bod yn gweithio mewn partneriaeth ag awdurdodau lleol ar hyd a lled Cymru ers hydref 2023 i gryfhau gwirfoddoli mewn mannau gwyrdd.

Wedi’i gyllido gan Lywodraeth Cymru, a’i gefnogi gan CGGC drwy Grant Strategol Gwirfoddoli Cymru, mae eu gwaith wedi canolbwyntio ar wella systemau, magu hyder a chreu cyfleoedd cynhwysol i gymunedau ymhel â natur a’i gilydd.

Mae eu gwaith ar y prosiect hwn wedi cefnogi gwelliannau go iawn mewn llywodraethiant, cyfranogiad a chynaliadwyedd mudiadau ym mhob rhan o Gymru.

UCHAFBWYNTIAU’R PROSIECT

Roedd gan Llais y Goedwig dri nod – gwneud mannau gwyrdd yn fwy hygyrch i wirfoddolwyr a mudiadau amgylcheddol, cynorthwyo cynghorau â systemau a phrotocolau ar gyfer rheoli gwirfoddolwyr a hwyluso cydweithio ar draws adrannau er mwyn gwella canlyniadau iechyd a lles. Dyma rai o uchafbwyntiau’r prosiect:

Cyngor Sir y Fflint

A hwythau â chapasiti cyfyngedig, derbyniodd tîm Rheoli Cefn Gwlad Sir y Fflint gymorth i wella cyfathrebiadau, symleiddio ffurflenni gwirfoddolwyr a chyflwyno rhaglen o hyfforddiant ymarferol.  Gwnaeth cyflwyno system gylchlythyr a hyfforddiant wedi’i deilwra helpu gwirfoddolwyr i deimlo’u bod yn cael eu gwerthfawrogi a’u grymuso.

Cyngor Tref Aberhonddu

Ar ôl i fan gwyrdd lleol poblogaidd gael ei drosglwyddo fel ased o Gyngor Sir Powys, mae Cyngor Tref Aberhonddu yn gweithio gyda swyddogion Llais y Goedwig i fagu hyder o ran cynnwys gwirfoddolwyr. Mae ymgynghoriadau cymunedol a chynllunio strategol yn gosod y sylfaen i’r man cymunedol pwysig hwn gael ei stiwardio o dan arweiniad gwirfoddolwyr yn y dyfodol.

Cyngor Sir Ceredigion

Serch heriau o ran capasiti a salwch staff o fewn timau’r cyngor, gwnaeth Llais y Goedwig addasu ei ymagwedd, gan ymhel yn uniongyrchol ag adrannau unigol a’r cyngor gwirfoddol lleol (CAVO). Mae cyfleoedd o hyd i gydweithio yn y dyfodol, yn enwedig o ran ymgysylltu â phobl ifanc a mentrau llunio llwybrau.

Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr (BCBC)

Mae Llais y Goedwig yn parhau i ddatblygu gwaith partner arloesol gyda BCBC i reoli Gwarchodfa Natur Parc Bedford ar ran a chyda phobl leol, ac mae hyn wedi ei alluogi i ddatblygu fel gwarchodfa natur dan arweiniad y gymuned. Mae grwpiau gwirfoddoli wedi’u cefnogi i reoli’r llwybrau a’r cynefinoedd ar y warchodfa, sefydlu planhigfa goed gymunedol, gwneud prosiectau cadwraeth a hyd yn oed monitro pathewod, ac mae’r holl bethau hyn wedi arwain at ganlyniadau ecolegol a chymdeithasol sylweddol.

Cyngor Sir Caerfyrddin

Mae gan Gyngor Sir Caerfyrddin gyfoeth o gyfleoedd gwirfoddoli â chymorth ar gael gyda lefelau amrywiol o broses a chymorth neu wirfoddolwyr. Gwnaeth y gwaith yma ganolbwyntio ar gatalogio cyfleoedd ac annog cymorth rhyngadrannol pan oedd angen er mwyn sicrhau safonau a phrosesau cyson.

Mae Llais y Goedwig wedi bod yn monitro cynnydd porth gwirfoddoli canolog newydd gyda’r nod o’i wneud yn adnodd ar draws y Cyngor i wella’r gwaith o recriwtio, cyfathrebu a chasglu data, a chynnig gwasanaeth syml i staff a gwirfoddolwyr.

MEWNWELEDIADAU SECTOR GYFAN

Mewn cydweithrediad â Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (CLlLC), cynhaliodd Llais y Goedwig arolwg cenedlaethol o gynghorau a chynghorau gwirfoddol. Roedd y prif ganfyddiadau yn cynnwys:

  • Prinder o gydgysylltwyr gwirfoddolwyr penodedig ar draws y mwyafrif o gynghorau
  • Mae rhaglenni gwirfoddolwyr yn dibynnu’n aml ar unigolion hynach, wedi ymddeol a chydag ychydig iawn o bobl ifanc yn cymryd rhan
  • Mynegodd gynghorau’r angen am hyfforddiant, cymorth marchnata a systemau canolog

Mae hyn yn tanlinellu pwysigrwydd buddsoddi’n barhaus mewn seilwaith gwirfoddoli, nid am ganlyniadau amgylcheddol yn unig, ond am wydnwch a lles cymunedau.

EFFAITH A DYSGU

Mae’r prosiect wedi dangos y gall cynghorau, gyda’r cymorth cywir, symud o reoli o’r brig i lawr i stiwardiaeth dan arweiniad cymuned. Ymhlith y prif feysydd effaith mae:

  • Hwyluso dull rheoli mannau gwyrdd dan arweiniad cymuned
  • Datblygu strategaethau recriwtio a chadw gwirfoddolwyr
  • Cryfhau capasiti’r mudiad a’i wybodaeth am bolisi
  • Uwchsgilio gwirfoddolwyr drwy hyfforddiant ymarferol

EDRYCH YMLAEN

Wrth symud ymlaen, bydd Llais y Goedwig yn helpu Cynghorau a chymunedau i:

  • Gefnogi cynlluniau stiwardio safleoedd hirdymor
  • Hwyluso cynghorau i rwydweithio â’i gilydd a rhannu arferion da
  • Datblygu rolau gwirfoddoli gweinyddol er mwyn lleihau beichiau staff
  • Ehangu strategaethau hyfforddi a recriwtio
  • Helpu staff y cyngor i ddeall y ‘daith’ gwirfoddoli y maen nhw’n ei chynnig i gymunedau

DARLLENWCH Y GWERTHUSIAD LLAWN

I weld yr adroddiad gwerthuso llawn a’r astudiaethau achos mewn manylder, ewch i Hwb Gwybodaeth TSSW.

Newyddion cysylltiedig

Cyhoeddwyd: 15/09/25
Categorïau: Gwirfoddoli, Gwybodaeth a chymorth

Datgloi potensial heb ei gyffwrdd mewn chwaraeon cymunedol

Darllen mwy

Cyhoeddwyd: 02/07/25
Categorïau: Gwirfoddoli, Newyddion

Cyflwyno dull newydd o wirfoddoli yng Nghymru

Darllen mwy

Cyhoeddwyd: 05/06/25
Categorïau: Gwirfoddoli, Newyddion

Gwirfoddoli: Curiad calon iechyd a gofal yng Nghymru

Darllen mwy