Mae menyw ifanc a gyflogir gan Hope Rescue trwy Kickstart yn chwerthin wrth iddi stocio'r rheiliau yn eu siop elusen

Grwpiau ffocws ar gymorth i godi arian

Cyhoeddwyd : 10/03/23 | Categorïau: Cyllid | Gwybodaeth a chymorth |

Ymunwch ag CGGC mewn grwpiau ffocws i ddod am gyfle i helpu i lywio’r ffordd y caiff codi arian ei gefnogi a’i ddatblygu yng Nghymru.

Mae CGGC wedi bod yn datblygu theori newid i wella’r gwaith o gydlynu a gweithredu’r cymorth codi arian yng Nghymru, mewn partneriaeth â chyrff eraill fel y Sefydliad Siartredig Codi Arian, Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol, Sefydliad Cymunedol Cymru, Llywodraeth Cymru a nifer o ymgyngoriaethau codi arian eraill.

Hoffem siarad yn uniongyrchol nawr â chodwyr arian. Hyd yma, mae’r gwaith wedi’i lywio’n uniongyrchol gan ymchwil a data a gasglwyd dros nifer o flynyddoedd. Nawr, rydyn ni eisiau sicrhau mai’r meysydd gwaith y mae ein hymchwil wedi ein cyfeirio atynt yw’r rhai cywir i wireddu ein gweledigaeth:

Mae’r budd cyhoeddus mwyaf posibl yn cael ei gyflwyno i gymunedau ledled Cymru gan fod mudiadau gwirfoddol yn cael eu cefnogi’n briodol i godi arian mewn modd cyfrifol.

BETH I’W DDISGWYL

Rydyn ni’n cynnal dau grŵp ffocws gyda dau bwnc craidd gwahanol – gallwch chi ddod i un sesiwn neu’r ddwy ohonynt. Bydd y ddwy sesiwn yn edrych ar ‘Tyfu’r pot’ – sut gallwn ni hybu pobl i roi yng Nghymru, a chreu mwy o gyfleoedd cynhyrchu incwm? Felly, dewch draw, helpwch ni i wneud yn siŵr ein bod ar y trywydd iawn, a rhannwch eich anghenion a’ch dymuniadau ynghylch cymorth effeithiol i godi arian yng Nghymru.

SGILIAU A DYSGU

Ar ddydd Llun 20 Mawrth, byddwn ni’n trafod ‘Sgiliau a dysgu’. Pa sgiliau ac anghenion dysgu y mae pobl sy’n codi arian yng Nghymru eisiau eu tyfu? Sut hoffech chi ymgymryd â’r dysgu hwn? Beth allwn ni ei wneud i annog mwy o bobl i ddewis codi arian fel gyrfa? I weld yr agenda lawn ac archebu lle, gweler yr Eventbrite yma: https://www.eventbrite.co.uk/e/focus-groups-on-support-for-fundraising-tickets-576246196887

‘LLYWODRAETHIANT’ CODI ARIAN

Ar ddydd Mercher 22 Mawrth, byddwn ni’n siarad am ‘lywodraethiant’ codi arian. A yw osgoi risgiau yn llesteirio eich ymdrechion codi arian? A ydych chi’n fudiad sy’n codi arian, neu’n fudiad codi arian? I weld yr agenda lawn ac archebu lle, gweler yr Eventbrite yma: https://www.eventbrite.co.uk/e/focus-groups-on-support-for-fundraising-tickets-576266337127

Newyddion cysylltiedig

Cyhoeddwyd: 18/09/23 | Categorïau: Cyllid |

Cyllid ar gael ar gyfer prosiectau amgylcheddol bach a mawr

Darllen mwy

Cyhoeddwyd: 15/09/23 | Categorïau: Cyllid | Newyddion |

Diwrnod Ymwybyddiaeth Rhodd Cymorth 2023

Darllen mwy

Cyhoeddwyd: 14/09/23 | Categorïau: Cyllid | Dylanwadu |

Cyllid datblygu rhanbarthol ar ôl gadael yr UE

Darllen mwy