An African rinsing hands under running water for protection

Grantiau ymateb COVID-19 uniongyrchol ar ran Cymru ac Affrica

Cyhoeddwyd : 08/06/20 | Categorïau: Cyllid |

Bydd rownd grantiau ymateb COVID-19 uniongyrchol hwn ar ran Cymru ac Affrica ar agor o 8 Mehefin 2020.

Caiff effeithiau byd-eang parhaus argyfwng COVID-19 eu profi mewn gwahanol ffyrdd ledled y byd. Fel prif raglen grantiau menter Cymru Affrica, bydd Cynllun Grantiau Bychain Cymru ac Affrica yn cyllido grwpiau i weithio gyda’u partneriaid Affricanaidd er mwyn lleihau effeithiau’r feirws ar gymunedau yn Affrica.

O ganlyniad i’r amgylchiadau digynsail hyn, bydd yr ymateb COVID-19 uniongyrchol hwn ar ran Cymru ac Affrica yn cyllido ceisiadau gan grwpiau o Gymru er mwyn gweithio gyda phartneriaid yn Affrica i ymateb i faterion uniongyrchol sy’n deillio o argyfwng COVID-19.

Ni ddyfernir y cyllid hwn ar gyfer prosiectau traddodiadol.

Bydd y rownd nesaf o gyllido Cymru Affrica traddodiadol yn digwydd yng Ngwanwyn 2021.

Mae’r cylch grant hwn wedi’i gynllunio er mwyn darparu cyllid i’r ceisiadau mwyaf argyfyngus a hanfodol ac mae’r ffurflen gais wedi’i symleiddio.

Grantiau ar gael

Ceir grantiau o £3,000 hyd at £15,000. Os oes gennych gais sy’n disgyn y tu allan i’r ystod grant hwn, siaradwch ag aelod o’r tîm cyn cwblhau eich cais am grant, os gwelwch yn dda. Gallwch gysylltu â CGGC ar walesafricagrants@wcva.cymru.

Mae £161,441 ar gael ar gyfer y cylch grant ymateb COVID-19 hwn.

Amcanion grant ar gyfer cylch ymateb uniongyrchol COVID-19 cynllun grant Cymru Affrica:

  • Cynorthwyo partneriaid Affricanaidd wrth fynd i’r afael ag effeithiau uniongyrchol COVID-19
  • Annog arferion iechyd a diogelwch llym
  • Gwneud cyfraniadau i’r themâu canlynol sy’n perthyn i gynllun grant Cymru Affrica
    • Iechyd
    • Bywoliaethau cynaliadwy
    • Dysgu gydol oes

Rhaid pwysleisio bod hwn yn gylch cyllid grant sy’n ymateb i argyfwng byd-eang, bydd angen i geisiadau am gyllid arddangos yn gryf yr effaith y byddant yn ei greu i’r partner Affricanaidd mewn ymateb i bandemig COVID-19.

Mae dogfen gallaw gynhwysfawr ar gael ar tudalen cynllun grant Cymru ac Affrica sy’n darparu gwybodaeth bellach ynglŷn ag amcanion y grant, cymhwystra, ac amserlenni. Fe annogir ymgeiswyr yn gryf i ddarllen y ddogfen hon cyn cyflwyno’u cais.

Newyddion cysylltiedig

Cyhoeddwyd: 23/08/24 | Categorïau: Cyllid | Gwybodaeth a chymorth | Newyddion |

Yr ymgyrch ‘ewyllysgaredd’ sy’n ennill tir

Darllen mwy

Cyhoeddwyd: 11/07/24 | Categorïau: Cyllid | Newyddion |

Mae’r Bwrsari i arweinwyr yng Nghymru yn ôl

Darllen mwy

Cyhoeddwyd: 25/05/24 | Categorïau: Cyllid |

Cryfhau’r bartneriaeth rhwng Cymru ac Affrica

Darllen mwy