Mae cyllid o’n cynllun newydd, ‘Cymunedau Cwtsh Comic Relief’ yn cryfhau gwaith mudiadau llawr gwlad yng Nghymru ac yn eu cynorthwyo i gyflawni newid cymdeithasol.
Rydyn ni wedi lansio cynllun grant newydd i helpu mudiadau lleol i ddarparu cymorth cynnes, diogel a gofalgar ar gyfer y bobl sydd ei angen mwyaf. Mae cronfa Cymunedau Cwtsh Comic Relief, a gaiff ei rheoli gan CGGC a’i chyllido gan Comic Relief, ar agor nawr am geisiadau tan 22 Mai 2026. Nod y gronfa yw grymuso grwpiau cymunedol i gynyddu eu heffaith, ymateb i anghenion brys ac adeiladu cymdogaethau cryfach a mwy gwydn ledled Cymru.
YNGLŶN Â’R CYNLLUN GRANT
Mae Cymunedau Cwtsh Comic Relief yn cynnig cwtshys bach i fudiadau gwirfoddol Cymreig â llai na £250,000 o incwm. Mae’r rhaglen yn cydnabod y rôl hanfodol y mae grwpiau llawr gwlad yn ei chwarae mewn creu newid positif, o gynnig clust i wrando mewn argyfwng i helpu teuluoedd i deimlo’u bod yn cael eu cefnogi mewn cyfnodau anodd.
Mae cyllid ar gael i fudiadau sy’n gweithio mewn un neu ragor o dri maes blaenoriaethol y cynllun: anghenion sylfaenol, iechyd (datblygiad plentyndod cynnar) a diogelwch. Mae’r themâu hyn yn canolbwyntio ar y pethau hanfodol sydd eu hangen ar bobl i deimlo’n ddiogel, i deimlo eu bod yn cael eu cefnogi a’u bod yn gallu ffynnu.
BETH SYDD AR GAEL
Mae grantiau rhwng £15,000 a £35,000 ar gael i fudiadau sy’n darparu gwasanaethau a chymorth ymarferol uniongyrchol o fewn eu cymunedau. Mae hyn yn cynnwys:
- Prosiectau sy’n bodloni anghenion sylfaenol, fel banciau bwyd, ceginau cymunedol neu gynlluniau sy’n darparu dillad cynnes, eitemau hylendid neu hanfodion i’r cartref.
- Gweithgareddau sy’n hybu datblygiad plentyndod cynnar, gan gynnwys grwpiau rhieni a phlant bach, sesiynau dysgu a redir gan y gymuned neu brosiectau cefnogaeth gan gyfoedion a arweinir gan rieni â phrofiad bywyd.
- Gwasanaethau sy’n gwella diogelwch a chynhwysiant, fel canolfannau menywod, grwpiau cymorth ffoaduriaid neu geiswyr lloches neu fannau cymunedol diogel i fenywod, pobl LHDTC+ neu bobl eraill mewn perygl.
SUT I WNEUD CAIS
Gellir gwneud cais drwy MAP, Porth Ceisiadau Amlbwrpas CGGC. I gofrestru a gweld cyfleoedd presennol CGGC, ewch i map.wcva.cymru.
Mae’r ffenestr ymgeisio ar agor tan 22 Mai 2026 am 11.59pm.
Gallwch ddysgu mwy drwy ddarllen canllawiau cynllun Cymunedau Cwtsh Comic Relief.