Mae cynllun grantiau Gwirfoddoli Cymru yn cefnogi prosiectau sy’n creu profiadau gwirfoddoli ystyrlon, yn chwalu’r rhwystrau i gymryd rhan ac sy’n gwneud gwahaniaeth parhaol i gymunedau.
Mae ail gylch cynllun Prif Grant Gwirfoddoli Cymru ar agor nawr am geisiadau gan ddefnyddio Porth Ymgeisio Amlbwrpas (MAP) CGGC.
Bydd y cynllun yn canolbwyntio ar brosiectau sy’n trechu’r rhwystrau i wirfoddoli, yn rhoi profiad positif i’r gwirfoddolwr ac sy’n cael effaith hirdymor ar y gymuned.
Bydd cyllid o hyd at £30,000 y flwyddyn ar gael, a’r prosiectau yn cael eu cyflawni dros ddwy flynedd ar y mwyaf. Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw 24 Hydref 2025 am 11.59 pm.
YNGLŶN Â GRANTIAU GWIRFODDOLI CYMRU
Gwirfoddoli yw un o’r dangosyddion llesiant cenedlaethol sy’n olrhain cynnydd Cymru yn erbyn nodau Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru).
Nod Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (2015) yw gwella’r ffordd y mae Cymru yn cyflawni llesiant economaidd, cymdeithasol, amgylcheddol a diwylliannol.
Mae gwirfoddolwyr yn chwarae rôl hanfodol mewn helpu mudiadau gwirfoddol i gyflawni eu cenadaethau a’u gwerthoedd. Trwy gyllido mudiadau i gefnogi a hyfforddi unigolion mewn cyfleoedd gwirfoddoli o ansawdd, mae Prif Grant Gwirfoddoli Cymru yn cyfrannu at gymunedau cryfach a newid positif parhaol.
Mae’r prosiectau sydd wedi’u cyllido drwy’r cynllun eisoes wedi cael effaith ystyrlon ar hyd a lled Cymru, ac wedi bod yn fuddiol i wirfoddolwyr a’r cymunedau y maen nhw’n eu gwasanaethu.
CRYFHAU CYMUNEDAU DRWY WIRFODDOLI
Mae prosiect Gyda’n Gilydd Advocacy Support Cymru wedi grymuso pobl â phrofiad bywyd o broblemau iechyd meddwl i gynorthwyo pobl eraill a helpu i lunio gwasanaethau eirioli. Gwnaeth gwirfoddolwyr ennill sgiliau, gwneud ffrindiau a gwneud cyfraniadau ystyrlon.
Gwnaeth Prosiect Gwirfoddoli gyda’r Heddlu Sgiliau a Gwirfoddoli Cymru (SVC Cymru) alluogi gwirfoddolwyr i gefnogi mentrau atal troseddau ochr yn ochr â Heddlu De Cymru. Dywedodd gwirfoddolwr a oedd yn gysylltiedig â’r Cynllun Bws Diogel, sy’n helpu pobl agored i niwed i fod yn ddiogel yn ystod nosweithiau allan yng Nghaerdydd, fod y profiad wedi bod yn fwy na chyfle gwirfoddoli. ‘Mae wedi bod yn gyfle i gael effaith ystyrlon, ar y daith tuag at gymuned fwy diogel a thosturiol.’
Gwnaeth Home-Start Sir y Fflint ddefnyddio’u grant i recriwtio Cydlynydd Gwirfoddolwyr, a gyflwynodd mwy o gymorth a hyblygrwydd i’r gwirfoddolwyr a gwella eu llesiant. Gwnaeth y Cydlynydd hefyd oruchwylio’r gwaith o adnewyddu’r Wobr Buddsoddi mewn Gwirfoddolwyr, gan arwain at welliannau amlwg mewn sut y rheolwyd gwirfoddoli. Dywedodd ymddiriedolwr, ‘mae wedi cyflwyno cymaint o syniadau newydd, rydyn ni’n fudiad llawer gwell o’i chael hi yn y swydd.’
RHAGOR O WYBODAETH AC YMGEISIO
Os oes gan eich mudiad ddiddordeb mewn manteisio ar Gynllun Prif Grant Gwirfoddoli Cymru, ewch i dudalen grantiau Gwirfoddoli Cymru i ddarllen canllawiau llawn y cynllun neu cysylltwch â grantiaugwirfoddolicymru@wcva.cymru.
Bydd sesiwn wybodaeth yn cael ei chynnal ar-lein ar 2 Medi 2025 rhwng 10.30am a 12.30pm. Cofrestrwch yma os hoffech fynychu.
Gellir gwneud ceisiadau drwy MAP, Porth Ymgeisio Amlbwrpas CGGC. I gofrestru a gweld y cyfleoedd cyllido presennol gan CGGC, ewch i map.wcva.cymru.