Gall mudiadau gwirfoddol wneud cais nawr am gyllid pandemig trwy gam newydd o Gronfa Gwydnwch Trydydd Sector Cymru.
Mae Cronfa Gwydnwch y trydydd sector (TSRF) wedi rhoi cymorth unigryw i 235 o fudiadau gwirfoddol yng Nghymru ers Ebrill 2020. Ond, rydyn ni’n gwybod bod elusennau a grwpiau gwirfoddol eraill yn wynebu heriau cyfredol a newydd wrth iddynt fynd i’r afael ag effeithiau parhaus COVID-19.
Ar agor i geisiadau heddiw, mae cam 3 y TSRF yn cynnig cyllid grant i helpu mudiadau gwirfoddol gyda’r costau i ddod drwy bandemig COVID-19. Gellir defnyddio’r grantiau hefyd i fuddsoddi mewn gweithgareddau newydd neu ychwanegol a fydd yn cynhyrchu elw y tu hwnt i’r cyfnod cyllido.
YNGLŶN Â’R GRONFA
Mae Cam 3 Cronfa Gwydnwch Trydydd Sector Cymru (TSRF) yn rhan o’r £2.4 miliwn o gymorth a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru. Mae grantiau o hyd at £50,000 ar gael drwy ein tîm Buddsoddiad Cymdeithasol Cymru. Os bydd y gweithgaredd yn gofyn am fwy na hynny o gyllid, mae cyfle i wneud cais am fenthyciad gan Fuddsoddiad Cymdeithasol Cymru os bydd angen.
Er mwyn galluogi adferiad teg a chyfiawn yng Nghymru, mae cam newydd y TSRF yn rhoi blaenoriaeth i fudiadau sy’n cynorthwyo pobl â nodweddion gwarchodedig, a’r rheini nad ydynt wedi derbyn cyllid TSRF o’r blaen.
Mae ceisiadau ar agor i unrhyw fudiad gwirfoddol cymwys yng Nghymru, ac mae cymorth ar gael i helpu mudiadau i wneud yn siŵr eu bod yn gymwys ar gyfer y gronfa.
GOROESI A FFYNNU
Mae’r gronfa wedi’i rhannu’n ddau gategori:
Goroesi
Gan gydnabod nad oedd effaith COVID-19 wedi effeithio ar fudiad neu wedi dod i’r amlwg tan yn ddiweddarach, mae’r categori hwn wedi’i gynllunio i drechu unrhyw ostyngiad digyffelyb yn eich incwm codi arian a derbyn rhoddion.
Nid diben y gronfa yw adennill incwm a gollwyd – ei diben yw darparu digon o gyllid i dalu gwariant hanfodol na ellir talu amdano gan unrhyw incwm sydd ar ôl nac ymyriadau cynorthwyol eraill. ‘Y cyllid dewis olaf’.
Ffynnu
Bydd cyllid hefyd yn cael ei ddyrannu i fudiadau sy’n edrych tuag at eu dyfodol, er enghraifft, i newid eu ffrydiau incwm neu i fuddsoddi yn y mudiad er mwyn caniatáu iddo dyfu ac ehangu.
Bydd y gofynion yn debyg iawn i’r categori ‘goroesi’, ond bydd hefyd yn gofyn am gynllun a rhagolwg llif arian i gefnogi’r gweithgaredd newydd.
RHAGOR O WYBODAETH A GWNEUD CAIS
I gael rhagor o wybodaeth am y gronfa, eich cymhwysedd a sut i wneud cais, ewch i’n tudalen ar Gronfa Gwydnwch y Trydydd Sector.