Mae grŵp o bobl sy'n gwenu yn sefyll ar lawr siop gyda chwn

Grantiau ar gyfer datblygu eich dulliau i wirfoddoli – Cau yn fuan

Cyhoeddwyd : 17/07/23 | Categorïau: Cyllid | Newyddion |

Mae Cylch 3 Grant Strategol Gwirfoddoli Cymru ar agor am geisiadau i fudiadau sy’n awyddus i wella eu systemau gwirfoddoli.

Nod y cynllun Grant Strategol Gwirfoddoli Cymru (VWSG) yw rhoi cymorth i nifer bychan o prosiectau strategol (8-10) i adeiladu ar y dulliau i wirfoddoli newydd neu well ledled Cymru a dysgu oddi wrthynt.  Bydd y grantiau yn galluogi  grwpiau i edrych yn fanylach ar y cynnydd sydd wedi’i wneud yn ystod y pandemig a’i ymwreiddio mewn gwaith parhaus.

BETH SY’N NEWYDD AR GYFER CYLCH 3?

Yn dilyn gwerthusiad manwl o gylch peilot VWSG gan Wavehill Ltd, mae’r cynllun  wedi’i ddatblygu a bydd y cylch yn canolbwyntio ar y meysydd blaenoriaeth canlynol:

  • Iechyd a gofal cymdeithasol
  • Addysg a phobl ifanc
  • Yr Amgylchedd/yr argyfwng hinsawdd
  • Celfyddydau / diwylliant / chwaraeon
  • Y Gymraeg/cymunedau

Gall ymgeiswyr wneud cais am grantiau hyd at £100,000 ar gyfer gweithgareddau a gaiff eu cyflawni am hyd at 18 mis. Gwnewch yn siŵr eich bod yn darllen y canllawiau llawn ynghylch y cynllun cyn ymgeisio.

GWIRFODDOLWYR BUSNES FOOTHOLD CYMRU

Defnyddiodd Foothold Cymru gyllid cynllun peilot VWSG i ddod â mudiadau o’r sector preifat at ei gilydd i drafod buddion cynlluniau gwirfoddoli â chymorth cyflogwr a mynd i’r afael â’r rhwystrau i gwmnïau preifat. Aethant ati fel grŵp i weithio gyda’i gilydd i ddatblygu ffyrdd gwell o weithio y gellir eu copïo mewn cymunedau eraill ledled Cymru.

Fel rhan o’r prosiect, gwnaeth staff TRJ rywfaint o gwirfoddoli â chymorth cyflogwr gyda Foothold, gan ddefnyddio eu harbenigedd i helpu gyda phaentio ac addurno mawr ei angen yn Hwb Dim Gwastraff y mudiad.

‘Gwnaeth TRJ nid yn unig gwblhau gwaith paentio proffesiynol,’ meddai Janice Morgan, Dirprwy Brif Weithredwr yn Foothold Cymru. ‘Ond wrth wneud hynny, gwnaethant roi cyngor ar baentio, paratoi a phaentio i’r rheini ar leoliad gwaith gyda Foothold Cymru, a fydd yn gweithio yn ein siop ail-baentio.

‘Nawr, bydd staff Foothold Cymru a’r rheini ar leoliadau gwaith gyda nhw yn gallu trosglwyddo’r wybodaeth newydd hon i gwsmeriaid y siop, a dangos ansawdd y paent wedi’i ailgylchu a ddefnyddiwyd ar waliau’r cyntedd. Bydd hyn yn helpu cymaint o’n teuluoedd ni i arbed arian, oherwydd gallant ailwampio eu cartrefi eu hunain yn rhad a chyda chyngor arbenigol a gafodd ei rannu gan TRJ drwy Foothold Cymru.’

Mae grŵp o bobl sy'n gwenu yn sefyll ar lawr siop gyda chwn
Gwirfoddolwyr a staff gyda’i gilydd ar ôl sesiwn baentio ac addurno yn hwb dim gwastraff Foothold.

SUT I WNEUD CAIS

Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw 21 Gorffennaf 2023.  Os oes gennych chi ddiddordeb mewn ymgeisio, ymwelwch ar ein tudalen VWSG, ac mae croeso i chi gysylltu ag un o’r tîm a restrwyd isod.

Newyddion cysylltiedig

Cyhoeddwyd: 10/09/24 | Categorïau: Cyllid |

Diwrnod Ymwybyddiaeth Rhodd Cymorth 2024

Darllen mwy

Cyhoeddwyd: 23/08/24 | Categorïau: Cyllid | Gwybodaeth a chymorth | Newyddion |

Yr ymgyrch ‘ewyllysgaredd’ sy’n ennill tir

Darllen mwy

Cyhoeddwyd: 11/07/24 | Categorïau: Cyllid | Newyddion |

Mae’r Bwrsari i arweinwyr yng Nghymru yn ôl

Darllen mwy