Mae cynllun Grant Strategol Gwirfoddoli Cymru ar agor am geisiadau tan 7 Awst.
A allech chi ddatblygu prosiect a allai gyflwyno ffordd arloesol i wirfoddoli gyfrannu at flaenoriaethau strategol cenedlaethol?
Bydd grant Strategol Gwirfoddoli Cymru eleni yn adeiladu ar y gwaith a wnaed yn y rhaglen beilot gychwynnol. Bydd prosiectau yn datgloi’r potensial ar gyfer ymgorffori a/neu uwchraddio’r gwirfoddoli cydgysylltiedig. Croesawir ceisiadau grant ar gyfer prosiectau hyd at 12 mis o hyd gwerth rhwng £50,000 a £100,000.
NODAU’R GRANT
Bydd y gronfa hon yn galluogi nifer fach (pedwar – Chwech) o fuddsoddiadau strategol i adeiladu ar y dulliau/mentrau newydd neu well o wirfoddoli ledled Cymru ac i ddysgu oddi wrthyn nhw. Bydd yn galluogi’r cynnydd a wnaed yn ystod y pandemig i gael ei archwilio ymhellach a’i ‘ymwreiddio’ i mewn i waith parhaus.
Gallai prosiectau, er enghraifft, adeiladu ar wersi sydd wedi’u dysgu hyd yn hyn neu werthuso a chryfhau eich dull gweithredu ymhellach – gan gynyddu graddfa, ehangu partneriaethau, egluro arweinyddiaeth ac atebolrwydd neu adeiladu seilwaith cymorth cryfach.
AMCANION Y GRANT
Datgloi potensial strategol gwirfoddoli yn ystod y cyfnod mwy hirdymor drwy:
- Adnabod yr angen strategol ac edrych ar gyfleoedd gwirfoddoli newydd neu gael gwared â rhwystrau i wirfoddoli;
- Edrych ar bartneriaethau o fewn y trydydd sector, y sector preifat a’r sector cyhoeddus a’r partneriaethau sydd rhyngddynt;
- Cefnogi’r gwaith o uwchraddio isadeiledd strategol a threfnu gwirfoddolwyr i ymgorffori arferion da sy’n dod i’r amlwg;
- Dysgu’n drylwyr am gydraddoldeb a chynhwysiant ym maes gwirfoddoli a sut y mae hyn yn effeithio ar gymunedau a’u lefelau ymgysylltu;
- Cryfhau partneriaethau;
- Hybu buddsoddi ariannol ac anariannol pellach.
Rydym yn croesawu ceisiadau gan brosiectau a fydd yn cynnwys neu’n gweithio er budd ceiswyr lloches a ffoaduriaid.
Am ragor o wybodaeth, darllenwch ganllawiau llawn y cynllun yma. I wneud cais, ewch i https://map.wcva.cymru
Os oes gennych chi syniadau yr hoffech chi eu trafod, cysylltwch â ni.
Os yw eich syniadau yn ymwneud â gwirfoddoli ym maes iechyd a gofal cymdeithasol, bydd Rhyeolwr Helplu Cymru yn falch o glywed oddi wrthoch fliddell@wcva.cymru.