Dwylo mewn gliniadur gyda baner Iwerddon

Grant SCoRE Cymru i gefnogi cydweithrediad Môr Iwerddon

Cyhoeddwyd : 30/07/21 | Categorïau: Newyddion |

Cyfle i’r sector gwirfoddol gydweithio â phartneriaid ar draws Môr Iwerddon.

Rhaglen grant gan Lywodraeth Cymru yw SCoRE Cymru sy’n ceisio cynyddu cyfranogiad Cymru yn Horizon Ewrop (Saesneg yn unig), rhaglen ymchwil ac arloesedd yr UE, y mae gan y DU fynediad llawn ati o hyd. Mae’r cynllun yn rhoi cymorth ariannol i fudiadau yng Nghymru i’w helpu i feithrin partneriaethau rhyngwladol gyda’r nod o gael mynediad at Horizon Ewrop. Mae gan y cais cyfredol am geisiadau, fodd bynnag, gwmpas ehangach ac mae’n cynnwys 2 linyn: yn ogystal â chael cymaint â phosibl o fudiadau i fod yn rhan o Horizon Ewrop, bydd hefyd yn cefnogi cydweithrediad ar draws Môr Iwerddon nad yw’n gyfyngedig i waith ymchwil, arloesedd a Horizon Ewrop. Bydd gweithgareddau a gefnogir o dan y llinyn hwn yn meithrin cydweithrediad mewn unrhyw un o’r chwe maes a nodwyd yng Nghyd-ddatganiad a Chynllun Gweithredu ar y Cyd Iwerddon-Cymru.

Mae cysylltiad wedi bod rhwng Cymru ac Iwerddon ers tro byd ac maen nhw’n rhannu gwerthoedd a diddordebau cyffredin. Yn dilyn ymadawiad y DU o’r UE, mae Iwerddon yn parhau i fod yn bartner rhyngwladol blaenoriaethol â Chymru, ac mae’r ddwy Lywodraeth yn ymrwymedig i gryfhau’r gydberthynas. Cafodd Cynllun Gweithredu ar y Cyd Iwerddon-Cymru ei gyhoeddi’n gynharach y flwyddyn hon i osod y weledigaeth ar gyfer sut gall y ddwy genedl weithio gyda’i gilydd ar feysydd polisi ar y cyd rhwng 2021-2025. Mae’r Cynllun Gweithredu, a fydd yn cael ei adolygu a’i ddiweddaru bob blwyddyn, yn nodi chwe maes cydweithredu:

  • Ymgysylltu ar Lefel Wleidyddol a Swyddogol
  • Yr Hinsawdd a Chynaliadwyedd
  • Masnach a Thwristiaeth
  • Addysg ac Ymchwil
  • Diwylliant, Iaith a Threftadaeth
  • Cymunedau, Cymry/Gwyddelod ar Wasgar a Chwaraeon

Gan ystyried bod y meysydd hyn yn gorgyffwrdd ag amrediad eang o weithgareddau’r sector gwirfoddol, mae’r agenda ddwyochrog hon yn gyfle i fudiadau gwirfoddol feithrin cydberthnasau â phartneriaid ar draws Môr Iwerddon ac, o ganlyniad, cael budd o gyfnewid syniadau, rhannu dysgu ac arferion gorau, mynd i’r afael â’r heriau cyffredin ac edrych ar gyfleoedd i gydweithredu.

Mae’n bosibl y gallai cyllid SCoRE Cymru gynnig cymorth ariannol i dalu am gostau gweithgareddau sy’n cyfrannu at feithrin cydweithrediad, e.e. costau cyfieithu, y gwaith o gydlynu consortiwm, aelodaeth grwpiau buddiant, yr amser y mae staff wedi’i roi i negodi cydberthnasau strategol, teithio ac ati. Gall mudiadau wneud cais am hyd at £10,000, nid oes angen cyllid cyfatebol. Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw 9am dydd Gwener 20 Awst 2021 a rhaid i’r grant gael ei wario erbyn 31 Mawrth 2022 fan bellaf.

Mae rhagor o wybodaeth am yr alwad ar gael yma. Os oes gennych unrhyw ymholiadau neu syniadau am brosiect yr hoffech eu trafod, cysylltwch ag Uned Horizon Europe Llywodraeth Cymru yn HorizonEurope@gov.cymru.

Os oes gennych ddiddordeb mewn gwneud cais am gyllid SCoRE Cymru o dan faes cydweithredu Môr Iwerddon ond eich bod yn teimlo nad oes digon o amser i gyflwyno cais erbyn y dyddiad cau, rhowch wybod i ni yn 3set@wcva.cymru fel y gallwn ei godi gyda Llywodraeth Cymru os oes mae ‘na ddiddordeb mewn cymorth bellach o’r sector yn y maes hwn.

 

Newyddion cysylltiedig

Cyhoeddwyd: 13/01/25
Categorïau: Newyddion

Datganiad ar yr ymosodiadau diweddar ar Gyngor Ffoaduriaid Cymru dros gyfryngau cymdeithasol

Darllen mwy

Cyhoeddwyd: 13/12/24
Categorïau: Newyddion

Swydd Wag – Rheolwr Rhaglen Forol

Darllen mwy

Cyhoeddwyd: 13/12/24
Categorïau: Gwybodaeth a chymorth, Newyddion

CLlLC yn amlygu pwysau ariannu ‘anghynaladwy’

Darllen mwy