Bydd Cynllun Grant Cymru ac Affrica ar agor ar gyfer ceisiadau nes 16 Ionawr 2022.
Mae cynllun grantiau Cymru ac Affrica yn gronfa grantiau ar gyfer grwpiau cymunedol a mudiadau ledled Cymru sy’n gweithio mewn partneriaethau yn Affrica Is-Sahara.
Caiff effeithiau byd-eang parhaus argyfwng COVID-19 eu profi mewn gwahanol ffyrdd ledled y byd. Gan ystyried anghenion amrywiol partneriaethau, mae Cynllun Grantiau Bach Cymru ac Affrica yn croesawu ceisiadau sy’n diwallu anghenion cyfredol y cymunedau rydych chi’n gweithio gyda nhw, sydd naill ai’n ymateb i effaith y pandemig neu’n ailgychwyn gweithgareddau ‘busnes fel arfer’.
Sicrhewch eich bod wedi darllen y ddogfen ganllaw ar wefan CGGC cyn dechrau ar eich cais am gyllid.
GRANTIAU SYDD AR GAEL
Ar gyfer y cylch grantiau hwn, bydd dau ffrwd o grantiau – bach a mawr.
- Mae grantiau bach rhwng £5,000 – £15,000 ar gael i brosiectau sy’n ymateb i angen a nodwyd yn y gymuned y maen nhw’n gweithio ac sy’n cyd-fynd ag o leiaf un o amcanion y grant. I gael rhagor o wybodaeth am y mathau o brosiectau y gallai hyn gynnwys, cyfeiriwch at y themâu grant isod. Mae £115,000 ar gael ar gyfer grantiau bach.
- Mae grantiau COVID-19 mawr rhwng £30,000 – £200,000 ar gael i brosiectau sy’n ymateb i angen a achoswyd gan bandemig COVID-19. Gall hyn fod yn ymyrraeth tymor byr neu’n gam gweithredu i hwyluso adferiad a chynorthwyo â gwydnwch yn y dyfodol. Mae £708,000 o gyllid ychwanegol ar gael ar gyfer grantiau COVID-19 mawr.
Bydd y cylch grant hwn yn derbyn ceisiadau am ddeg wythnos gyda cheisiadau’n cael eu hadolygu ar sail y cyntaf i’r felin. Mae amserlen a phroses lawn ar gyfer dyfarniadau ar gael ar wefan CGGC. Ar gyfer ymholiadau cyffredinol ynghylch y broses ymgeisio, anfonwch e-bost at walesafricagrants@wcva.cymru neu ffoniwch 0300 111 0124.
I gael cymorth i ddatblygu’ch cais, cysylltwch ag enquiries@hubcymruafrica.org.uk.
Cofrestrwch yma i dderbyn diweddariadau am y cynllun hwn ac eraill.