Kids planting trees with volunteers in park

Grant £380,000 newydd – Lleoedd Lleol ar gyfer Natur

Cyhoeddwyd : 19/07/21 | Categorïau: Cyllid |

HEDDIW (dydd Llun 19 Gorffennaf), mae rhaglen grant gwerth £380,000 i annog pobl o gymunedau sydd wedi’u hallgáu a difreintiedig ledled Cymru i gysylltu â natur yn cael ei lansio.

Mae’r rhaglen ‘Lleoedd Lleol ar gyfer Natur – Chwalu Rhwystrau’ yn cael ei weinyddu gan Gronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol yng Nghymru a’i hariannu gan Lywodraeth Cymru.

Gan gynnig grantiau o rhwng £30,000 a £100,000, bydd yr arian yn annog cymunedau gan gynnwys grwpiau pobl dduon a lleiafrifoedd ethnig, ffoaduriaid, Sipsiwn, Roma a Theithwyr sy’n byw mewn ardaloedd trefol neu ger ardaloedd trefol, i gysylltu â’r natur ar garreg eu drws.

Bydd y rhaglen grantiau hefyd yn gallu darparu cyllid ar gyfer cymunedau yn y 30 y cant uchaf o gymunedau mwyaf difreintiedig yng Nghymru a amlygir ym Mynegai Amddifadedd Lluosog Cymru.

Dyma’r cymunedau sy’n cael eu taro waethaf gan faterion gan gynnwys tlodi, diweithdra, afiechyd a thai gwael.

Bydd y rhaglen ‘Lleoedd Lleol ar gyfer Natur – Chwalu Rhwystrau’ yn cyflogi arbennigwyr i weithio gyda prosiectau neu grwpiau sydd heb wneud cais am grant o’r blaen a’u cefnogi wrth iddynt ymgeisio am gyllid.

Mae’n rhan o gynllun ‘Lleoedd Lleol ar gyfer Natur’ Llywodraeth Cymru sydd wedi ymrwymo i greu, adfer a gwella natur ‘ar garreg eich drws’.

Treulio amser gyda natur yn bwysicach nag erioed o’r blaen

Nid yw erioed wedi bod yn bwysicach i ofalu am natur, helpu pobl i’w ddeall a threulio amser yn gwerthfawrogi ei bwysigrwydd. Meddai Andrew White, Cyfarwyddwr y Gronfa Treftadaeth yng Nghymru.

“Dyna pam ein bod wrth ein bodd ein bod yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru i ddarparu’r rhaglen grant ‘Lleoedd Lleol ar gyfer Natur – Chwalu Rhwystrau’ i helpu i ailgysylltu pobl o gymunedau sydd wedi’u hallgáu a difreintiedig â’r byd naturiol.

“Bydd y rhaglen yn ceisio ymgysylltu ag ystod ehangach o bobl â natur a bydd hefyd yn ein helpu i gael gwell dealltwriaeth o’r rhwystrau i ymgysylltu â natur a nodi atebion posibl i hyn.”

Llunio’r dyfodol

Bydd canfyddiadau’r rhaglen grant ‘Lleoedd Lleol ar gyfer Natur – Chwalu Rhwystrau’ yn helpu i lywio cyfeiriad rhaglen Lleoedd Lleol ar gyfer Natur Llywodraeth Cymru yn y dyfodol.

Bydd ‘Lleoedd Lleol ar gyfer Natur – Chwalu Rhwystrau’ hefyd yn cefnogi grwpiau sydd eisoes wedi cael arian o’r rhaglen grant ‘Lleoedd Lleol ar gyfer Natur’ presennol i gadw eu prosiectau i fynd.

Annog cymunedau i greu natur ar garreg eu drws

Dywedodd Julie James, y Gweinidog dros y Newid yn yr Hinsawdd: ‘Rydym yn falch iawn o gefnogi lansiad y prosiect gwych hwn drwy ein rhaglen Lleoedd Lleol ar gyfer Natur a sefydlwyd i annog cymunedau i gymryd rhan yn y gwaith o greu natur ar garreg eu drws.

Rydym wedi gweld mwy o werthfawrogiad o natur yn ystod y pandemig a’r ffordd y mae’n sail i’n hiechyd, ein heconomi a’n llesiant ehangach.

Byddwn yn annog unrhyw un sy’n gweithio i brosiect neu grŵp i weld a allech fod yn gymwys i gael cymorth.’

Mae’r rhaglen grant ‘Lleoedd Lleol ar gyfer Natur – Chwalu Rhwystrau’ ar agor o ddydd Llun 19 Gorffennaf tan ddydd Iau 2 Medi.

Newyddion cysylltiedig

Cyhoeddwyd: 18/11/24
Categorïau: Cyllid, Newyddion

‘Grymuso pobl i weithredu er mwyn gwella eu hamgylchedd lleol’

Darllen mwy

Cyhoeddwyd: 18/11/24
Categorïau: Cyllid

Cyllid ar agor i brosiectau sy’n fuddiol i gymunedau a’r amgylchedd

Darllen mwy

Cyhoeddwyd: 13/11/24
Categorïau: Cyllid, Newyddion

Y diwrnod rhoi byd-eang

Darllen mwy