Rhaglen yn cael ei dosbarthu yn gofod3 2025

gofod3 – rhaglen digwyddiadau’n fyw nawr!

Cyhoeddwyd : 24/04/26 | Categorïau: Hyfforddiant a digwyddiadau | Mwyaf poblogaidd | Newyddion |

Mae’r aros ar ben, dewch i weld beth sy’n digwydd yn gofod3 eleni a chadwch eich lle ar y digwyddiad sector gwirfoddol mwyaf o’i fath yng Nghymru.

Mae gofod yn golygu ‘lle’ yn y Gymraeg a gofod3 yw ein gofod ni ar gyfer y sector gwirfoddol yng Nghymru. Gyda rhaglen digwyddiadau gofod3 2026 bellach wedi’i chyhoeddi, porwch drwy ein lliaws o ddigwyddiadau ysbrydoledig a sicrhau eich bod yn cadw eich lle am ddim heddiw.

Mae’r cofrestru ar agor nawr am ddiwrnod bywiog o siaradwyr, dosbarthiadau meistr, trafodaethau panel a gweithdai rhyngweithiol, a fydd yn cael ei gynnal ar 17 Mehefin 2026 yn Stadiwm Dinas Caerdydd. Waeth a ydych chi’n gobeithio dysgu rhywbeth newydd, rhannu syniadau neu wneud cysylltiadau ystyrlon, mae rhywbeth yma i chi.

Fel bob tro arall, mae gofod3 am ddim i’w fynychu. Gan mai capasiti cyfyngedig sydd gan sesiynau unigol, argymhellwn yn gryf eich bod yn cadw lle’n gynnar fel nad ydych yn cael eich siomi. Porwch drwy’r rhaglen lawn o ddigwyddiadau a dewiswch y sesiynau sydd bwysicaf i chi.

BETH SYDD YN Y RHAGLEN ELENI?

Am 2026, mae gennym sesiynau ar amrywiaeth o bynciau gan gynnwys cyllid, AI, polisi a gwleidyddiaeth, digidol, iechyd a gofal cymdeithasol, gwirfoddoli a mwy.

Dyma rai o’r digwyddiadau yn rhaglen eleni i gadw llygad amdanynt:

PAM DOD I GOFOD3?

Waeth a ydych chi’n ymddiriedolwr, yn aelod staff, yn wirfoddolwr neu’n bob un o’r rhain, dyma eich gofod chi i fyfyrio, dysgu a chynllunio ar gyfer y dyfodol.

Gofod i fyfyrio

Dyma eich gofod chi i bwyso a mesur a meddwl am y pethau sy’n bwysig i chi. Mae’n gyfle i rannu storïau, edrych ar ffyrdd o gael cydbwysedd iach rhwng bywyd a gwaith a darganfod y sector.

Gofod i ddysgu

Dyma eich gofod chi i ddysgu sgiliau a gwybodaeth newydd i’ch helpu i lywio eich hun ac eraill drwy faes anghyfarwydd. Mae’n gyfle i ddysgu o ddosbarthiadau meistr a arweinir gan arbenigwyr a gweithdai rhyngweithiol sy’n cynnig ystod eang o bynciau a thrafodaethau.

Gofod i gynllunio

Dyma eich gofod chi i ddechrau ar eich cynlluniau, er mwyn sicrhau bod eich mudiad nid yn unig yn dod drwyddi, ond ei fod hefyd yn ffynnu. Mae’n gyfle i wneud cysylltiadau gwerthfawr, gofyn cwestiynau heriol a chael eich ysbrydoli.

BETH SY’N NEWYDD YN GOFOD3 2026?

Rydyn ni’n gyffrous i gyflwyno rhai ychwanegiadau newydd ffantastig i ddigwyddiad eleni, sydd wedi’u dylunio i wneud eich profiad yn fwy gwerthfawr a difyr fyth.

Cyflwyniad Y Gyfnewidfa

Mae’r Gyfnewidfa yn ofod bywiog a chroesawgar i ddod â phobl ynghyd mewn lleoliad mwy hamddenol a chymdeithasol. Ochr yn ochr â’r Farchnad boblogaeth, mae’r Gyfnewidfa yn cynnig mwy fyth o gyfleoedd i gysylltu, cydweithio a meithrin cydberthnasau â mudiadau o bob rhan o’r sector – boed hynny dros baned neu damaid o fwyd.

Gwefan newydd a gwell

Rydyn ni hefyd wedi lansio gwefan gofod3 ddiwygiedig i’w gwneud hi’n symlach fyth i chi gynllunio eich diwrnod. Nawr, gallwch gofrestru ar gyfer eich tocyn mynediad cyffredinol, archebu eich holl sesiynau a gweld y rhaglen i gyd mewn un lle – a fydd yn gwneud eich profiad gofod3 yn fwy llyfn o’r dechrau i’r diwedd.

RHAGOR O WYBODAETH

Peidiwch â cholli’ch cyfle i fod yn rhan o gofod3 2026 – allwn ni ddim aros i’ch croesawu chi. Ewch i gofod3.cymru i weld y rhaglen lawn ac archebu.

Newyddion cysylltiedig

Cyhoeddwyd: 13/04/26
Categorïau: Gwybodaeth a chymorth, Hyfforddiant a digwyddiadau

Ymunwch ag Arweinwyr Cymdeithasol Cymru i ‘ddadbacio arweinyddiaeth’

Darllen mwy

Cyhoeddwyd: 09/04/26
Categorïau: Gwybodaeth a chymorth, Hyfforddiant a digwyddiadau

Rhaglen hyfforddiant sgiliau ar dir a môr wedi laniso

Darllen mwy

Cyhoeddwyd: 16/01/26
Categorïau: Hyfforddiant a digwyddiadau, Newyddion

gofod3 – archebwch eich gofod arddangos a digwyddiad

Darllen mwy