Pennaeth Buddsoddi Cymdeithasol CGGC, Alun Jones yn siarad â mynychwyr gofod3 2019

gofod3 – un wythnos i fynd!

Cyhoeddwyd : 28/05/24 | Categorïau: Hyfforddiant a digwyddiadau | Newyddion |

Gydag wythnos i fynd tan gofod3, cymerwch olwg ar y rhaglen gyffrous o ddigwyddiadau a chofrestrwch ar gyfer eich lle am ddim.

Mae gofod3 yn ôl fel digwyddiad wyneb yn wyneb eleni am y tro cyntaf ers cyn y pandemig. Gellir cofrestru nawr felly ymunwch â ni am amserlen gyffrous a phrysur o siaradwyr, dosbarthiadau meistr, trafodaethau panel a gweithdai ar 5 Mehefin 2024 yn Stadiwm Dinas Caerdydd, Caerdydd. Gallwn ni eich sicrhau chi y bydd rhywbeth at ddant pawb.

Fel yn y blynyddoedd cynt, bydd gofod3 am ddim i fynychu, ond gyda dim ond nifer penodol o leoedd ar bob sesiwn, rhaid archebu lle ymlaen llaw, gellir gweld y rhaglen digwyddiadau lawn.

PAM DOD I GOFOD3?

Waeth a ydych chi’n ymddiriedolwr, yn aelod staff, yn wirfoddolwr neu’n bob un o’r rhain, dyma’ch gofod chi i fyfyrio, dysgu a chynllunio ar gyfer y dyfodol.

Gofod i fyfyrio

Dyma’ch gofod chi i bwyso a mesur a meddwl am y pethau sy’n bwysig i chi. Mae’n gyfle i rannu storïau, edrych ar ffyrdd o gael cydbwysedd iach rhwng bywyd a gwaith a darganfod y sector.

Gofod i ddysgu

Dyma’ch gofod chi i ddysgu sgiliau a gwybodaeth newydd i’ch helpu i lywio eich hun ac eraill drwy faes anghyfarwydd. Mae’n gyfle i ddysgu o ddosbarthiadau meistr a arweinir gan arbenigwyr a gweithdai rhyngweithiol sy’n cynnig ystod eang o bynciau a thrafodaethau.

Gofod i gynllunio

Dyma’ch gofod chi i ddechrau ar eich cynlluniau, er mwyn sicrhau bod eich mudiad nid yn unig yn dod drwyddi, ond ei fod hefyd yn ffynnu. Mae’n gyfle i wneud cysylltiadau gwerthfawr, gofyn cwestiynau heriol a chael eich ysbrydoli.

MANTEISIO I’R EITHAF AR GOFOD3

gofod3 yw eich gofod unigryw chi. Dyma rai ffyrdd o sicrhau eich bod yn cael y gorau o’ch diwrnod.

  • Cofiwch nad cynhadledd ffurfiol gydag amserlen lem ar gyfer dod i sesiynau mo gofod3. Mae croeso i chi ddod i gymaint ag y dymunwch o ddigwyddiadau yn ystod y dydd, ond cofiwch fod gofalu am eich hun yn bwysig iawn
  • Peidiwch ag oedi – cofrestrwch ar gyfer eich digwyddiadau cyn gynted â phosibl. Gallwch ddewis cymaint ag y dymunwch, ond bydd angen cofrestru ar gyfer pob sesiwn ar wahân. Cliciwch yma i bori drwy’r amserlen (yn ôl pwnc, amser a mudiad)
  • Dysgwch o’ch gilydd – gwnewch yn siŵr eich bod yn ymweld â’r farchnad brysur ac yn gwneud cysylltiadau ag eraill a allai eich helpu i fynd â’ch gwaith i’r lefel nesaf
  • Byddwch yn garedig â chi’ch hun a mwynhewch!

RHAGOR O WYBODAETH

Am ragor o wybodaeth, ewch i wefan gofod3.

Newyddion cysylltiedig

Cyhoeddwyd: 18/10/24 | Categorïau: Hyfforddiant a digwyddiadau |

Ein AGM ar gyfer 2024 – ar gyfer aelodau CGGC yn unig

Darllen mwy

Cyhoeddwyd: 17/10/24 | Categorïau: Hyfforddiant a digwyddiadau | Newyddion |

Wythnos Ddiogelu 2024

Darllen mwy

Cyhoeddwyd: 04/10/24 | Categorïau: Gwirfoddoli | Hyfforddiant a digwyddiadau |

Wythnos yr Ymddiriedolwyr 2024

Darllen mwy