Grŵp o fynychwyr yn gofod3 2024 yn edrych ar raglen y digwyddiadau ac yn cael sgwrs

gofod3 – rhaglen ddigwyddiadau nawr yn fyw!

Cyhoeddwyd : 09/05/25 | Categorïau: Gwybodaeth a chymorth | Newyddion |

Edrychwch ar y rhaglen gyffrous o ddigwyddiadau a gwnewch yn siŵr eich bod yn cofrestru ar gyfer eich lle am ddim yn gofod3 2025.

Gellir cofrestru nawr felly ymunwch â ni am amserlen gyffrous a phrysur o siaradwyr, dosbarthiadau meistr, trafodaethau panel a gweithdai ar 2 Gorffennaf 2025 yn Stadiwm Dinas Caerdydd. Gallwn ni eich sicrhau chi y bydd rhywbeth at ddant pawb.

Fel yn y blynyddoedd cynt, bydd y digwyddiad am ddim i fynychu, ond gyda chapasiti cyfyngedig ar bob sesiwn, rhaid cadw lle ymlaen llaw. Gallwch weld y rhaglen ddigwyddiadau lawn yma.

PAM DOD I GOFOD3?

Waeth a ydych chi’n ymddiriedolwr, yn aelod staff, yn wirfoddolwr neu’n bob un o’r rhain, dyma eich gofod chi i fyfyrio, dysgu a chynllunio ar gyfer y dyfodol.

Gofod i fyfyrio

Dyma eich gofod chi i bwyso a mesur a meddwl am y pethau sy’n bwysig i chi. Mae’n gyfle i rannu storïau, edrych ar ffyrdd o gael cydbwysedd iach rhwng bywyd a gwaith a darganfod y sector.

Gofod i ddysgu

Dyma eich gofod chi i ddysgu sgiliau a gwybodaeth newydd i’ch helpu i lywio eich hun ac eraill drwy faes anghyfarwydd. Mae’n gyfle i ddysgu o ddosbarthiadau meistr a arweinir gan arbenigwyr a gweithdai rhyngweithiol sy’n cynnig ystod eang o bynciau a thrafodaethau.

Gofod i gynllunio

Dyma eich gofod chi i ddechrau ar eich cynlluniau, er mwyn sicrhau bod eich mudiad nid yn unig yn dod drwyddi, ond ei fod hefyd yn ffynnu. Mae’n gyfle i wneud cysylltiadau gwerthfawr, gofyn cwestiynau heriol a chael eich ysbrydoli.

MANTEISIO I’R EITHAF AR GOFOD3

gofod3 yw eich gofod unigryw chi. Dyma rai ffyrdd o sicrhau eich bod yn cael y gorau o’ch diwrnod.

  • Cofiwch nad cynhadledd ffurfiol gydag amserlen lem ar gyfer dod i sesiynau mo gofod3. Mae croeso i chi ddod i gymaint ag y dymunwch o ddigwyddiadau yn ystod y dydd, ond cofiwch ei bod hi’n bwysig iawn eich bod yn gofalu am eich hun
  • Peidiwch ag oedi – cofrestrwch ar gyfer eich digwyddiadau cyn gynted â phosibl. Gallwch ddewis cymaint ag y dymunwch, ond bydd angen cofrestru ar gyfer pob sesiwn ar wahân. Cliciwch yma i bori drwy’r amserlen (yn ôl pwnc, amser a mudiad)
  • Dysgwch o’ch gilydd – gwnewch yn siŵr eich bod yn ymweld â’r farchnad brysur ac yn gwneud cysylltiadau ag eraill a allai eich helpu i fynd â’ch gwaith i’r lefel nesaf
  • Byddwch yn garedig â chi’ch hun a mwynhewch!

RHAGOR O WYBODAETH

Am ragor o wybodaeth, ewch i wefan gofod3.

Newyddion cysylltiedig

Cyhoeddwyd: 09/05/25
Categorïau: Gwybodaeth a chymorth, Newyddion

Mapio’r sector busnes cymdeithasol yng Nghymru

Darllen mwy

Cyhoeddwyd: 28/04/25
Categorïau: Gwybodaeth a chymorth, Newyddion

Egwyddorion a sefydlwyd ar gyfer ariannu teg a chyson yn y sector gwirfoddol

Darllen mwy

Cyhoeddwyd: 28/04/25
Categorïau: Gwybodaeth a chymorth

Beth mae’r prosiect iechyd a gofal wedi’i gyflawni a beth sy’n dod nesaf

Darllen mwy